Wedi chwarter canrif o aros – fe enillodd Abertawe dlws o’r diwedd wrth godi Plât Super Rygbi Cymru am guro Rygbi Gogledd Cymru o 29-13 ar Barc yr Arfau.
Yn ôl yn 2001 yr hawliodd y Gwynion Goron Cynghrair Cymru a’r Alban – a hynny o dan arweiniad Scott Gibbs. Ddwy flynedd cyn hynny fe godon nhw Gwpan Swalec wedi eu buddugoliaeth dros glwb Llanelli ar Barc Ninian.
Sgoriodd Mat Protheroe dri chais yn y rownd gynderfynol eleni’n erbyn Cwins Caerfyrddin – ac fe groesodd am ddau gais arall yn y Ffeinal hefyd. Cafodd y maswr Josh Phillip brynhawn i’w gofio hefyd gan iddo sgorio cais, pedair gôl gosb a throsiad.
Sgoriodd y clo Billy McQueeney gais i’r Gogleddwyr, oedd yn cymryd rhan yn eu rownd derfynol gyntaf ers iddyn nhw ennill Cwpan Cenedlaethol Undeb Rygbi Cymru naw mlynedd yn ôl. Trosodd Billy McBryde gais McQueeney a llwyddodd hefyd i daro dwy gic gosb gywir.
Dywedodd Hyfforddwr Amddiffyn Abertawe, Liam Gadd:“Roedden ni’n haeddu ennill heddiw. Dydw i ddim yn meddwl y byddai unrhyw oedd yma’n dweud nad oedden ni’n haeddu’n buddugoliaeth.
“Mae Rygbi Gogledd Cymru’n dîm da, ond ro’n i’n meddwl ein bod ni wedi rheoli’r gêm yn effeithiol. Mae ennill heddiw’n dipyn o gamp ac mae’n rhyddhad i’r holl glwb ein bod wedi ennill y gystadleuaeth.
“Cafodd Keith Colclough (Rheolwr Gyfarwyddwr Clwb Rygbi Abertawe) sgwrs gyda’r bechgyn ddydd Iau am beth yn union fyddai buddugoliaeth yn ei olygu i bawb sy’n gysylltiedig â Chlwb Abertawe.
“Mae’r clwb wedi cael ambell gyfnod anodd dros y blynyddoedd diwethaf, ond eleni ry’n ni wedi troi rhyw fath o gornel. Mae cyrraedd y rownd derfynol yn wych, ond mae ennill tlws – hyd yn oed oes mai’r Plât yn hytrach na’r Cwpan yw e’ – yn golygu rhywbeth i’r clwb ac i’r bechgyn hefyd. Dyma’r tro cyntaf i nifer o’r bois i ennill unrhywbeth.
“Roedd heddiw’n ddiwrnod hapus iawn i lawer o bobl, ac mae’r holl garfan wrth ein boddau’n gweld ein cefnogwyr yn wên o glust i glust.”
