Y penwythnos diwethaf fe wnaeth Brodie Coghlan ei 50fed ymddangosiad dros y Dreigiau, ac ychydig ddyddiau wedi iddo gyrraedd y garreg filltir honno mae’r bachwr rhyngwladol wedi arwyddo cytundeb newydd i aros yn Rodney Parade.
Gwnaeth y chwaraewr 25 oed ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf yr Hydref diwethaf wrth i Gymru herio’r Crysau Duon ac mae wedi dyblu cyfanswm ei gapiau rhyngwladol ers hynny. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros y Dreigiau yn ôl yn nhymor 2022-23 ac mae’n edrych ymlaen yn fawr at geisio creu mwy o argraff dros ei glwb a’i wlad yn y dyfodol:
“Ces i fy magu yng Nghasnewydd a dwi wedi cefnogi’r Dreigiau erioed. Pan o’n i’n tyfu lan ro’n i’n breuddwydio am chwarae drostyn nhw rhyw ddydd. Fe lwyddais i wireddu fy mreuddwyd wrth gwrs ac mae cael y cyfle i aros gyda’r Dreigiau’n fraint enfawr – ac yn hynod o gyffrous hefyd.
“Mae’r clwb hwn yn golygu popeth i mi. Dwi’n caru pawb sy’n rhan o dîm y Dreigiau – ar y cae ac oddi arno hefyd. Mae ymarfer a chwarae gyda fy ffrindiau agosaf yn deimlad arbennig iawn ac mae hynny’n fy ngwneud yn benderfynol iawn i roi o fy ngorau dros y tîm bob tro.
“Mae’r flwyddyn hon wedi bod yn anhygoel. Ces i’r cyfle i gynrychioli fy ngwlad am y tro cyntaf, ac roedd y gefnogaeth gefais i gan bawb wedi gwneud y profiad hwnnw’n well na’r disgwyl hyd yn oed.
“Roedd ennill fy 50fed cap dros y clwb hefyd yn un o’r eiliadau mwyaf balch a hapus o fy mywyd. Nawr dwi’n edrych ymlaen at y cam nesaf yn fy ngyrfa, a dwi’n benderfynol o wthio fy hun i wella a dysgu ym mhob ffordd bosib.
“Dwi wedi gweld faint ry’n ni wedi tyfu a datblygu fel tîm yn ddiweddar a does gennyf ddim unrhyw amheuaeth y byddwn ni’n parhau i wella fel grŵp.”
Newidiodd Coghlan o fod yn chwaraewr rheng ôl i fod yn fachwr yn 16 oed, pan oedd o dan arweiniad cyn-enillydd y Gamp Lawn gyda Chymru, Rob Sidoli, yn Ysgol Uwchradd Casnewydd.
Mae Coghlan wedi sgorio pedwar cais y tymor hwn, gan gynnwys un yn ystod y fuddugoliaeth Ewropeaidd yn erbyn Newcastle.
“Ry’n ni’n falch iawn ein bod wedi gallu cadw Brodie,” dywedodd hyfforddwr blaenwyr y Dreigiau, Sam Hobbs. “Ar ôl dod drwy ein llwybr datblygu a’r academi, mae wedi datblygu’n arbennig dros y tymhorau diwethaf.
“Mae wastad wedi dangos agwedd gorfforol galed ac mae ei gywirdeb yn y chwarae gosod wedi gwella’n amlwg iawn yn ddiweddar hefyd.
“Ar ôl iddo gael blas ar rygbi rhyngwladol yr Hydref diwethaf, ry’n ni gyd yma’n y Dreigiau’n gwybod pa mor awyddus yw Brodie i barhau ei ddatblygiad ac i sicrhau llwyddiant pellach yn ei yrfa.”
