Cofiwch enw Mali Walker-Hunt gan i’w phedwar cais hi arwain Ysgol Gymraeg Bro Dur at fuddugoliaeth o 64-27 dros Ysgol Dyffryn Conwy yn Rownd Derfynol Dan 16 yr Ysgolion yn Rodney Parade yng nghyfres ‘Y Ffordd i’r Principality – Go Compare 2026’ heddiw.
Doedd y Gogleddwyr methu ag ymdopi â rhediadau bygythiol Walker-Hunt ac roedd hi wedi sgorio’r cyntaf o’i cheisiau wedi dim ond dau funud o chwarae.
Fe sefydlodd y sgôr cynnar hwnnw batrwm gweddill y gêm i bob pwrpas.
Yn ogystal â nodi ac edmygu campau Mali Walker-Hunt yn Rodney Parade heddiw, rhaid hefyd codi cap i berfformiad Isabelle Thomas – gan iddi gyfrannu 17 pwynt at gyfanswm ei thîm.
O safbwynt ymdrech ddewr Ysgol Dyffryn Conwy, fe lwyddodd Erin Jones a Nel i groesi am geisiau hanner cyntaf iddyn nhw, ond o ganlynaid i ddau gais yr un gan Walker-Hunt a’r asgellwr Millie Davies-Hookings yn y cyfnod agoriadol, roedd Bro Dur ar y blaen o 31-10 ar yr egwyl.
Gydag Isabelle Thomas yn llywio’r chwarae’n fedrus o safle’r maswr, roedd ei thîm ar y droed flaen gan amlaf – ac fe ychwanegwyd pump o geisiau pellach at eu cyfrif yn ystod yr ail hanner.
Walker-Hunt diriodd ddau ohonyn nhw cyn i O’Sullivan, Thomas a Tallulah Knoyle sgorio’r gweddill.
Llwyddodd Becca Griffiths i sgorio dau gais ail hanner ei hun – ond er holl ymdrechion merched Dyffryn Conwy – diwrnod Bro Dur oedd heddiw i fod.
Fe brofodd cyflymdra a chryfder Ysgol Gyfun Bryn Celynnog yn ormod i Ysgol Dyffryn Taf yn Rownd Derfynol y Merched Dan 14 yn Rodney Parade yn ail ffeinal y dydd.
Nid yw’r sgôr terfynol o 34-17 o blaid Bryn Celynnog yn adlewyrchiad teg o wir batrwm yr ornest hon gan i Ysgol Dyffryn Taf frwydro hyd at y chwiban olaf.
Gallu’r ysgol o ardal Rhondda Cynon Taf i fanteisio ar y cyfleoedd ddaeth i’w rhan oedd yn gyfrifol am y bwlch yn y sgôr yn y pendraw.
Fe sgoriodd y ddwy ysgol geisiau cynnar cyn i faswr amryddawn Bryn Celynnog, Lola Davies drosi ei chais ei hun. Yn fuan wedi hynny fe ychwanegodd Sophie Letman at gyfanswm ei thîm.
Er i asgellwr Ysgol Dyffryn Taf, Izzie Rohzonn, leihau’r bwlch am gyfnod – fe ymatebodd y gwibiwr Maize Carrington yn syth, wnaeth gwaith Davies o drosi’n gymharodd hawdd.
Tro’r wythwr grymus Emie George oedd hawlio’r cais nesaf, cyn i Sophie Letman wibio’n glir unwaith eto i gymryd y fuddugoliaeth o gyrraedd Dyffryn Taf.
Serch hynny merched y gorllewin gafodd y gair olaf wrth i gydweithio’r holl bac arwain at gais olaf yr ornest gystadeuol hon.
Yn y rownd derfynol ar gyfer y Merched Dan 12, llwyddodd Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr i wrthsefyll adfywiad ail hanner gan Ysgol Uwchradd Hwlffordd i ddal eu gafael ar fuddugoliaeth o 33-24.
Roedd merched y Brifddinas yn rheoli’r ornest yn llwyr yn yr hanner cyntaf ac roedden nhw ar y blaen o 21-0 ar yr egwyl.
Dau gais gan Amelia Hughes, gyda’r ail o’r rheiny’n berl o ymosodiad, a sgôr Indeg Cassidy osododd y sylfaen i’w buddugoliaeth ac fe roddodd tri throsiad campus Lilly Le-Sauteur fantais o un pwynt ar hugain i’w thîm erbyn chwiban olaf y cyfnod cyntaf.
Er mawr clod i Hwlffordd, roedd hi’n stori wahanol iawn yn yr ail hanner.
Fe sgoriodd Evie Lewis gais disglair ar yr ystlys cyn i Chloe Kplomedo roi gobaith i ferched Sir Benfro’n fuan wedi hynny.
Llwyddodd Anest Goram i ail-sefydlu mantais Plasmawr, ond tarodd Lewis yn ôl gyda chais arall i gadw Hwlffordd yn y gêm.
Fodd bynnag, sicrhawyd y fuddugoliaeth i Blasmawr pan groesodd Halle Goram yn wych ac felly cais cysur oedd sgôr gampus Freya Harries cyn y chwiban olaf..
