News

Griffiths yn cael ei phenodi’n gyfarwyddwr newydd rygbi menywod Cymru

Nadine Griffiths
Nadine Griffiths

Mae Nadine Griffiths wedi ateb galwad rygbi Cymru.

Mae’r gyn-chwaraewraig ryngwladol, enillodd 44 o gapiau dros Gymru, wedi ei phenodi fel Cyfarwyddwr Rygbi Menywod Undeb Rygbi Cymru a bydd hi’n aelod amlwg o Fwrdd Gweithredol yr Undeb.

Yn ôl Griffiths mae’n teimlo “yn fwy fel galwad na derbyn swydd”.

Wedi iddi roi gorau i chwarae’r gamp fe gafodd ei chyflogi’n gyntaf fel Swyddog Datblygu Rygbi gydag Undeb Rygbi Cymru yn gynnar yn y 2000au ac ers hynny mae hi wedi creu gyrfa lwyddiannus i’w hun yn y byd chwaraeon proffesiynol gan feithrin gwybodaeth fanwl o’r gêm ar y lefel gymunedol ac elît ar hyd ei thaith.

Fe chwaraeodd Griffiths dros Gymru yng Nghwpan y Byd ym 1998, a hi oedd un o’r merched cyntaf ym Mhrydain i ennill cymhwyster Hyfforddi Lefel 3 wedi iddi ymddeol fel chwaraewr. Bu hefyd yn aelod o dîm hyfforddi Menywod Cymru ar eu taith lwyddiannus i Dde Affrica yn 2013.

Ers hynny, mae hi wedi gweithio i gyrff llywodraethu ac asiantaethau amrywiol sydd wedi arwain at gynyddu’r niferoedd sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon. Mae ei gwaith a’i dylanwad hefyd wedi creu llwybrau datblygu cadarnhaol sydd wedi sicrhau gwaddol parhaol.

Wrth groesawu Nadine Griffiths yn ôl i gorlan Undeb Rygbi Cymru, dywedodd y Prif Weithredwr, Abi Tierney: “Fe gawsom ymgeiswyr arbennig yng nghyd-destun y swydd hon – ond fe ddisgleiriodd Nadine trwy gydol y broses.

“Mae hi mewn sefyllfa unigryw o fod wedi chwarae a hyfforddi ar lefel elît y gamp. Mae hi hefyd wedi ymroi ei hun i ddatblygu llwybrau penodol ar gyfer merched a menywod yng Nghaerdydd yn ogystal â datblygu rygbi cymunedol.

“Rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu ei chroesawu yn ôl atom i’r Undeb.”

Yn wreiddiol o Bencoed, mae Griffiths yn ymuno ag Undeb Rygbi Cymru o Rygbi Caerdydd, lle mae hi ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr y Sefydliad Cymunedol. Yn ystod ei chyfnod gyda chlwb y Brifddinas mae Griffiths wedi sefydlu a thyfu Sefydliad Rygbi Caerdydd, sydd bellach yn cysylltu’n uniongyrchol â dros 120,000 o bobl y flwyddyn.

Dywedodd Nadine Griffiths: “Fy nghryfderau mwyaf yw fy angerdd a fy ngwybodaeth am y gêm gymunedol yma yng Nghymru.

“Rwy’n Gymraes i’r carn ac mae gen i ddealltwriaeth ymarferol iawn o’r pethau sy’n rhwystro ein merched a’n menywod rhag cymryd rhan yn ein camp. Rwyf hefyd yn gwybod yn iawn am yr heriau a’r cyfleoedd ymarferol sy’n wynebu ein clybiau, yn enwedig o safbwynt ein timau benywaidd.

“Mae’n rhaid i ni dorri cwys ein hunain wrth edrych ymlaen at y dyfodol, ac rwy’n hynod gyffrous i fod mewn sefyllfa i allu arwain ein cenedl ar y daith anhygoel hon i ddatblygu rygbi merched a menywod ymhellach.

“Rwy’n cofio gwylio cystadleuaeth gyntaf erioed Cwpan y Byd i fenywod ym 1991 ac fe gefais fy ysbrydoli i geisio cyrraedd y llwyfan rhyngwladol bryd hynny. Rwy’n ei hystyried hi’n fraint arbennig fy mod i bellach yn gyfrifol yn y pendraw am ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr rygbi.

“Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous i ymuno ag Undeb Rygbi Cymru, yn enwedig gan bod y diddordeb yn chwaraeon merched a menywod yn tyfu’n arbennig o gyflym yng Nghymru ac ym mhedwar ban y byd.

“Daw fy mhenodiad mewn cyfnod pan fo’r Llewod wedi cyhoeddi eu taith hanesyddol gyntaf ar gyfer y menywod yn 2027, fydd y sicr o gynyddu’r diddordeb ymhellach.

“Bydd cynrychiolaeth o Gymru ar y daith honno’r flwyddyn nesaf wrth gwrs, a bydd y chwaraewyr hynny’n sicr o ysbrydoli merched ifanc i gydio mewn pêl rygbi a thyfu’r gamp arbennig hon, sydd mor agos at ein calonnau ni’i gyd – i lefel newydd sbon.”

“Byddwn yn cymryd y genedl gyda ni ar y siwrnai gyffrous hon o dwf a gwelliant yng nghamp y merched a’r menywod. Ymlaen!”

Bydd Griffiths yn dechrau ar ei gwaith fel Cyfarwyddwr Rygbi Menywod Undeb Rygbi Cymru’n swyddogol ar y 1af o Fehefin, ond bydd yn dechrau’r broses bontio o Rygbi Caerdydd — sy’n is-gwmni i Undeb Rygbi Cymru — ar unwaith.

Related Topics