Sicrhaodd Sêr y Doc Newydd eu lle yn Rownd Derfynol Cwpan y Drydedd Adran yn Stadiwm Principality yn dilyn eu buddugoliaeth gyffrous o 41-36 yn erbyn Y Rhigos, ar faes Tonmawr.
Eu gwobr am ennill y gêm honno yw gornest yn erbyn Y Tymbl ddydd Sul 19 Ebrill, wedi iddyn nhw guro Resolfen o 23-10 yn y gêm gynderfynol arall ar y Gnoll.
Cyn-asgellwr Scarlets a Chymru dan 20, Ben Leung, oedd seren y gêm wrth iddo gipio dau o chwe chais Sêr y Doc Newydd.
Roedd Rhigos 16 phwynt ar ei hôl hi ar yr egwyl cyn iddyn nhw daflu popeth at Sêr y Doc Newydd gan dorri’r bwlch rhwng y timau i ddeubwynt yn unig ar un adeg. Hyd yn oed pan fu’n rhaid iddyn nhw chwarae am gyfnod gyda dim ond 13 o chwaraewyr – roedd eu hymdrech i’w ganmol yn fawr.
Daeth ceisiau eraill Sêr y Doc Newydd gan Gareth Davies, Iestyn Bunyan, Ellis Dickeson, a’r bachwr Rhys Cherry. Trosodd y cefnwr Adam Gealy bedair gwaith ac fe ychwanegodd gic gosb hefyd.
Roedd y fuddugoliaeth hefyd yn golygu eu bod yn cadw eu gafael ar Gwpan ‘Dai Morris’. Ers degawd bellach mae’r Cwpan yn y fantol mewn unrhyw gêm rhwng y ddau glwb. Bu mab enwocaf Rhigos, sef cyn flaen-asgellwr Castell-nedd a Chymru, Dai Morris, yn chwarae gydag ac yn erbyn aelod o bwyllgor Sêr y Doc Newydd, Dennis Davey a dyna fu’r symbyliad i ddechrau’r traddodiad gyda’r Cwpan.
Cais Ellis Payne a 18 pwynt o droed Steve Hewett arweiniodd Y Tymbl at eu buddugoliaeth nhw dros Resolfen, gan hawlio’u lle yn Stadiwm Principality yn y broses.
Mae’r Tymbl a Sêr y Doc Newydd eisoes wedi cyfarfod ddwywaith y tymor hwn yn y cynghrair, gyda’r Sêr yn ennill y ddwy gêm o drwch blewyn – 42-31 ar Barc y Mynydd Mawr ac yna 42-34 ar eu tomen eu hunain.
Roedd y gêm yng Nghastell-nedd yn dynn iawn drwy gydol yr hanner cyntaf, gyda Resolfen ar y blaen 10-8 ar yr egwyl. Wedi troi fe arweiniodd pwysau’r Y Tymbl at droseddu cyson gan eu gwrthwynebwyr – ac o’r herwydd cafodd Steve Hewett nifer o gyfleoedd i fynd â’r fuddugoliaeth o gyrraedd Resolfen.
Bydd Rownd Derfynol Cwpan y Bumed Adran yn gweld Clwb Athletig Bargod yn wynebu Clwb Athletig Aberhonddu ar 16 Ebrill. Enillodd Bargod 41-15 yn erbyn Clwb Athletig y Dyfnant, tra llwyddodd Aberhonddu i drechu Clwb Athletig Tondu o 20-15.
Dyw’r Bargod heb golli gêm ym Mhumed Adran y Dwyrian hyd yma’r tymor hwn – ac felly mae eu breuddwyd o gipio’r dwbl eleni’n dal yn fyw ac yn iach ar hyn o bryd.
Mae Clwb Athletig Aberhonddu yn arwain y ffordd eu hunain ym Mhumed Adran Canolbarth y Dwyrain ac felly mae cyflawni’r dwbl eu hunain yn bosibl hefyd, wedi iddyn nhw atal ymdrech lew Tondu, sydd o adran yn îs, dros y penwythnos.
‘Y Ffordd i’r Principality 2026’ – Dydd Sul 16 Ebrill
Rownd Derfynol Cwpan Adran 5: Clwb Athletig Bargod v Clwb Athleticg Aberhonddu (11.00)
Rownd Derfynol Cwpan Adran 4: Llangadog v Pontyclun (1.15)
Rownd Derfynol Cwpan Adran 3: Sêr y Doc Newydd v Y Tymbl (3.30yp)
Rownd Derfynol Cwpan Adran 2: Cwins Aberafan v Clwb Rygbi Cymry Caerdydd (5.45)
