News

32 o dimau eraill yn rowndiau terfynol Y Ffordd i'r Principality #RTP26

Rodney Parade stadium, Newport
Rodney Parade, Casnewydd

Rodney Parade fydd canolbwynt y sylw unwaith eto heddiw wrth i gyfanswm o 16 o rowndiau terfynol yng Nghyfres y Ffordd i’r Principality – Go Compare 2026 gael eu cynnal yno dros y dyddiau nesaf.

Bydd y rowndiau terfynol ddiwedd tymor hyn i glybiau ac ysgolion yn digwydd yng Nghasnewydd ac mae’r rhagolygon o safbwynt y tywydd a’r cyffro’n hynod addawol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi Cymru, Geraint John: “Fe welson ni’n glir pa mor bwysig yw’r rowndiau terfynol hyn i bob clwb yn Stadiwm Principality’r penwythnos diwethaf, wrth i’r dynion a’r menywod hŷn frwydro am gwpannau’r gwahanol adrannau. Roedd y gefnogaeth yn anhygoel ac mae hynny’n dangos pwysigrwydd ac apêl arbennig rygbi cymunedol yma yng Nhymru.

“Roedd y canu o’r eisteddle’n wych, roedd y gemau’n gyffrous ac roedd yr angerdd welwyd yn gofiadwy iawn.

“Roedd hi’n gwbl amlwg y penwythnos diwethaf pa mor bwysig yw rygbi i bob cymuned, o’r Bala i Gaerdydd, Machynlleth i’r Blaenau neu o’r Tymbl i Flaendulais. Roedd pob gêm yn ddathliad i bob clwb a gobeithio y bydd yr un awyrgylch o garnifal i’w gael yng Nghasnewydd hefyd.

“Mae Rodney Parade yn lleoliad hanseyddol a chyffrous arall i gynnal y rowndiau terfynol olaf hyn – tra bo Stadiwm Principality’n cael ei baratoi ar gyfer digwyddiadau’r haf.”

Mae’r wythnos yn dechrau gyda phedair rownd derfynol y bechgyn dan 18, gyda phump ddydd Mawrth, tri ddydd Mercher a phedair ddydd Sadwrn.

‘Y FFORDD I’R PRINCIPALITY – GO COMPARE 2026’ – DDYDD LLUN, 27 EBRILL

GÊM 1: ROWND DERFYNOL FÂS DAN 18 Y BECHGYN
YSGOL UWCHRADD HWLFFORDD v YSGOL UWCHRADD CRUGHYWEL – 12.00

Hwlffordd: Jake John; Ewan Owen, Iestyn Preddy, Manny Davies, George Luff; Liam Hughes, Connor Wesley; Josh Slater, Harri Evans, Fin Bruins (capten), Ewan Grifiths, Ianto Evans. Jack Robinson, Caio Jones, Rhys Lewis
Eilyddion: Lucas Aubery, William Harries, Reuben Gibbs, Sean Bolger, Niall Smith, Mason Montague, Connor Symmonds, Gethin Thomas

Crughywel: Alfie Danter; Joshua Backhouse, Will Valentine-Powell, Toby Hall, Mackenzie Janes-Evans; Max Leyshon, Finley Cole; Twm Gough, Griff Gould (capten), Gethin Barker, Jude Marsden, Marcellus Richardson, Benjamin Bruynseels, Dylan Neileay, Rhodri Presdee-Salathial
Eilyddion: Will Creed-King, Jack Parton, Gethin Jones, Ioan Warman-Powell, Bowen Thomas

Y FFORDD I’R FFEINAL

4 Mawrth 2026 – Cyn-derfynol
Crughywel 27 – 14 Coleg Merthyr
Hwlffordd 41 – 22 Ysgol y Strade

4 Chwefror 2026 – Wyth Olaf
Stanwell 14 – 25 Hwlffordd
Tonyrefail 5 – 17 Crughywel

GÊM 2: ROWND DERFYNOL PLÂT DAN 18 Y BECHGYN
YSGOL MAES Y GWENDRAETH v YSGOL BRO TEIFI – 2.15 pm

Ysgol Maes y Gwendraeth: Steffan Bennett; Zubin Stimpson Smith, Ifan Davies, Gethin Lynch, Gethin Thomas; Osian Morgan, Zak Payne; Dafydd Thomas, Llyr Clayton, Joshua Jones, Hywel Williams, Siencyn Rhys, Dylan Rees, Morgan Pugh, Lewys Rowe
Eilyddion: Hari Jones, Cory George, Owain Page, Freddie Lewis, Sam Davies, Asher Jones, Llew Ifan Tomos, Steffan Rees

Ysgol Bro Teifi: Jac Davies; Jack Brown, Dafydd Nichols-Evans, Bobi Jones, Aled James; Gwilym Williams, Cai Griffiths; Iestyn Evans, Elis Evans, Llew Thomas, Guto Dafis, Tomos Davies, Khaylum White, Cai Rees, Elis Davies
Eilyddion: Eben Thomas, Rhun Riddell, Seth James, Liam Bowen-Harries, Llifon Evans, Dion Jones, Gwion Davies

