News

Diweddariad Carfan Menywod Cymru

Catherine Richards o Gwalia Lightning yn herio Ellie Tromans o Brython Thunder

Mae Catherine Richards wedi ei galw i ymuno gyda charfan Menywod Cymru ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness y Menywod.

Bu Richards yn gapten ar Gwalia Lightning yn yr Her Geltaidd y tymor hwn, a bydd hi’n cymryd lle’r canolwr Savannah Picton-Powell yn y garfan.

Roedd Picton-Powell yn un o naw o chwaraewyr sydd eto i ennill cap dros y prif dîm oedd wedi eu cynnwys yng ngharfan Sean Lynn – ond mae anaf i’w hysgwydd wedi golygu nad yw hi wedi gallu aros gyda’r garfan.

Fe chwaraeodd Catherine Richards yng Nghwpan y Byd y llynedd ac fe gynrychiolodd ei gwlad am y tro cyntaf yn erbyn Ffrainc yn 2024.

Related Topics