Yn eu gêm gyntaf erioed ym Mhencampwriaeth newydd o Dan 21 y Chwe Gwlad colli o 76-5 fu hanes Cymru’n erbyn Ffrainc.
Chwaraewyd y gêm ar Barc yr Arfau yn union wedi i brif dîm Les Bleues guro’r Cymry – a’r Ffrancesi aeth â hi’n yr ail gêm hefyd heddiw gan sgorio chwe chais yn y naill hanner a’r llall.
Fe sgoriodd yr ymwelwyr y cyntaf o’u 12 cais wedi dim ond 2 funud o chwarae pan fylchodd Seren y Gêm Aelig Tregouet yn effeithiol cyn rhyddhau ei chyd-ganolwr Charlie Gauyat i redeg yn glir at y lein.
Cais o fath gwahanol iawn gafwyd bedwar munud yn ddiweddarach wrth i’r prop pen tynn Amalia Bazola hyrddio ei hun dros linell gais y Cymry er gwaethaf holl ymdrechion amddiffyn y tîm cartref i’w hatal.
O dan arweiniad Gwennan Hopkins fe ddangosodd y tîm cartref gryn gymeriad i fwynhau cyfnod o bwyso yn nwy ar hugain eu gwrthwynebwyr – ond yn erbyn rhediad y chwarae, Ffrainc hawliodd y sgôr nesaf, wrth i Tregouet dirio trydydd cais ei thîm a’r cyntaf o’i thri chais hi ar y noson.
Wedi bron i hanner awr o chwarae roedd blaenoriaeth Ffrainc yn 26 o bwyntiau wedi i Gauyat hawlio’i hail gais, wnaeth gwaith Levy o drosi am y trydydd tro’n eithaf hawdd.
Roedd gan Gymru chwaraewr o fantais am weddill y cyfnod cyntaf wedi trosedd Anais Peralez ac yn dilyn cic letraws ddeallus Hanna Marshall, fe gasglodd Gabby Healan y bêl cyn dangos ei chryfder i agor cyfrif y Crysau Cochion bum munud cyn yr egwyl.

Ond fe brofodd dri munud olaf y cyfnod agoriadol yn allweddol wrth i Tregouet groesi am ei hail gais o’r noson cyn i’r asgellwr Alice Grandhomme atgyfnerthu mantais sylweddol Ffrainc.
Gan bod Levy wedi llwyddo gyda phum o’i chwe throsaid, roedd mantais hanner amser yr ymwelwyr yn 40-5.
Fe ddechreuodd yr ail hanner yn debyg iawn i’r cyfnod cyntaf gan i’r Ffrancesi sgorio’n y ddau funud agoriadol wedi troi hefyd.
Tro’r bachwr Elina Folituu oedd tirio’r tro hwn cyn i Amalia Bazolo efelychu ei hyrddiad a’i chais o’r hanner cyntaf i gymryd ei thîm at yr hanner can pwynt. Wedi trosiad Charlie Gauyat roedd mantais yr ymwelwyr yn 47 o bwyntiau.
Bum munud yn ddiweddarach roedd yr asgellwr Iness Zeze wedi ymestyn mantais yr ymwelwyr ymhellach ac roedd hyder yr ymwelwyr yn llifo.
Doedd dim atal menter a brwdfrydedd a Ffrainc – ac fe hawlion nhw bedwar o geisiau pellach cyn y chwiban olaf.
Yr asgellwr Iness Zeze, trydydd canolwr Toulouse Aelig Tregouet, a cheisiau hwyr yr eilyddion Aneymone Talalua a Maiana Gony fu’n gyfrifol am rheiny wrth i Gymru orffen yr ornest chwaraewr yn brin yn dilyn cerdyn melyn Hanna Marshall.
Canlyniad: Cymru 5 Ffrainc 76
Wedi’r gêm dywedodd Prif Hyfforddwr Tîm D21 Cymru, Liza Burgess: “Fe waeth y merched ymarfer yn dda iawn trwy gydol yr wythnos ac roedd eu hymdrech ar y cae heddiw i’w ganmol – ond fe wnaethon ni rai camgymeriadau wrth amddiffyn ac fe wnaeth Ffrainc ein cosbi ni’n llym am hynny.
“Mae’n rhaid talu teyrnged i Ffrainc, er mor boenus fel Cymraes oedd eu gwylio nhw’n dadlwytho’r meddiant dro ar ôl tro – mae’n rhaid edmygu eu chwarae.
“Does ganddon ni ddim gêm y penwythnos nesaf – ond fe fydd yn rhaid i ni ganolbwyntio ar ddysgu rhai gwersi o’r gêm heno cyn wynebu’r Eidal mewn pythefnos.”
Menywod Dan 21 Cymru v Menywod Dan 21 Ffrainc
15 Amy Williams (Brython Thunder)
14 Gabby Healan (Brython Thunder)
13 Hanna Tudor (Heb glwb ar hyn o bryd)
12 Freya Bell (Gwalia Lightning) – Is-gapten
11 Kelsie Webster (Gwalia Lightning)
10 Hanna Marshall (Gwalia Lightning)
9 Sian Jones (Hartpury-Caerloyw/Gwalia Lightning)
1 Katherine Baverstock (Caerlŷr)
2 Molly Wakely (Gwalia Lightning)
3 Elan Jones (Brython Thunder)
4 Tilly Vucaj (Gwalia Lightning)
5 Robyn Davies (Brython Thunder)
6 Lily Terry (Gwalia Lightning)
7 Lucy Isaac (Brython Thunder)
8 Gwennan Hopkins (Gwalia Lightning) – Capten
Eilyddion
16 Shanelle Williams (Brython Thunder)
17 Crystal James (Gwalia Lightning)
18 Elizabeth Cook (Met Caerdydd)
19 Alaw Pyrs (Gwalia Lightning)
20 Chiara Pearce (Gwalia Lightning)
21 Katie Bevans (Gwalia Lightning)
22 Mollie Wilkinson (Brython Thunder)
23 Isla Mc Mullen (Gwalia Lightning)