Y FFORDD I’R FFEINAL

24 Mawrth 2026 – Cyn-derfynol
Bro Pedr 18 – 55 Maes y Gwendraeth

19 Mawrth 2026 – Cyn-derfynol
Bro Teifi 70 – 22 Porthcawl

4 Mawrth 2026 – Wyth Olaf
Bro Teifi 28 – 15 Llangynwyd
Bryntirion 10 – 25 Maes y Gwendraeth

4 Chwefror 2026 – Round 1
Cenydd Sant 22 – 55 Bro Teifi

3 Chwefror 2026 – Round 1
Plasmawr 22 – 41 Maes y Gwendraeth

28 Ionawr- Rownd Ragbrofol
Pencoed 0 – 51 Bro Teifi

GÊM 3: ROWND DERFYNOL CWPAN DAN 18 Y BECHGYN
YSGOL DYFFRYN TAF v YSGOL BRO MORGANNWG – 4.30pm

Ysgol Dyffryn Taf: Freddy Davies; Sam Morris, Ellis Hennessey, Ollie Hurst, Shay Morgan; Iori Phillips, Dom James; Jack Badham, Ollie Phillips, Kaynon Harries, Sam Lynch, Sol Roberts (capten). James Owen, Charlie Reynolds, Callum Goeman
Eilyddion: Jack Monk,  Sion Bevan, Harri Coaker, Gethin Llewellyn, Iwan Thomas, Ethan Hutchings, Morgan Lewis, Cai Faulkner

Bro Morgannwg: Tomos Powell; Tomos Provis, Richie Jenkins, Jack Evans, Conor Williams; Rhys Muxworthy, Owen Lewis; Efan Mitchell, Aled Phillips, Rhydian Jones, Oliver Bennett, Gethin Halsall, Elian Davies, Owain Weighell, Charlie Williams
Eilyddion: Twm Pierce, Oscar Thomas, Osian Phillips, William Thomas, Rhys Lewis, Ruthyn Griffiths, Jacob Hunter, Gryff Reynolds

Y FFORD I’R FFEINAL

4 Mawrth 2026 – Cyn-derfynol
Bro Morgannwg 45 – 12 Bro Preseli
Bro Myrddin 25 – 30 Dyffryn Taf

4 Chwefror 2026 – Wyth Olaf
Dyffryn Taf 55 – 12 Bro Edern

28 Ionawr 2026 – Wyth Olaf
Treorci 22 – 40 Bro Morgannwg

14 Ioanwr 2026 – Round 1
Bro Morgannwg 42 – 21 Crughywel
Dyffryn Taf 38 – 20 Ysgol y Strade

GÊM 4: ROWND DERFYNOL CWPAN DATBLYGU YR YSGOLION A’R COLEGAU
COLEG CAERDYDD A’R FRO v COLEG GWENT – 7.00pm

CCa’rFro: Isaac Goldney; Sonny Ledley, Louie Hurley, George Strong, Ashton Postgate; Harvey Becher, Cian McGee; Osian Leeke, Dylan Busuttil, Max Randell, Osian Howell, Chai Gangineni, Milo Fowler, Alfie Sherwood, Harrison Flowers
Eilyddion: Gabriel Chandler, Jack Bennett, Aaron Moce, Joey Harrington, Ffredi Easterby, Caiden Harrigan, Sam Greening, Dylan Shears, Iestyn Stephens, Jack Harding, Harvey Bryant

Coleg Gwent: Rio Keech; Cole Pelopida, Callum Jayne, Tegwyn Mahoney (capten), Joe Davies; Lewis Hannam, Isaac Williams; Joe Ali, Morgan Suller, Rhys James, Tomos Williams, Maz Steed, Jonah Crawley, Zac Little, Ralph Evans
Eilyddion: Niall Owens, Josh Bradley, Joseph Manship, Matthew Jones, Jaiden Williams, Zac Morgan, Liam Partridge, Jayden Moon, Mason Whittle, Liam Preece, Dylan Griffiths

Y FFORDD I’R FFEINAL

GRŴP A: Coleg Sir Gâr 17 – 19 Coleg Gwent; Coleg Gwent 49 – 17 Coleg Gŵyr; Coleg Gwent 28 – 14 Ysgol Uwchradd Casnewydd

GRŴP B: Coleg Castell-nedd Port Talbot 21 – 45 CCa’rFro; CCa’rFro 50 – 5 Ysgol Ystalyfera; Ysgol Dyffryn Aman 14 – 39 CCa’rFro; Coleg Pen-y-bont 19 – 26 CCa’rFro; CCa’rFro 29 – 26 Coleg y Cymoedd

Related Topics