Yn eu gêm baratoadol gyntaf wrth edrych ymlaen at Ŵyl y Chwe Gwlad yn Georgia, colli o 19-10 fu hanes tîm dan 18 Cymru yn erbyn Yr Eidal yn heulwen Ystrad Mynach heddiw.
Fe sgoriodd bechgyn Richie Pugh ddau gais – ond fe brofodd tri chais yr ymwelwyr yn allweddol o flaen torf swmpus yn Sir Caerffili.
Yr Eidal ddechreuodd orau, gyda’u hasgellwr chwith Diego Ferrazzi yn amlwg, a’u pac enfawr yn arbennig o gorfforol.
Doedd hi’n fawr o syndod felly pan ruthrodd y prop Dario Argenton dros linell gais y Cymry i agor y sgorio – ond fe darodd y tîm cartref yn ôl yn effeithiol bum munud wedi hynny pan groesodd y cefnwr Sam Morgan yn y gornel.
Roedd y prop pen rhydd Bryan Kamanga yn meddwl ei fod wedi tirio ail gais Cymru’n gynnar yn yr ail hanner – ond methiant fu ei holl ymdrechion i argyhoeddi’r dyfarnwr ei fod wedi tirio’r bêl i o dan bentwr o gyrff.
O dan arweiniad y capten Alfie Prygodzicz, parhau i roi’r Eidalwyr o dan bwysau wedi hynny wnaeth y Crysau Cochion – ond yn erbyn rhediad y chwarae, fe darodd yr ymwelwyr ddwy ergyd allweddol o fewn chwe munud i’w gilydd i gipio rheolaeth ar y gêm.
Y ddau glo Matteo Rosi ac Edoardo Berchiollo, darodd y ddwy ergyd honno a throswyd y naill gan Mattia Andretti a’r llall gan Lorenzo Barboglio Crainz i greu mantais, o 19-5 i’r ymwelwyr.
Er i Ioan Dacey ddyblu sgôr y tîm cartref, roedd y cloc a’r Eidalwyr yn drech â’r Cymry ifanc yn y pendraw.
Canlyniad: Cymru D18 10 Yr Eidal D18 19
Dywedodd Prif Hyfforddwr tîm Dan 18 Cymru, Richie Pugh : “Wnaethon nhw reoli’r momentwm am yr 20 munud cyntaf ond wedi’r egwyl – ni oedd yn rheoli hynny wedi i ni fynd i’r ystafell newid hanner amser gyda’r sgôr yn gyfartal 5-5.
“Roedden ni’n meddwl ein bod wedi sgorio i fynd ar y blaen yn fuan wedi troi – ond pob clod i’r Eidalwyr am gymryd eu dau gyfle i sgorio’r ddau gais allweddol yn glinigol.”
Cymru D18
15 Sam Morgan (St Cenydd, Coleg Gwent, Dreigiau)
14 Dylan Quin (Coleg Gŵyr, Gweilch)
13 Ethan Bolch (Gweilch)
12 Will Adams (Ysgol Glantaf, Rygbi Caerdydd)
11 Harvey Bryant (Coleg Caerdydd a’r Fro, Rygbi Caerdydd)
10 Will Ford (St Cenydd, Dreigiau)
9 Alfie Luger (Coleg Llanymddyfri, Scarlets)
1 Bryan Kamanga (Coleg Llanymddyfri, Rygbi Caerdydd)
2 Tiaan Hall (Coleg Gwent, Dreigiau)
3 Isaac Jones (Ysgol Glantaf, Rygbi Caerdydd)
4 William Carroll (Coleg Pen-y-bont, Gweilch)
5 Harri Lewis (Coleg Llanymddyfri, Rygbi Caerdydd)
6 Will Watkins (Y Pant / Ysgol Glantaf, Rygbi Caerdydd)
7 Alfie Prygodzicz (Ysgol Glantaf, Rygbi Caerdydd) – Capten
8 Mosese Tuliakiono (Coleg Radley, Caerloyw)
Eilyddion
16 Cole Lacey (Coleg Sir Gâr, Scarlets)
17 Logan Goodluck (Coleg Dewi Sant, Llandrillo, Rygbi Gogledd Cymru)
18 Sam Bryant (Coleg Hartpury, Caerloyw)
19 Harvey Thomas (Coleg Llanymddyfri, Scarlets)
20 Jac Cloke (Coleg Sir Gâr, Scarlets)
21 George Thomas (Coleg y Cymoedd, Rygbi Caerdydd)
22 Madoc Evans (Ysgol y Preseli, Coleg Sir Gâr, Scarlets)
23 Owen Lewis (Coleg y Cymoedd, Rygbi Caerdydd)
24 Ryley Fussell (Coleg y Cymoedd, Dreigiau)
25 Harry Kinsey (Ysgol Glantaf, Rygbi Caerdydd)
26 Ioan Dacey (Coleg y Cymoedd, Rygbi Caerdydd).
