Daeth tymor Gwalia Lightning yn yr Her Geltaidd i ben wrth iddyn nhw golli’n ddewr o 35-20 yn erbyn y Clovers yn rownd gyn-derfynol y gemau ail gyfle yn Galway.
Amcan Catrina Nicholas-McLaughlin a’i charfan ar ddechrau’r tymor oedd cyrraedd pedwar olaf y gystadleuaeth – ac fe roddodd y ffaith eu bod nhw eisoes wedi cyflawni eu nod, hyder cynnar i’r ymwelwyr.
Wedi dim ond 3 munud o chwarae fe osododd rhediad nerthol Gwennan Hopkins y sylfaen i Alaw Pyrs agor y sgorio yng nghysgod y pyst ac fe gadarnhaodd trosiad syml Carys Hughes y dechrau delfrydol i’r Cymry yn heulwen Stadiwm Dexcom.
Gan bo merched Denis Fogarty wedi curo Gwalia ddwywaith yn ystod y tymor arferol, roedd disgwyl iddyn nhw daro’n ôl – a dyna ddigwyddodd wedi bron i chwarter awr o chwarae. Wedi sawl cymal o bwyso ar linell gais yr ymwelwyr, hyrddiodd y bachwr Beth Buttimer ei hun dros y gwyngalch i roi’r cyfle syml i Enya Breen wneud pethau’n gyfartal.
Yn y ddwy ornest flaenorol hynny, dim ond o un sgôr yr enillodd y Gwyddelod ac felly roedd Bryonie King a’i thîm yn hyderus y byddan nhw’n gallu cynnig her gwirioneddol arall i’r Clovers heddiw.
Rhoddwyd gwynt yn hwyliau Gwalia wrth i’r chwarter agoriadol ddod i ben gan i Ailish Quinn weld cerdyn melyn a gan i Hughes fanteisio ar ei chic gosb.
Ond tra bo’r blaen-asgellwr yn dal ar yr ystlys, y Clovers ymatebodd orau gan sgorio cais a throsiad pellach.
Wedi 23 munud o chwarae fe fanteisiodd y Gwyddelod ar bêl rydd yng nghanol y cae – a doedd neb mewn crys glas yn gallu atal yr asgellwr Beibhinn Parsons rhag rhoi ei thîm ar y blaen am y tro cyntaf. Yn anffodus o safbwynt Cymreig, wnaeth y Clovers ddim ildio’r fantais honno am weddill yr ornest.
9 munud cyn troi, eiliadau’n unig wedi i Quinn ddychwelyd i’r maes, tro’r canolwr Alan McInerney oedd tirio – ac wedi i record gicio berffaith Breen barhau, roedd gan y Clovers fantais o 11 o bwyntiau ar yr egwyl.
Hanner Amser: Clovers 21 Gwalia Lightning 10
10 munud wedi’r ail-ddechrau aeth y clo a’r capten Ruth Campbell â’r fuddugoliaeth y tu hwnt i afael Gwalia Lightning i bob pwrpas wrth iddi sgorio pedwerydd cais ei thîm yn union o dan y trawst, ac er mai yn y canol y mae Breen wedi chwarae’r rhanfwyaf o’i rygbi y tymor hwn, trosi’n hyderus fu hanes y maswr a Seren y Gêm am y pedwerydd tro o’r prynhawn.
Fe ddangosodd Gwalia Lightning wir gymeriad i daro’n ôl wedi hynny – ac erbyn i’r gêm gyrraedd y chwarter olaf – dim ond 8 pwynt oedd yn gwahanu’r timau.
Yr eilydd Caitlin Lewis groesodd yn gelfydd yn y gornel i ddechrau, cyn i Gwennan Hopkins sgorio trydydd cais ei thîm wedi sgarmes symudol arbennig.
Er holl ymdrechion di-flino yr ymwelwyr, y Clovers gafodd y gair olaf wrth i McInerney groesi am yr eildro y amser yr amen, gan wneud gwaith Enya Breen o drosi am y pumed tro’n hynod syml.
Y Clovers felly sy’n camu ymlaen i rownd derfynol gyntaf erioed yr Her Geltaidd y penwythnos nesaf er ad oedd y sgorfwrdd ar y chwiban olaf yn adrodd pa mor gystadleuol fu’r ornest gofiadwy hon.
Tymor Gwalia Lightning yn dod i ben yn yr Ynys Werdd felly, ond ymgyrch arall o wir ddatblygiad i garfan Catrina Nicholas-McLaughlin.
Canlyniad: Clovers 35 Gwalia Lightning 20
Fe dalodd Prif Hyfforddwr y Clovers, Denis Fogarty glod i berfformiad Gwalia Lightning wedi’r chwiban olaf: “Mae’n rhaid i mi dalu ternged i Gwalia. Fe roddon nhw ni o dan lawer o bwysau heddiw – ond diolch i’r drefn, fe lwyddon ni i ennill y gêm yn y pendraw. Yn naturiol ry’n ni’n hynod o falch ein bod wedi cyrraedd y Rownd Derfynol.”
Bydd rownd derfynol gyntaf yr Her Geltaidd yn cael ei chwarae yn Stadiwm Hive, Caeredin, ddydd Sadwrn, 28 Mawrth (3pm).
Tîm Gwalia Lightning (v Clovers)
15 Nikita Prothero, 14 Courtney Greenway, 13 Kelsie Webster, 12 Isla McMullen, 11 Catherine Richards, 10 Carys Hughes, 9 Sian Jones; 1 Chloe Thomas-Bradley, 2 Molly Reardon, 3 Jenni Scoble, 4 Alaw Pyrs, 5 Chiara Pearce, 6 Gwennan Hopkins, 7 Anwen Owen, 8 Bryonie King (capten).
Eilyddion: 16 Ffion Korsak, 17 Crystal James, 18 Cerys Cuming, 19 Abbie Fleming, 20 Lily Terry, 21 Lily Hawkins, 22 Molly Anderson Thomas, 23 Caitlin Lewis
