News

Glantaf a Brynteg yn ennill Cwpanau Blwyddyn 9 a 10

Glantaf yn mwynhau eu buddugoliaeth

Sgoriodd Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf ddau gais yn y naill hanner a’r llall i sicrhau buddugoliaeth o 24-0 yn erbyn Ysgol Gyfun Y Pant i gael eu coroni’n Bencampwyr Bechgyn Blwyddyn 9 yn Rodney Parade yng Nghyfres ‘Y Ffordd i’r Principality 2026’.

Jac Witchell agorodd y sgorio gyda’i rediad grymus o’r llinell 22m, ac yn fuan iawn wedi hynny fe ymddangosodd yr asgellwr de Harry Davies ar yr ystlys chwith i ddyblu cyfrif ceisiau ei dîm.

Er i’r Pant daclo’n ddewr a dangos gwir ymroddiad – methiant fu eu holl ymdrechion i gyrraedd llinell gais Glantaf oedd â mantais o 12-0 wrth droi.

Witchell agorodd y sgorio yn yr ail hanner hefyd cyn i’w gyd-ganolwr Trystan Nicholas sgorio cais olaf yr ornest. Ychwanegodd Witchell y trosiad i godi cyfanswm ei ysgol i 24 pwynt.

Brynteg celebrate after winning the Boys Year 10 Final
Brynteg – Buddugwyr Blwyddyn 10

Yn Rownd Derfynol Blwyddyn 10, llwyddodd Ysgol Gyfun Brynteg i guro Ysgol Garth Olwg o 38-10 mewn gêm gyffrous arall.

Y cefnwr Will Mordecal sgoriodd gyntaf dros Frynteg, gyda’r maswr Ioan Jones yn ychwanegu’r trosiad. Fodd bynnag, dangosodd Garth Olwg nad oedden nhw am ildio’n hawdd a chadarnhawyd hynny pan groesodd Harri King y gwyngalch.

Er i Garth Olwg barhau i bwyso, Toby Williams o Frynteg sgoriodd gais nesaf yr ornest yn dilyn gwrth-ymosodiad campus yn ddwfn o’u hanner eu hunain. Yn dilyn trosiad Jones roedd yr ysgol o Ben-y-bont ar Ogwr 14-5 ar y blaen.

Tarodd Garth Olwg yn ôl eto, y tro hwn trwy’r bachwr Cori John wedi sgarmes symudol effeithiol – ond tynnwyd y gwynt o’u hwyliau yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf pan hawliodd Ysgol Brynteg drosgais i’w gwneud hi’n 21-10 ar yr egwyl.

Yn union wedi’r ailgychwyn, estynnodd Brynteg eu mantais wedi i’r wythwr Logan Lewis wneud y mwyaf o’i gyfle.

Wedi i Toby Williams dirio am yr eildro, roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel i Frynteg a chadarnhawyd eu llwyddiant pan groesodd y canolwr cydnerth, Mason O’Halloran am gais olaf diwrnod difyr iawn o rygbi yn Rodney Parade.

Related Topics