Hir yw pob ymaros medd yr hen air ac mae hynny’n bendant yn wir yn achos Jenna de Vera wrth iddi geisio cynrychioli Cymru.
Daeth y freuddwyd honno’n wir ddydd Sadwrn wrth iddi ennill ei chap cyntaf yn erbyn Ffrainc – wedi iddi ddioddef 14 mis hynod heriol gydag anafiadau cyn hynny.
Ond beth yw hanes y canolwr 22 oed?
Mae ei stori’n ddifyr o ganlyniad i benderfyniad anferthol y gwnaeth ei rhieni flwyddyn yn unig cyn i Jenna gael ei geni hyd yn oed.
Dywedodd Jenna de Vera:”Mae fy nheulu o dras Ffilipinaidd, ond fe ges i fy ngeni a fy magu yma yng Nghymru. Roedd fy mam a fy nhad wedi gweithio’n y byd nyrsio ac fe wnaethon nhw gyfarfod tra’r oedd y ddau ohonyn nhw’n byw yn Saudi Arabia.
“Un diwrnod aeth fy nhad ar daith fer i Dubai ac fe welodd hysbyseb yn dweud bod swyddi nyrsio ar gael ym Mhrydain ac felly fe aethon nhw amdani.
“Roedd fy nhad yn meddwl mai gweithio yng nghyffiniau Llundain fyddai – ond wedi rhai oriau ar y bws o’r maes awyr fe sylwodd fod y geiriau’n dechrau mynd yn dipyn o gymysgedd – a Chymraeg oedd hynny wrth gwrs. Yna fe gyrhaeddodd Llanelli.
“Roedd hynny rhyw 23 mlynedd yn ôl – a dyna sut y des i gael fy ngeni yma yng Nghymru. Mae fy nwy chwaer a fi’n hynod falch o fod yn Gymry.
“Alla i ddim gorbwysleisio pa mor bwysig mae rygbi Cymru wedi bod ar fy nhaith i gysylltu’r ddau ddiwylliant sydd mor greiddiol i fy hunaniaeth. Doedd fy rhieni ddim yn gwybod unrhywbeth am rygbi nes i mi ddechrau chwarae.
“Fe ddechreuon nhw gymryd fi i chwarae a byddai fy mam yn helpu i goginio’r ‘hot dogs’ a’r sglodion ar ôl gemau, ac yna ambell waith byddai’n gwneud nŵdls a ‘spring rolls’ i’r rhieni eraill.
“Roedden nhw wrth eu boddau ac yn gofyn am fwy o hyd. Roedd yn ffordd ddoniol o gyfuno ein dau fyd, ac mae rygbi wedi bod yn enfawr wrth bontio’n dau ddiwylliant gyda’i gilydd.”
Dechreuodd dyddiau cyntaf Jenna de Vera ar faes rygbi clwb y Bynie cyn iddi symud ymlaen i Ysgol Sant Mihangell yn Llanelli, Coleg Gŵyr ac yna Prifysgol Bryste, ble mae hi ar hyn o bryd yn cwblhau ei gradd Meistr mewn Teledu, Ffilm ac Arloesedd.
Ar ôl cynrychioli tîm o dan 18 Cymru, cafodd ei galw i garfan hŷn ei gwlad am y tro cyntaf yn 2023 ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Enillodd Cymru dair gêm y tymor hwnnw, ond roedd De Vera yn un o’r ychydig aelodau o’r garfan na chafodd gap trwy gydol yr ymgyrch.
Yna, ychydig cyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad y llynedd, dioddefodd anaf difrifol i’w phen-glin – a doedd dim rygbi i fod am flwyddyn wedi hynny:
“Roedd cael yr anaf yn anodd ac fe ddaeth ychydig cyn y Chwe Gwlad y llynedd mewn blwyddyn Cwpan y Byd hefyd! Ro’n i wedi bod yn chwarae’n dda i Fryste ac yn sydyn do’n i methu gwneud unrhyw gyfraniad am 12 mis.
“Er mor anodd oedd y cyfnod hwnnw, mae’n anhygoel bod yn ôl. Rydw i’n berson ac yn chwaraewr gwahanol a mwy aeddfed o lawer erbyn hyn – sy’n beth da.
“Mae un peth yn sicr – dyw fy nghariad at y gêm ddim wedi newid.”
Wedi pedair o gemau’n unig ers dychwelyd yn llawn o’i hanaf fe dderbyniodd de Vera alwad Sean Lynn i ymuno â’i garfan ar ei newydd wedd. Wedi hynny daeth y cadarnhad bod y prif hyfforddwr wedi ei galw’n hwyr i ddechrau ar y fainc y penwythnos diwethaf yn dilyn anaf Carys Cox.
Wedi bron i awr o chwarae, daeth yr alwad yr oedd de Vera wedi bod yn ei dyheu amdani ers codi pêl rygbi am y tro cyntaf yng nghlwb y Bynie rai blynyddoedd ynghynt – sef camu i’r cae i ennill ei chap cyntaf dros Gymru:
“Roedd yr eiliad yn hynod bwysig a gwerthfawr i mi – yn enwedig gan i mi ddod mor agos at ennill cap cyntaf cyn fy anaf. Mae’n amhosib disgrifio fy holl deimladau ac emosiynau wrth i mi gamu i’r cae yn lle Hanna Dallavalle o bawb.
“Roedd y tywydd yn wych ac roedd y dorf yn anhygoel. Aeth fy amser ar y maes mor gyflym fel ei bod hi’n anodd i bopeth suddo i mewn. Roedd y profiad yn union fel breuddwyd.
“Roedd hi’n hyfryd cael fy rhieni gyda fi ar y cae ar ddiwedd y gêm pan gefais fy nghap wedi ei gyflwyno i fi. Maen nhw wedi aberthu gymaint drosof fi a fy ngyrfa rygbi.”

Wedi i’r gêm fod yn gyfartal 7-7 ar yr egwyl, Ffrainc aeth â hi o 38-7 erbyn y chwiban olaf. Pencampwyr y Byd, Lloegr, fydd yn cynnig yr her nesaf i Sean Lynn a’i garfan ym Mryste’r penwythnos hwn ond mae Jenny de Vera’n edrych ymlaen at beth bynnag ddaw:
“Ry’n ni’n gwybod yn iawn pa mor gryf yw’r Saeson gan ein bod yn chwarae’n erbyn llawer o’u chwaraewyr bob wythnos yn Uwch Gynghrair Lloegr. Bydd angen i ni adeiladu ar ein perfformiad hanner cyntaf yn erbyn Ffrainc a gweld beth ddaw o hynny.”

