News

Tîm D20 Yr Eidal yn curo’r Cymry yng Nghasnewydd

Dom Kossuth ar garlam cyn iddo ddioddef anaf

Daeth ymgyrch tîm D20 Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad i ben gyda pherfformiad a chanlyniad siomedig, wrth i’r Eidal ennill o 20-13 yn Rodney Parade.

Er bod bechgyn Richard Whiffin wedi ennill eu dwy gêm gartref gyntaf o’r gystadleuaeth, ac er eu dechrau da heddiw, yr Azzurrini hawliodd eu buddugoliaeth gyntaf o’r Bencampwriaeth yng ngwynt a glaw Gwent.

Roedd Prif Hyfforddwr Cymru wedi dewis 9 o chwaraewyr i ddechrau ym mhob un o’r gemau’n y Bencampwriaeth y tymor hwn – ond Lewis Edwards oedd yn chwarae ei ran am y tro cyntaf yn ymgyrch Cymru eleni agorodd y sgorio wedi dim ond 9 munud o chwarae. Fe fanteisiodd y cefnwr ar fwlch grëwyd gan amseru perffaith pas Steff Emanuel ac fe wnaeth hynny dasg Lloyd Lucas o drosi’n hynod syml.

Er i’r Cymry fwynhau dros 70% o’r meddiant yn y chwarter agoriadol fe gafodd y tîm cartref ergyd ddwbl wrth i’r mewnwr Siôn Davies a’r wythwr Dom Kossuth orfod gadael y maes gydag anafiadau.

Wedi hynny fe ddeffrodd yr Azzurrini i lusgo’u hunain yn ôl i mewn i’r ornest.

Ar eu hymweliad cyntaf â dwy ar hugain y Crysau Cochion, fe hyrddiodd y blaenasgellwr Anthony Miranda ei hun dros y gwyngalch i gofnodi sgôr cyntaf tîm Andrew Di Giandomenico o’r prynhawn gyda chwarter awr o’r hanner cyntaf yn weddill.

7 munud wedi hynny fe neidiodd yr asgellwr Malik Faissal fel eog i ennill y bêl uchel, wnaeth gwaith Jaheim Noel Wilson o groesi’n syml iawn.

Doedd maswr Yr Eidal Francesco Braga methu â meistroli’r gwynt a’r glaw gyda’i gicio yn ystod y 40 munud agoriadol – ond stori wahanol oedd hi yng nghyd-destun Lloyd Lucas.

Holltodd y maswr cartref y pyst ddwywaith yn nhri munud olaf y cyfnod cyntaf i sicrhau mantais o driphwynt i’w dîm ar yr egwyl. Yn anffodus o safbwynt Cymreig – y sgoriau hynny oedd rhai olaf y Crysau Cochion o’r ornest.

Hanner Amser: Cymru D20 13 Yr Eidal D20 10

Fe giciodd Lloyd Lucas 8 pwynt yn ystod yr hanner cyntaf

Y gynnar yn yr ail hanner, fe efelychodd Yr Eidal eu camp o’r cyfnod cyntaf wrth sgorio dau gais yn fuan wedi ei gilydd.

Wedi 11 munud o’r ail gyfnod, aeth yr ymwelwyr ar y blaen am yr eildro yn dilyn sgarmes symudol drefnus. Y bachwr Valerio Pelli hawliodd y trydydd cais hwnnw – ei bumed ar y lefel hon yn ei bumed ymddangosiad.

Agorwyd y bwlch ymhellach 3 munud yn ddiweddarach pan redodd y clo Simone Fardin am 12 metr i hawlio pwynt bonws yr ymwelwyr ac yn y pendraw fe brofodd yr eiliad honno’n dyngedfennol.

Er eu holl addewid a chadernid trwy gydol y Chwe Gwlad eleni, fe gostiodd eu camgymeriadau a’u diffyg disgyblaeth yn ddrud i Deian Gwynne, Steff Emanuel a’u tîm y prynhawn yma ac erbyn y chwiban olaf, roedd carfan Cymru’n gwybod bod cyfle gwirioneddol i ennill eu trydedd gêm o’r Bencampwraieth wedi llithro o’u gafael.

Canlyniad: Cymru D20 13  Yr Eidal D20 20

Wedi’r golled, dywedodd Cyd-gapten Cymru Deian Gwynne: “Ry’n ni’n gorfod bod yn fwy cyson er mwyn ennill gemau fe hon heddiw. Ni methu chwarae ar safon uchel un wythnos ac yna methu â gwneud hynny’n y gêm nesaf.

“Fe adwodd ein disgyblaeth ni lawr heddiw ac felly mae ganddon ni lawer i’w ddysgu.

“Dwi wedi mwynhau arwain y garfan yma ar y cyd gyda Steff (Emanuel) yn ystod y Bencampwriaeth eleni. Mae wedi bod yn brofiad gwych ac mae’r bois i gyd yn edrych ymlaen at Gwpan y Byd.”

Ychwanegodd Seren y Gêm, Valerio Pelli: “Ry’n ni’n hapus iawn heddiw. Roedden ni’n haeddu ennill y prynhawn ‘ma ac mae cael y fuddugoliaeth gyntaf o’r Bencampwriaeth eleni – a hynny oddi cartref yn deimlad braf iawn.”

Cymru Dan 20 v Yr Eidal Dan 20, Rodney Parade, Casnewydd – Sul 15 Mawrth.

15 Lewis Edwards (Gweilch)
14 Dylan Scott (Met Caerdydd)
13 Osian Darwin-Lewis (Rygbi Caerdydd)
12 Steffan Emanuel (Rygbi Caerdydd – cyd-gapten)
11 Tom Bowen (Rygbi Caerdydd)
10 Lloyd Lucas (Rygbi Caerdydd)
9 Siôn Davies (Rygbi Caerdydd)

1 George Tuckley (Dreigiau)
2 Tom Howe (Rygbi Caerdydd)
3 Jac Pritchard (Scarlets)
4 Luke Evans (Caerwysg)
5 Osian Williams (Bryste)
6 Deian Gwynne (Caerloyw – cyd-gapten)
7 Caio James (Caerloyw)
8 Dom Kossuth (Scarlets)

Eilyddion
16 Oscar Thomas (Caerfaddon)
17 Dylan James (Gweilch)
18 Isaac Godfrey (Caerwysg)
19 Oscar Rees (Caerloyw)
20 Osian Williams (Scarlets)
21 Alex Ridgway (Caerfaddon)
22 Carter Pritchard (Dreigiau)
23 Steff Jac Jones (Scarlets)

Pencampwriaeth Chwe Gwlad Dan 20 – 2026 – Gemau Cymru

  • Gwener 6 Chwefror, 19:45 – Lloegr 19-16 Cymru, Gerddi Franklin, Northampton
  • Sadwrn 14 Chwefror, 20:00 – Cymru 24-34 Ffrainc, Parc yr Arfau Caerdydd
  • Gwener 20 Chwefror, 19:15 – Cymru 31-21 Yr Alban, Parc yr Arfau Caerdydd
  • Sadwrn 7 Mawrth, 19:45 – Iwerddon 48-33 Cymru, Parc Virgin Media, Corc
  • Sul 15 Mawrth, 13:00 – Cymru 13 Yr Eidal 20, Rodney Parade, Casnewydd

Related Topics