News

Tymor Brython ar ben wrth i'r Wolfhounds gyrraedd y rownd derfynol

Erin King o'r Wolfhounds yn ei chanol hi

Colli o 36-10 fu hanes Brython Thunder yn erbyn y Wolfhounds yn rownd gynderfynol yr Her Geltaidd yn Galway heddiw.

Yn dilyn buddugoliaeth y Clovers yn erbyn Gwalia Lightning yn gynharach yn y prynhawn, yn yr un lleoliad, dau dîm Gwyddelig sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar draul dau dîm Cymreig.

Wedi ail hanner ardderchog i’w hymgyrch yn y Cynghrair y tymor hwn – hon oedd colled gyntaf Brython Thunder mewn chwe gêm.

Gan mai Brython yw’r unig dîm i guro’r Pencampwyr presennol y tymor hwn, roedd merched Neill Acorn ar dân i dalu’r pwyth am y golled o 14-0 ar Barc y Scarlets ar yr 8fed o fis Mawrth.

Ac fe ddechreuon nhw ar dân hefyd gan sefydlu eu goruchafiaeth o’r chwiban gyntaf.

Fe groesodd y Wolfhounds am 3 chais o fewn y 12 munud agoriadol gan osod un droed yn y Ffeinal cyn i Brython gael y cyfle i daro unrhyw ergyd effeithiol.

Wedi llai na 3 munud o chwarae roedd y clo Naoise Smith wedi croesi am y cyntaf o chwe chais ei thîm o’r ornest ac wedi trosiad Dannah O’Brien, roedd carfan Ashley Beck yn gwybod bod her a hanner o’u blaenau yn heulwen tanbaid Stadiwm Dexcom.

Chwe munud yn ddiweddarach, yn dilyn cyfnod o gydweithio a dwylo da ymysg y blaenwyr a’r olwyr, Stacey Flood hawliodd ail gais y tîm cartref, ac o fewn 2 funud i hynny roedd y cefnwr wedi cadarnhau dechrau campus ei thîm wrth dirio’u trydydd cais cynnar.

Erbyn yr egwyl, roedd Aoife Dalton a’i chyd-chwaraewyr wedi agor bwlch o 31 o bwyntiau rhwng y ddau dîm, yn dilyn ceisiau Eve Higgins a Vicki Elmes Kinlan a dau drosiad pellach gan O’Brien.

Hanner Amser: Wolfhounds 31 Brython Thunder 0

Alisha Joyce yn chwarae eto. Llun gan Shauna Clinton/Sportsfile

Tystiwyd eiliad arbennig wedi 11 munud o’r ail hanner wrth i flaen-asgellwr Cymru Alisha Joyce gamu i’r maes fel eilydd – 123 o ddyddiau’n unig wedi iddi roi genedigaeth i’w mab Ralphie.

Roedd ei phartner Jasmine Joyce eisoes ar y cae wrth i’r ddwy ohonyn nhw wneud eu hymddangosiadau cyntaf dros Brython Thunder ac yn y gystadleuaeth.

Er i Brython gael tipyn mwy o feddiant a llwyddiant wedi troi, carfan Neill Alcorn sgoriodd bwyntiau cyntaf yr ail hanner wedi 54 munud o chwarae. Mae hi wedi bod yn wythnos dda i’r asgellwr Robyn O’Connor gan iddi gael ei galw i garfan Iwerddon ar gyfer y Chwe Gwlad a gan iddi dirio chweched cais y Wolfhounds o’r prynhawn yn y gornel.

Fe gafodd Brython Thunder ddwy eiliad gofiadwy haeddiannol yn y rownd gyn-derfynol hanesyddol hon gan i Branwen Metcalfe wthio’i hun dros linell gais y Gwyddelod gyda 10 munud ar ôl ac yna wedi i’r eilydd Regan Casey weld cerdyn melyn – fe diriodd Jorja Aiono ail gais y crysau cochion yn yr eiliadau olaf wedi ei rhediad campus o fôn y sgrym.

Canlyniad heriol i ddod ag ymgyrch Brython Thunder yn yr Her Geltaidd i ben heddiw felly, ond yn dilyn datblygiad a thwf amlwg ei garfan yn ystod ail hanner y tymor, bydd gan Ashley Beck seiliau cadarn a chyffrous i adeiladu arnyn nhw’r tymor nesaf.

Canlyniad: Wolfhounds 36 Brython Thunder 10

Bydd rownd derfynol yr Her Geltaidd rhwng y ddau dîm Gwyddelig, y Wolfhounds a’r Clovers yn cael ei chynnal yn Stadiwm Hive, Caeredin ddydd Sadwrn, 28 Mawrth (3pm).

Wedi’r chwiban olaf, dywedodd Seren y Gêm, Eve Higgins: “Mae ennill yn erbyn Brython heddiw – sy’n llawn o chwaraewyr dawnus iawn – yn deimlad braf iawn. Ar ôl colli’n eu herbyn yn Llanelli’n ddiweddar, roedden ni’n gwybod bod heddiw’n mynd i fod yn galed – ond mae pawb yn y garfan wrth ein bodd ein bod ni wedi cyrraedd y Ffeinal yr wythnos nesaf.”

Eve Higgins yn croesi. Llun gan Shauna Clinton/Sportsfile

Tîm Brython Thunder (v Wolfhounds)
15 Lisa Neumann, 14 Jasmine Joyce, 13 Courtney Keight, 12 Savannah Picton-Powell, 11 Seren Singleton, 10 Hanna Marshall, 9 Seren Lockwood; 1 Stella Orrin, 2 Shanelle Williams, 3 Elan Jones, 4 Gwen Crabb (Capten), 5 Natalia John, 6 Branwen Metcalfe, 7 Lucy Isaac, 8 Jorja Aiono

Eilyddion: 16 Rhian Bowden, 17 Lowri Williams, 18 Megan Lewis, 19 Robyn Davies, 20 Alisha Joyce, 21 Mollie Wilkinson, 22 Hannah Bluck, 23 Mabli Evans

 

 

Related Topics