Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Liza Burgess, wedi dewis carfan o 32 o chwaraewyr, sy’n cynnwys 18 blaenwr ac 14 o olwyr, ar gyfer y cyfres gyntaf erioed D21 y Chwe Gwlad.
Mae’r Gyfres Haf ar gyfer y Menywod Dan 20 bellach wedi esblygu i’r gystadleuaeth newydd hon ar gyfer Menywod Dan 21. Bydd Cymru yn chwarae gemau cartref ym Mharc yr Arfau Caerdydd ac Ystrad Mynach yn erbyn Ffrainc ac Iwerddon yn eu tro, gyda thaith i Piacenza rhwng y ddwy gêm honno i wynebu’r Eidal.
O dan yr hen drefn roedd pob tîm yn cystadlu mewn gŵyl wythnos o hyd, ond eleni ac yn 2027 bydd timau yn chwarae dwy gêm gartref ac un oddi cartref, neu i’r gwrthwyneb.
Bwriad y newid i’r fformat yw adlewyrchu gofynion ymarfer a theithio ar lefel uchaf y gamp, er mwyn paratoi chwaraewyr yn well ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad y Menywod yn y pendraw.
Er mwyn cryfhau’r cysylltiad rhwng y fformat newydd a’r brif Bencampwriaeth, bydd Rownd Gyntaf y Gyfres Dan 21 yn digwydd ar yr un penwythnos ag Ail Rownd gemau’r prif gystadleuaeth. O safbwynt Cymreig felly bydd dwy gêm gyffrous yn digwydd yn erbyn Ffrainc ddydd Sadwrn y 18fed o Ebrill ar Barc yr Arfau yn y Brifddinas wrth i dimau Sean Lynn a Liza Burgess herio’r Ffrancod.
Mae newid allweddol arall wedi ei wneud i’r gystadleuaeth newydd hefyd gan bod nifer cyfyngedig o chwaraewyr hyd at 23 oed yn cael cymryd rhan. Gall hyn roi’r cyfle i ragor o chwaraewyr gynrychioli eu gwlad ar y llwybr tuag at y llwyfan rhyngwladol llawn.
Dywedodd Liza Burgess: “Mae’r fformat wedi newid eleni ac mae hynny’n gyffrous i’r merched.
“Mae’r Her Geltaidd wedi paratoi’r merched yn wych ar gyfer y gyfres – y profiad o hedfan, teithio oddi cartref, chwarae gemau cystadleuol, cyn hedfan yn ôl adref. Oherwydd hynny mae’r merched yn gyfarwydd â’r heriau ymarferol hynny fydd yn rhan o’r gyfres newydd hon ac mae hynny’n mynd i fod yn help mawr i ni.
“Ry’n ni wedi paratoi’n arbennig ar gyfer yr her sydd o’n blaenau ac rydw i’n gyffrous iawn i weld sut fydd y merched yn perfformio.
“Ry’n ni’n trïo adlewyrchu’r hyn mae’r menywod hŷn yn eu gwneud – sef ymarfer ddydd Llun, Mawrth a Mercher – diwrnod rhydd ddydd Iau, ac yna ymarfer eto nos Wener.
“Mae gennym gymysgedd a chydbwysedd cyffrous o chwaraewyr yn y garfan hon ac mae’r ffaith y byddwn ni’n gallu galw ar rai o’r chwaraewyr sydd Dan 23 pan fyddan nhw ar gael, yn mynd i ddod â mwy o brofiad i’r garfan.
“Mae’r gystadleuaeth yma hefyd yn mynd i gynnig cyfleoedd gwych i rai o’r merched sy’n camu lan atom o’r garfan Dan 18 – tra bo nifer o ferched oedd yn y garfan D20 y llynedd yn dychwelyd atom, wedi iddyn nhw chwarae’n dda’n yr Her Geltaidd.”
Gyda Chymru’n cael y fraint o gynnal dwy gêm gartref, mae Burgess yn gobeithio y bydd cefnogwyr yn cefnogi’r tîm yn eu niferoedd:
“Mae trefn y gemau’n wych i ni. Mae ganddon ni’r gêm gyntaf gartref ar Barc yr Arfau, a bydd hwnnw’n achlysur hanesyddol gan ein bod yn chwarae’n syth wedi gêm y prif dîm am y tro cyntaf. Ry’n ni hefyd yn edrych ymlaen at ein taith i’r Eidal – cyn chwarae’r gêm olaf gartref yn erbyn Iwerddon yn Ystrad Mynach.
“Mae’r merched yn gyfarwydd iawn â’r ddau faes ble fyddwn ni’n chwarae ein gemau cartref. Mae hi wastad yn braf chwarae yn y Brifddinas ac mae Ystrad Mynach yn denu torf dda bob tro, felly ry’n ni’n gobeithio y bydd pawb yn dod allan i’n cefnogi.”
Carfan Menywod Dan 21 Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad
Blaenwyr (18)
Chloe Thomas-Bradley (Gwalia Lightning)
Megan Lewis (Brython Thunder)
Salome Tuliakiono (Prifysgol Hartpury)
Crystal James (Gwalia Lightning)
Allie Watkins (Brython Thunder)
Shanell Williams (Brython Thunder)
Molly Wakley (Gwalia Lightning)
Chloe Gant (Brython Thunder)
Robyn Davies (Brython Thunder)
Lily Terry (Gwalia Lightning)
Mia Haf Bowen (Brython Thunder)
Lucy Isaac (Brython Thunder)
Gwennan Hopkins (Gwalia Lightning)
Chiara Pearce (Gwalia Lightning)
Catrin Steward (Gwalia Lightning)
Lottie Buffery-Latham (Gwalia Lightning)
Hermione Farmer (Caerlŷr)
Lola Mitchell (Prifysgol Hartpury)
Olwyr (14)
Katie Bevans (Gwalia Lightning)
Maisy Herbert (Old Albanians)
Hanna Marshall (Brython Thunder)
Carys Hughes (Gwalia Lightning)
Freya Bell (Gwalia Lightning)
Hanna Tudor (Heb glwb ar hyn o bryd)
Isla McMullen (Gwalia Lightning)
Gabby Healan (Brython Thunder)
Mabli Evans (Brython Thunder)
Saran Jones (Brython Thunder)
Ffion Davies (Brython Thunder)
Aimee Bush (Brython Thunder)
Mollie Wilkinson (Brython Thunder)
Amy Williams (Brython Thunder)
Rownd 1
Sadwrn 18 Ebrill – 6.30pm – Cymru Dan 21 v Ffrainc Dan 21, Parc yr Arfau Caerdydd
Rownd 2
Sadwrn 2 Mai – 3.30pm – Yr Eidal Dan 21 v Cymru Dan 21, Rugby Lyons Piacenza
Rownd 3
Sadwrn 10 Mai – 2pm – Cymru Dan 21 v Iwerddon Dan 21, Ystrad Mynach
