News

Steve Salvin yn ymuno â thîm hyfforddi Menywod Cymru

Steve Salvin

Mae Undeb Rygbi Cymru yn falch o gyhoeddi bod Steve Salvin wedi’i benodi’n hyfforddwr dros dro’r blaenwyr ar gyfer Tîm Menywod Cymru.

Mae Salvin, wedi derbyn caniatád ei glwb Caerwysg – ble mae’n brif hyfforddwr tîm y menywod yno – i ymuno â charfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2026.

Mae’n dod â chyfoeth o brofiad hyfforddi gydag ef dros Bont Hafren a bu’n aelod o dîm hyfforddi Caerwysg, lwyddodd i gyrraedd dwy rownd derfynol yr Uwch Gynghrair yn Lloegr yn olynol yn 2022 a 2023.

Ar hyn o bryd mae Caerwysg, o dan arweiniad Salvin,  yn drydydd yn nhabl yr Uwch Gynghrair.

Bu Steve Salvin yn gweithio fel hyfforddwr cynorthwyol ym Mharc Sandy ers 2021 cyn cael ei ddyrchafu’n brif hyfforddwr gyda’r clwb.

Cyn hynny bu’n hyfforddi gyda’r Rotherham Titans a Leeds Carnegie. Bu Salvin hefyd yn gyfrifol am lwybr perfformiad academi clwb Caerwrangon.

Bydd Steve Salvin yn ymuno â thîm hyfforddi Menywod Cymru ar ei newydd wedd, gan bod Tyrone Holmes yn dechrau ar ei waith fel hyfforddwr amddiffyn, tra bydd Ashley Beck, yn gyfrifol am yr ymosod am gyfnod penodol.

Dywedodd Steve Salvin, Hyfforddwr Blaenwyr Menywod Cymru: “Roedd y cyfle i weithio ar y lefel rhyngwladol gyda Chymru yn y Chwe Gwlad yn un rhy dda i’w wrthod.

“Mae Sean yn hyfforddwr rydw i wedi hyfforddi yn ei erbyn yn y ‘PWR’ yn Lloegr, ac mae pob hyfforddwr yn parchu’r hyn gyflawnodd ef gyda Hartpury-Caerloyw. Nid dim ond llwyddiant prif dîm y menywod yno – ond y seiliau cadarn osododd ef ar gyfer y dyfodol hefyd.

“Mae timau Sean wastad yn gweithio’n galed ac yn benderfynol ac mae ei allu i feithrin hunaniaeth ac undod o fewn ei garfan wastad wedi bod yn allweddol.”

Dywedodd Sean Lynn, Prif Hyfforddwr Cymru: “Mae Steve yn hyfforddwr rydw i’n ei adnabod yn dda ac yn ei barchu’n fawr. Mae’n brofiadol iawn ym myd rygbi menywod a bydd y profiad hwnnw’n wych i’w gael o fewn ein tîm hyfforddi.

“Mae’r paciau y mae’n eu meithrin wastad yn drefnus ac yn drylwyr, ac maen nhw’n gorfodi eu gwrthwynebywr i weithio’n galed drwy gydol gêm.”

Dywedodd Dave Reddin, Cyfarwyddwr Rygbi a Pherfformiad Elît Undeb Rygbi Cymru: “Gwnaeth enw da a phrofiad Steve argraff fawr arnom i gyd drwy gydol y broses gyfweld.

“Ry’n ni’n edrych ymlaen at ei weld yn trosglwyddo’i arbenigedd technegol i garfan Cymru wrth inni geisio adeiladu hunaniaeth newydd ar gyfer y tîm cenedlaethol cyn Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness y Menywod eleni.”

Gall Undeb Rygbi Cymru gadarnhau bod Mike Hill, hyfforddwr blaenwyr Cymru, wedi penderfynu symud ymlaen at bennod nesaf ei yrfa. Hoffai’r Undeb ddiolch i Mike am ei waith gyda charfan gaenedlaethol y menywod dros y blynyddoedd diwethaf, gan ddymuno pob llwyddiant iddo’n y dyfodol.

Related Topics