News

Burgess yn enwi ei thîm D21 ar gyfer eu gêm gyntaf erioed yn y Chwe Gwlad

Gwennan Hopkins
Gwennan Hopkins yw'r capten newydd

Mae Prif Hyfforddwr tîm D21 Cymru, Liza Burgess, wedi enwi ei thîm i wynebu Ffrainc ar Barc yr Arfau ddydd Sadwrn (6.15pm) ar gyfer achlysur hanesyddol yn hanes camp y menywod.

Hon fydd gêm gyntaf erioed y Menywod dan 21 ym Mhencampwriaeth newydd y Chwe Gwlad a bydd y tîm D21 yn herio Ffrainc yn union wedi i brif dimau’r ddwy wlad wynebu’i gilydd ar Barc yr Arfau’n gynharach yn y prynhawn. Cyfle gwych felly i gefnogwyr wylio prif garfan Cymru a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o’n chwaraewyr rhyngwladol yn union wedi hynny hefyd!

Mae Liza Burgess wedi manteisio ar y cyfle i enwi nifer o chwaraewyr sydd wedi bod yn rhan o garfan Chwe Gwlad Sean Lynn, gan fod pob tîm yn y Bencampwriaeth newydd yn cael enwi pump o chwaraewyr hyd at 23 oed.

Mae’r olwyr Kelsie Webster a Sian Jones, ynghyd â’r blaenwyr Katherine Baverstock, Elan Jones a Tilly Vucaj, wedi cael eu rhyddhau gan Lynn i ddechrau’r ornest D21 yn erbyn Ffrainc, tra bydd Alaw Pyrs yn dechrau ar y fainc.

Dywedodd Liza Burgess: “Mae ganddon ni gymysgedd dda o ddoniau a thipyn o brofiad ar gael i ni hefyd – ac mae’r ffaith ein bod yn gallu galw ar wasnaeth rhai o’r merched sydd wedi bod yn ymarfer gyda’r brif garfan yn wych. Ers dychwelyd atom ni, mae’r merched sydd wedi bod yn ymarfer gyda Sean a’i dîm wedi arwain trwy ddangos y safonau sy’n ddisgwyliedig ar y llwyfan rhyngwladol – sydd wedi bod yn werthfawr iawn i’r holl garfan.

“Mae’r tîm yn gymysgedd gyffrous iawn o chwaraewyr, gyda rhai ohonyn nhw eisoes wedi cael y profiad o chwarae ar y lefel uchaf. Dyma’r tro cyntaf i ni allu galw ar wasanaeth y chwaraewyr hybrid yma – ond mae’r ffaith bod gymaint o chwaraewyr ifanc yn curo ar ddrws y prif dîm rhyngwladol yn arwydd o’n datblygiad.

“Gan nad oes lle i bawb yn y brif garfan – mae cael y cyfle i chwarae’n y Bencampwriaeth D21 newydd hon yn wych a bydd chwarae ar ôl y tîm hŷn ar Barc yr Arfau yn gyffrous iawn i’r merched.”

Mae Burgess wedi enwi Gwennan Hopkins yn gapten a Freya Bell yn is-gapten ar gyfer y tair gêm yn erbyn Ffrainc, Yr Eidal ac Iwerddon:

Ychwanegodd Liza Burgess: “Mae Gwennan yn sefyll mas i mi – mae ei rhinweddau hi wrth arwain a’i phrofiad yn mynd i fod yn hollbwysig i ni’n y tair gêm yma.

“Mae hi’n arweinydd naturiol ac mae ganddi barch enfawr gan weddill y garfan. Mae hi’n gosod y safonau a dwi’n hyderus y bydd y merched yn ei dilyn hi ac yn dilyn ei hesiampl hefyd.”

Menywod Dan 21 Cymru v Menywod Dan 21 Ffrainc, Parc yr Arfau Caerdydd, Sad 18 Ebrill – 6.15pm

15 Amy Williams (Brython Thunder)
14 Gabby Healan (Brython Thunder)
13 Hanna Tudor (Hen glwb ar hyn o bryd)
12 Freya Bell (Gwalia Lightning) – Is-gapten
11 Kelsie Webster (Gwalia Lightning)
10 Hanna Marshall (Brython Thunder)
9 Sian Jones (Hartpury-Caerloyw/Gwalia Lightning)
1 Katherine Baverstock (Caerlŷr)
2 Molly Wakely (Gwalia Lightning)
3 Elan Jones (Brython Thunder)
4 Tilly Vucaj (Gwalia Lightning)
5 Robyn Davies (Brython Thunder)
6 Lily Terry (Gwalia Lightning)
7 Lucy Isaac (Brython Thunder)
8 Gwennan Hopkins (Gwalia Lightning) – Capten

Eilyddion
16 Shanelle Williams (Brython Thunder)
17 Crystal James (Gwalia Lightning)
18 Elizabeth Cook (Met Caerdydd)
19 Alaw Pyrs (Gwalia Lightning)
20 Chiara Pearce (Gwalia Lightning)
21 Katie Bevans (Gwalia Lightning)
22 Mollie Wilkinson (Brython Thunder)
23 Isla McMullen (Met Caerdydd)

Related Topics