Colli o 62-24 fu hanes Cymru yn erbyn Pencampwyr y Byd yn Ashton Gate y prynhawn yma yn Nhrydedd Rownd o gemau Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness y Menywod 2026 ond fe sicrhaodd gais hwyr Seren Lockwood bwynt bonws gwerthfawr i garfan Sean Lynn.
Hon oedd buddugoliaeth rhif 36 o’r bron i Loegr ar y llwyfan rhyngwladol yn erbyn yr holl wledydd eraill ond dyma oedd y cyfanswm pwyntiau mwyaf erioed i’r Cymry sgorio’n erbyn yr Hen Elyn.
Yn ôl yn 2015 oedd y tro diwethaf i Gymru guro Lloegr ond o flaen stadiwm lawn dop yn heulwen tanbaid Bryste – fe ddechreuodd y tîm cartref yn effeithiol gan sgorio dau o’u pum cais hanner cyntaf yn ystod y chwarter awr agoriadol.
Yr wythwr Maddie Feaunati agoriodd y sgorio wedi chwe munud o chwarae – ac er i Helena Rowland drosi hwnnw, methiant fu ei hymdrech i ychwanegu deubwynt at gais Millie David 7 munud wedi hynny.
Tipyn o eiliad i David – asgellwr ugain oed Bryste – ar ei hymddangosiad cyntaf dros ei gwlad.
Mewnwr Bryste yw Keira Bevan wrth gwrs – ac fe dawelodd hi dorf Ashton Gate wedi 17 munud o chwarae. Wedi lein ymosodol drefnus, fe ddangosodd Bevan ei gweledigaeth a’i chryfder i agor cyfrif Cymru am y prynhawn. Bevan ei hun drödd y cais yn drosgais.
Gyda chwarter awr o’r hanner cyntaf ar ôl, tro Lloegr oedd manteisio ar lein effeithiol, gan i hynny arwain at gais rhif 54 ar y llwyfan rhyngwladol i flaen-asgellwr y Saraseniaid Marlie Packer.
Cyn i’r cloc ddangos bod hanner awr o chwarae wedi mynd heibio – roedd y Saeson wedi hawlio pwynt bonws. Yng Nghaerdydd y cafodd capten Lloegr, Meg Jones ei geni a’i magu – ond doedd dim llawer o Gymraeg rhyngddi hi ac amddiffyn Cymru wrth iddi fanteisio ar bêl rydd, i gyrraedd llinell gais gwlad ei mebyd, am y cyntaf o’i dau gais hi o’r ornest.
O dan arweiniad Bethan Lewis, fe ddangosodd y Cymry wir gymeriad – ac wedi symudiad clyfar ym mlaen y lein, fe groesodd y bachwr Kelsey Jones am ei hail gais o’r Bencampwriaeth yn dilyn ei sgôr hi’n erbyn Yr Alban yn y gêm agoriadol.
Ond Meg Jones gafodd air olaf y cyfnod cyntaf wrth iddi ddechrau a chwblhau ymosodiad diwethaf ei thîm wrth i’r cloc baratoi i droi’n goch.
Hannner Amser: Lloegr 29 Cymru 12

Roedd sgôr gyntaf yr ail hanner wastad yn mynd i fod yn bwysig – ond gan mai bachwr Lloegr, Amy Cokayne gafodd hwnnw bum munud wedi troi – roedd tasg Cymru am weddill yr ornest yn mynd i fod yn heriol, yn enwedig felly gan i Kayleigh Powell gael ei danfon i’r cell cosb yn fuan wedi hynny am daro’r bêl ymlaen yn fwriadol.
Tra bo cefnwr Cymru ar yr ystlys fe sgoriodd y Saeson eu seithfed a’u hwythfed cais o’r prynhawn. Er gwaethaf holl ymdrechion yr eilydd Catherine Richards, llwyddodd Claudia Moloney-MacDonald i wasgu ei hun i’r gornel am y cyntaf o’r rheiny.
Yn anffodus i Richards, wedi dim ond 8 munud o’i chweched ymddangosiad dros Gymru, bu’n rhaid iddi adael y maes gydag anaf.
Wedi chwarter awr o’r ail hanner cafwyd eiliad arbennig iawn wrth i Alisha Joyce ymuno gyda’i gwraig Jasmine ar y maes – dim ond 158 o ddyddiau ers genedigaeth eu mab Ralphie.
