Cais prop Cymru Rhys Carré’n erbyn Iwerddon sydd wedi ei bleidleisio’n Gais Gorau Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2026 gan gefnogwyr y gystadleuaeth.
Roedd prop pen rhydd Cymru a’r Saraseniaid ar y rhestr fer, yn cadw cwmni i enillydd y llynedd Louis Bielle-Biarrey (Ffrainc), Leonardo Marin (Yr Eidal), a Darcy Graham (Yr Alban).
Fe enillodd Carré 43% o’r bleidlais gyda mantais sylweddol dros y tri arall (Marin 33%, Bielle-Biarrey 17% a Graham 7%.)
It had to be! Rhys Carré wins the Try of the Championship for the 2026 Guinness Men's Six Nations! 😍#GuinnessM6N #Since1883 pic.twitter.com/Va1lWzjsJU
— Guinness Men's Six Nations (@SixNationsRugby) April 22, 2026
Yn ystod Pencampwriaeth eleni, fe sgoriodd Rhys Carré gyfanswm o dri chais a chyn ennill gwobr Cais Gorau’r Chwe Gwlad, roedd eisoes wedi ei ddewis yn Nhîm y Bencampwriaeth.
Ei gais yn erbyn Iwerddon oedd ei gyfraniad mwyaf cofiadwy o’r ymgyrch wrth iddo dderbyn y bêl y tu allan i 22 y Gwyddelod ac yna ffugio pas cyn carlamu at y llinell gais ac yntau’n gwenu fe giat.
Llongyfarchiadau Rhys Carré
