Y penwythnos yma, mae bachwr profiadol Cymru, Kelsey Jones, yn awchu i gyflawni rhywbeth nad yw hi wedi llwyddo’i wneud hyd yma’n ystod ei gyrfa – sef curo Ffrainc.
Enillodd Jones, sy’n chwarae gyda chlwb Hartpury-Caerloyw, ei chap cyntaf fel eilydd yn erbyn Seland Newydd yng Nghwpan y Byd 2017, ac fe enillodd ei 50fed cap yn Awstralia dros yr haf cyn iddi gystadlu yng Nghwpan y Byd am y trydydd tro yn Lloegr y llynedd.
Mae Kelsey Jones wedi bod yn chwaraewr allweddol i’w chlwb wrth iddyn nhw ennill tair coron Uwch Gynghrair Lloegr o’r bron o dan arweiniad Sean Lynn – ac wedi 9 mlynedd ar y llwyfan rhyngwladol, mae’r tân ym mol y bachwr 28 oed yn dal i losgi’n gryf. Fe sgoriodd Jones gais agoriadol Cymru’n y golled yn erbyn Yr Alban y penwythnos diwethaf, ond er na lwyddwyd i sicrhau’r fuddugoliaeth, roedd llawer o bethau cadarnhaol i’w cymryd o’r perfformiad:
“Roedd hi braidd yn swreal sgorio cais yn Stadiwm Principality. Wrth dyfu lan, dim ond y dynion oedd yn chwarae yno ac felly roedd cael y profiad o ddefnyddio’r un ystafell newid, cerdded i’r maes, canu’r anthem a sgorio cais yn anhygoel!
“Er fy mod wrth fy modd fy mod wedi sgorio yn y Stadiwm, mae’n rhaid i mi gyfaddef i fy nghyd-flaenwyr wneud fy ngwaith i o sgorio’n eithaf hawdd. Diolch ferched!”
Y penwythnos hwn bydd cartref Cymru’n symud rhyw 50 metr o Stadiwm Principality i Barc yr Arfau ar gyfer Ail Rownd o gemau Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness y Menywod eleni – ac mae’r her fydd yn eu wynebu’n sylweddol iawn.
Dyw menywod Cymru heb guro Ffrainc ers 2016 – pan oedd Kelsey Jones newydd ddechrau chwarae rygbi ym Mlaendulais – ac fe ddechreuodd Les Bleues eu hymgyrch eleni gyda buddugoliaeth bwynt bonws o ganlyniad i’w llwyddiant o 40-7 yn erbyn Yr Eidal, gan sgorio chwe chais yn y broses.
Ond er colled Cymru a her sylweddol Ffrainc, mae Jones yn edrych ymlaen yn fawr at yr ornest ddydd Sadwrn: “Dwi’n credu bod yr ymgyrch hon yn bwysig iawn yn ein datblygiad fel carfan. Gweld gwelliant sy’n bwysig wrth i ni edrych ymlaen at Gwpan y Byd mewn tair blynedd. Wedi dweud hynny mae ffydd a hunan-gred gwirioneddol yn y garfan ac mae hynny’n gyffrous iawn.
“Ry’n ni’n cystadlu ac yn perfformio’n well erbyn hyn ac mae tipyn o’r clod hwnnw’n gorfod mynd i’r merched ifanc sydd wedi ymuno gyda ni eleni. Mae ‘na deimlad gwahanol yn y garfan eleni a rhyw egni a brwdfrydedd gwahanol hefyd.
“Cyn i Sean ymuno gyda ni, roedden ni wedi llithro i mewn i rhyw arferiad o golli ond erbyn hyn ry’n ni’n credu yn ein hunain a’n gilydd.
“Does ganddon ni ddim byd i’w golli wrth fynd i mewn i’r gemau hyn, ac mae’r ymateb i gêm Yr Alban wedi bod yn wirioneddol gadarnhaol o ystyried ein perfformiadau’r tymor diwethaf.”
Brwydrodd Cymru hyd at yr eiliad olaf un y penwythnos diwethaf ond er i’r Crysau Cochion gadw’r bêl yn fyw am dros 20 cymal yn amser yr amen, colli o 24-19 oedd eu tynged yn y pendraw.
Ffrainc yw gwrthwynebwyr nesaf Kesley Jones a’i chyd-chwaraewyr cyn iddyn nhw deithio i Loegr i wynebu Pencampwyr y Byd yn y drydedd gêm. Felly beth yw’r nod i garfan Cymru dros yr wythniosau nesaf?:
“Mae angen i ni gadw’r ffydd yn ein gallu a sicrhau ein bod ni’n manteisio ar ein cyfleoedd.” meddai Jones.
“Mae dechrau’n effeithiol yn allweddol y penwythnos yma a bydd yn rhaid i ni fynd â’r gêm at Ffrainc. Os ry’n ni’n dal yn gystadleuol wrth i’r gêm fynd yn ei blaen – fe all unrhywbeth ddigwydd.”