Ond parhau wnaeth pwyso Lloegr ac wrth i Kayleigh Powell baratoi i gamu’n ôl i’r maes, croesodd yr eilydd Jess Breach am gais rhif 55 dros ei gwlad ac fe droswyd hwnnw gan yr eilydd Zoe Harrison.
Gyda 12 munud o’r gêm yn weddill, wrth iddi ennill cap rhif 114, fe groesodd Packer am yr eildro o sgarmes symudol, ac fe groesodd carfan John Mitchell yr hanner can pwynt o’r herwydd.
Doedd Freya Bell ddim yng ngharfan Chwe Gwlad Cymru wythnos yn ôl – ond fe gamodd hi’r cae gyda 10 munud o’r ornest hon ar ôl, i ennill ei chap cyntaf dros ei gwlad.
Dim ond rhyw 3 munud roedd Bell wedi bod ar y cae cyn i Bethan Lewis arwain drwy esiampl i sgorio trydydd cais Cymru.
Er i’r eilydd Maud Muir dirio 10fed cais ei thîm o’r ornest, ac er i Harrison lwyddo gyda’i 15ed trosiad yn olynol yn y Bencampwriaeth eleni, y Cymry gafodd y gair olaf.
Yn amser yr amen, fe hyrddiodd Seren Lockwood ei hun dros linell gais y Saeson am ei chais cyntaf erioed dros Gymru, ac roedd holl ymdrech a chwarae di-ildio’r ymwelwyr wedi ei wobrwyo gyda phwynt bonws haeddiannol.
Roedd wynebu dau o bedwar prif ddetholyn y byd o fewn cyfnod o wythnos wastad yn mynd i fod yn heriol i ferched Sean Lynn ond mae’r datblygiad yn y garfan yn dechrau amlygu ei hun. Bydd gan fenywod Cymru bythefnos bellach tan iddyn nhw deithio i Iwerddon, lwyddodd i drechu’r Eidal o 57-20 y penwythnos diwethaf.
Canlyniad: Lloegr 62 Cymru 24

Wedi i’r gêm ddod i ben yn Ashton Gate, dywedodd Capten Cymru, Bethan Lewis: “Dy’n ni ddim wedi cyrraedd ble ry’n ni eisiau bod eto, ond does dim amheuaeth bod y tîm yma’n datblygu. Dwi ddim yn credu bod unrhyw dîm arall wedi sgorio pwynt bonws wrth sgorio pedwar cais yn erbyn Lloegr yn y Bencampwriaeth ers dwy flynedd ac mae’n rhaid i ni gymryd hyder o hynny.
“Fe ddaeth y fainc ag egni mawr i ni heddiw – ac fe gadwon ni fynd tan y chwiban olaf – fel y profodd cais Seren Lockwood.
“Ry’n ni’n garfan ifanc sy’n dysgu ac yn gwella a dwi mor falch o’r cymeriad y dangosodd bob un o’r merched heddiw.”
Ychwanegodd Sean Lynn: “Yn amlwg dwi’n siomedig ein bod ni wedi ildio 62 o bwyntiau – ond mae’n bwysig cofio pa mor dda a chlinigol yw Lloegr.
“Wedi dweud hynny dwi mor falch o ymdrech a chymeriad pob un o fy chwaraewyr i heddiw ac mae’r ffaith bod Freya wedi ennill ei chap cyntaf a bod Alisha wedi cael ei gwobrwyo am ei phroffesiynoldeb anhygoel dros y misoedd diwethaf yn arbennig iawn.”
Sgorwyr: Lloegr: Ceisiau, Feaunati, David, Packer (2), Jones (2), Cokayne, Moloney-MacDonald, Breach, Muir. Tros: Rowland (3), Harrison (3)
Cymru: Ceisiau: Bevan, Jones, Lewis, Lockwood, Tros: Bevan (2)
Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness y Menywod 2026
11/04/26 – Cymru 19 Yr Alban 24 – Stadiwm Principality, Caerdydd
18/04/26 – Cymru 7 Ffrainc 38 – Parc yr Arfau, Caerdydd (15.35)
25/04/26 – Lloegr 62 Cymru 24 – Ashton Gate, Bryste (14.15)
09/05/26 – Iwerddon v Cymru – Stadiwm Affidea, Belfast (18.30)
17/05/26 – Cymru v Yr Eidal – Parc yr Arfau, Caerdydd (12.15)
