News

Tandy'n hyderus y bydd Cymru'n gystadleuol yn Nulyn

Prif Hyfforddwr Cymru, Steve Tandy

Mae dechrauad Steve Tandy fel Prif Hyfforddwr o ran trefn gemau ar y llwyfan rhyngwladol wedi bod yn heriol iawn.

Wrth wynebu Iwerddon heno – bydd Cymru wedi wynebu pob un o’r saith tîm gorau yn y byd yn wyth gêm gyntaf Steve Tandy wrth y llyw.

Mae’r Gwyddelod yn drydydd ymhlith detholion y byd ar hyn o bryd ac yn edrych i adeiladu ar eu buddugoliaeth hanesyddol dros Loegr yn Twickenham y penwythnos diwethaf.

Yn dilyn perfformiad calonogol yn erbyn Yr Alban yn nhrydedd rownd y gemau, mae Tandy yn credu bod pethau’n dechrau troi tuag at y cyfeiriad cywir a bod datblygiadau cadarnhaol yn digwydd:

“Ry’n ni wedi cyrraedd y pwynt lle gallwn ni fod yn wirioneddol gystadleuol yn Nulyn. Os y’n ni’n gwneud hynny eto ac yn adeiladu ar agweddau cadarnhaol ein perfformiad yn erbyn Yr Alban, rwy’n credu y byddwn ni’n gallu cadw’n hunain yn yr ornest gan roi gobaith i ni gael y canlyniad ry’n ni i gyd ei eisiau.

“Ond dyw’r ffaith ein bod wedi perfformio’n dda yn ein gêm ddiwethaf ddim yn golygu y gallwn ni orffwys ar ein rhwyfau a disgwyl i bethau wella – mae’n rhaid i ni ddal ati i weithio’n ddiflino er mwyn haeddu gweld y gwelliant hwnnw’n parhau i ddigwydd.

“Bydd hi’n her wahanol yn Nulyn heb ein torf ein hunain y tu ôl i ni. Y tro diwethaf roedden ni oddi cartref oedd yn erbyn Lloegr, a chofiwch y dechrau gawson ni i’r gêm honno yn Twickenham.

“Bydd yn rhaid i ni reoli’n emosiynau yn Nulyn, ond rwy’n gyffrous am yr her sydd o’n blaenau. Bydd yn brawf da iawn i ni o ran ein datblygiad.”

Mae Tandy wedi gwneud tri newid i’w bymtheg cychwynnol ers y golled yn erbyn Yr Alban (26-23) bythefnos yn ôl. Mae Ellis Mee yn dychwelyd ar yr asgell yn lle Gabe Hamer-Webb, mae Dan Edwards yn dechrau’n faswr yn lle Sam Costelow sydd wedi’i anafu, ac mae James Botham yn dod i mewn i’r rheng ôl yn lle Taine Plumtree sydd hefyd yn dioddef o anaf.

Mae Prif Hyfforddwr Iwerddon, Andy Farrell, wedi gwneud pum newid i’r tîm enillodd o 42-21 yn Twickenham. Bydd mewnwr y Llewod Jamison Gibson-Park, yn ennill ei 50fed cap, a bydd ei frwydr gyda’i gyd-Lew Tomos Williams, yn un o ornestau allweddol y frwydr yn Nulyn.

Er i Gibson-Park sgorio cais unigol cofiadwy yn erbyn Lloegr, nid oes unrhyw gynlluniau penodol wedi eu gwneud i’w dawelu yn Stadiwm Aviva medd Steve Tandy:

“Mae’n holl garfan yn hollol ymwybodol o’r ffordd mae Gibson-Park yn chwarae, ond mae ganddyn nhw fwy na’r mewnwr yn unig i ni feddwl amdano. Er bod Gibson-Park yn chwip o chwaraewr, mae gan y Gwyddelod fechgyn ardderchog ym mhob safle!”

“I ni, mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar ein perfformiad a’n rheolaeth ni ein hunain. Roedd rhai agweddau o’n hamddiffyn yn erbyn Yr Alban yn llawer gwell ac roedden ni’n fwy ymosodol yn ein chwarae hefyd. Mae’n rhaid i ni barhau gyda’r datblygiad hwnnw yn erbyn Iwerddon.

“Mae’n mynd i fod yn gêm enfawr yn Nulyn, ond dyma’r math o gemau ry’n ni eu hangen.

“Rwy’n gyffrous i weld sut byddwn ni’n adeiladu ar y perfformiad yn erbyn Yr Alban. Rwy’n credu yn yr hyn ry’n ni’n ei adeiladu ar hyn o bryd, ac mae’r chwaraewyr yn credu yn y cynllun hwnnw hefyd. Mae hyder y chwaraewyr wedi tyfu ac maen nhw’n dechrau deall yn well beth sydd ei angen ganddyn nhw.

“Wrth i’r Bencampwriaeth fynd yn ei blaen, mae mwy o gystadleuaeth o fewn y garfan ac rwy’n hyderus y byddwn ni’n rhoi perfformiad cystadleuol yn erbyn Iwerddon.”

Related Topics