News

Datganiad i’r wasg gan Undeb Rygbi Cymru

WRU

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau y bydd y Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol (EGM) sydd wedi’i drefnu ar gyfer yr wythnos nesaf (ddydd Llun) yn mynd ymlaen fel y trefnwyd, er bod y rhai wnaeth y ceisiadau/cynigion gwreiddiol wedi tynnu eu cefnogaeth yn ôl.

Mae cyfansoddiad Undeb Rygbi Cymru a’r modd y mae wedi’i lunio, sy’n unol â chyfraith cwmnïau hefyd, yn cadarnhau unwaith y bydd Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol yn cael ei alw gan y nifer gofynnol o glybiau sy’n aelodau, mae’n rhaid i’r cyfarfod hwnnw fynd yn ei flaen er mwyn caniatáu i’r aelodaeth lawn drafod y materion perthnasol.

Ddoe fe ysgrifennodd yr Undeb at y clybiau sy’n aelodau i wirio a oes unrhyw un ohonynt yn dal i ddymuno pleidleisio ar y ceisiadau/cynigion wedi i 40 o’r 50 clwb gwreiddiol dynnu eu cefnogaeth yn ôl.

Os bydd clybiau’n ymateb i’r llythyr hwn gan ofyn i gadw’r ceisiadau/cynigion ar y bwrdd, bydd y CCE yn mynd rhagddo yn ôl y drefn a’r disgwyl.

Os na fydd unrhyw glwb yn ymateb, cam cyntaf y CCE nos Lun fydd profi’r syniad nad yw clybiau bellach yn cefnogi’r tri chynnig gwreiddiol.

Unwaith y bydd hyn wedi’i gadarnhau, bydd y cyfarfod yn parhau naill ai gyda phleidleisiau ffurfiol yn cael eu cynnal neu, fel arall, ar ffurf cyflwyniad ar “Ddyfodol Rygbi yng Nghymru” fydd yn cael ei ddilyn gan drafodaeth agored ac anffurfiol.

Y pwynt olaf i’w ystyried yw os nad yw’r cyfarfod yn gworwm (h.y. presenoldeb o 95 clwb neu fwy, naill ai’n rhithiol neu wyneb yn wyneb), bydd angen ei aildrefnu ar unwaith ar gyfer wythnos yn ddiweddarach, pan fydd y trothwy am y cworwm yn cael ei leihau.

Wrth ystyried hyn, mae Llywydd Undeb Rygbi Cymru, Terry Cobner, wedi galw ar glybiau i fod yn bresennol nos Lun ac i gymryd rhan mewn trafodaeth lawn ac agored am ddyfodol y gêm broffesiynol yng Nghymru, beth bynnag fo’u safbwyntiau ar benderfyniadau gwreiddiol y Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol. Dywedodd y Llywydd: “Rydym yn croesawu’r CCE fel cyfle i drafod materion pwysig am ddyfodol y gêm yng Nghymru gyda’n haelodau,” meddai Cobner.

“Rydym yn galw ar bob clwb sy’n aelod i fynychu’r cyfarfod, naill ai’n bersonol neu’n rhithiol, fel y gallant wrando unwaith eto ar ein cynlluniau ond fel y gallant hefyd gyfrannu’n agored a rhannu eu barn.

“Wrth gwrs, byddwn hefyd yn gwbl barod i gynnal pleidleisiau ar y tri phenderfyniad a gyflwynwyd yn wreiddiol.

“Ond mae’n hollbwysig ein bod yn clywed gan ein haelodaeth lawn, ac rydym yn edrych ymlaen at drafodaeth iach a chynhyrchiol ar y mater hwn a materion eraill hefyd.

“Rydym yn cyfarfod gan bod gennym ddyletswydd i’n haelodau i egluro ein cynlluniau ac i rannu’n gweledigaeth a’n meddylfryd gyda nhw, lle bynnag y bo modd gwneud hynny. Rydym yn croesawu’r Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol hwn gan ei fod yn cynnig cyfle arbennig i ni ddod at ein gilydd – ac rwy’n gobeithio’n fawr y bydd clybiau sy’n aelodau yn ateb yr alwad i fynychu’r cyfarfod pwysig yma’n eu niferoedd.”

Related Topics