News

Cymru'n colli ond yn hawlio pwynt bonws yn erbyn Yr Alban

Sisilia Tuipulotu ar garlam cyn hawlio'i chais

Dechreuodd tîm Menywod Cymru eu hymgyrch ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2026 gyda cholled fain o 24-19 yn erbyn Yr Alban o dan do Stadiwm Principality – ond fe enillon nhw bwynt bonws am eu holl ymdrechion di-flino.

Llwyddiant Yr Alban o 38-8 yn Salford ym mis Awst oedd y bwlch mwyaf erioed rhwng y ddau dîm – ond gan bo pum o’r saith gornest ddiwethaf rhwng y gwledydd wedi gweld triphwynt neu lai yn gwanahanu’r timau – doedd hi’n fawr o syndod bod gêm heddiw o flaen torf o 10,569 o bobl yn hynod gystadleuol.

Byddai Prif Hyfforddwr newydd Yr Alban, Sione Fukofuka wedi bod yn fodlon iawn gyda dechreuad ei dîm yn ei gêm gyntaf wrth y llyw, gan i’r cefnwr profiadol Chloe Rollie sgorio cais cyntaf y prynhawn wedi 8 munud o chwarae – yn dilyn gwrthymosodiad campus o’u hanner eu hunain gan olwyr yr ymwelwyr.

Gan i Rollie dirio y tu ôl i byst y Cymry – gwaith hawdd oedd gan Helen Nelson i drosi.

Mae Sean Lynn wastad wedi pwysleisio pwysigrwydd hunaniaeth a gweithio’n galed dros yr achos – ac fe darodd y Crysau Cochion yn ôl o fewn 2 funud i fynd ar ei hôl hi.

Doedd Yr Alban methu atal sgarmes symudol y Cymry – a’r bachwr Kelsey Jones gwblhaodd y symudiad yn berffaith. Llwyddodd Kiera Bevan i’w gwneud hi’n gyfartal gyda’i throsiad a gan bod Leah Bartlett wedi troseddu’n y symudiad arweiniodd at y cais – tynged y prop ar achlysur ei 50fed cap – oedd treulio 10 munud ar yr ystlys.

Tra bo Bartlett yn y cell cosb, manteisiodd prop Cymru, Sisilia Tuipulotu i’r eithaf ar or-dafliad o lein – a doedd neb am ei hatal hi rhag hawlio’i 8fed cais rhyngwladol.

Unig sgôr arall yr hanner cyntaf oedd cic gosb rwydd Nelson gyda 6 munud yn weddill – olygodd mai’r Cymry oedd yn arwain yn haeddiannol o ddeubwynt ar yr egwyl.

Hanner Amser: Cymru 12 Yr Alban 10

Kelsey Jones yn sgorio cais cyntaf Cymru

Does dim amheuaeth i’r Alban ennill y frwydr gorfforol y tro diwethaf i’r ddau dîm ddod wyneb yn wyneb â’i gilydd – ond roedd dylanwad yr hyfforddwr amddiffyn newydd Tyrone Holmes yn amlwg yn chwarae merched Cymru gyda’r capten Kate Williams a’r clo Gwen Crabb yn arwain y frwydr gorfforol honno.

Gan bo chwarae blaenwyr Cymru mor gystadleuol, gwelwyd mwy o gicio tactegol a mwy o fentro gan olwyr y crysau gleision wedi troi ac fe weithiodd y tactegau hynny’n y pendraw.

Yn dilyn adlamiad caredig o’r bêl, fe roddodd cais rhyngwladol cyntaf yr asgellwr Shona Campbell Yr Alban ar y blaen am yr eildro wedi 51 munud o chwarae. Parhau wnaeth record gicio berffaith Helen Nelson.

Wedi bron i awr o chwarae tro Cymru oedd hi i golli gwasanaeth chwaraewr am 10 munud wedi tacl anghyfreithlon Bryonie King ar Emily Courbrough ac fe brofodd hynny’n allweddol yn y pendraw.

Tra bo King yn y cell callio, manteisiodd yr eilydd Lucia Scott ar ei chyfle i sgorio trydydd cais Yr Alban o’r prynhawn a chymryd y fuddugoliaeth o gyrraedd y Cymry yn y broses.

Cododd Seren y Gêm Helen Nelson ei chyfrif personol i 9 pwynt gyda’r trosiad wrth agor bwlch o 12 pwynt rhwng y timau.

Gyda 7 munud o’r gêm ar ôl, fe hawliodd y Cymry drosgais o ganlyniad i hyrddiad Capten Kate a throsiad Lleucu George – ond er holl ymdrechion hwyr y tîm cartref – llwyddodd amddiffyn Yr Alban i warchod eu llinell gais tan y diwedd.

Er y golled hon, bydd cyn-gapten Cymru Hanna Dallavelle’n trysori’r profiad o gamu o’r fainc i gynrychioli ei gwlad am y 70fed tro.

Roedd siom carfan Cymru’n amlwg wrth glywed chwiban olaf Ella Golsdmith chwe munud dros yr 80 munud – oherwydd er eu perfformiad hynod gystadleuol, methiant fu eu holl ymdrechion i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yn y Chwe Gwlad ers dwy flynedd – a’r eirioni oedd y ffaith mai îs-hyfforddwr Yr Alban heddiw, Ioan Cunningham, oedd Prif Hyfforddwr Cymru’r diwrnod hwnnw.

Canlyniad: Cymru 19 Yr Alban 24

Yn dilyn colled y prynhawn yma – bydd Sean Lynn a’i garfan yn troi eu golygon at groesawu Ffrainc i Barc yr Arfau’r Sadwrn nesaf. Llwyddodd y Ffrancesi i guro’r Eidal o 40-7 yn gynharach yn y dydd.

Wedi’r chwiban olaf, dywedodd Helen Nelson: “Mae hi wastad yn anodd yn erbyn Cymru ond ry’n ni’n hapus iawn ein bod wedi dod yma i Stadiwm Principality a’n bod yn mynd adref gyda’r fuddugoliaeth.”

Ychwanegodd Bethan Lewis o safbwynt Cymreig: “Yn amlwg ry’n ni’n siomedig ein bod wedi colli heddiw – ond roedd y gwelliant yn ein perfformiad yn eithaf amlwg.

“Roedden ni dal ynddi tan y chwiban olaf – ac mae’n rhaid i ni ddal ati i gredu yn ein hunain a chwarae yn y mannau cywir ar y cae.”

Dywedodd prop Cymru Gwenllian Pyrs: “Roedd llawer mwy o strwythr yn ein chwarae ni heddiw ac roedden ni’n llawer mwy corfforol hefyd. Er i ni wneud ambell gamgymeriad  – mae ganddon ni sylfaen dda iawn erbyn hyn i adeiladu arno ar gyfer y dyfodol.”

Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness y Menywod 2026

11/04/26 – Cymru 19 Yr Alban 24 – Stadiwm Principality, Caerdydd

18/04/26 – Cymru v Ffrainc – Parc yr Arfau, Caerdydd (15.35)

25/04/26 – Lloegr v Cymru – Ashton Gate, Bryste (14.15)

09/05/26 – Iwerddon v Cymru – Stadiwm Affidea, Belfast (18.30)

17/05/26 – Cymru v Yr Eidal – Parc yr Arfau, Caerdydd (12.15)

Related Topics