Mae Richie Pugh wedi enwi tîm Dan 18 Cymru i wynebu Iwerddon yng Nghlwb Rygbi Clontarf, Dulyn, ddydd Sul yma (1pm).
Mae pedwar newid i’r pymtheg cychwynnol gollodd 19-10 yn erbyn Yr Eidal yn Ystrad Mynach ddydd Sul.
Mae Ryley Fussell o ranbarth y Dreigiau wedi ei ddewis ar yr asgell dde yn lle Dylan Quin, tra bo Jac Williams o Rygbi Gogledd Cymru’n cymryd lle Harvey Bryant ar yr asgell arall. Mae Pugh wedi gwneud dau newid yn y pac sy’n gweld y blaen-asgellwr o’r Scarlets Rhys Owen yn cael ei gyfle yn lle Will Watkins, tra bod Ioan Dacey o Gaerdydd yn dechrau’n safle’r wythwr. O’r herwydd dechrau ar y fainc fydd Mosese Tuliakiono y penwythnos hwn.
Y gêm hon fydd fydd cyfle olaf Richie Pugh i ystyried gwahanol chwaraewyr cyn enwi ei garfan ar gyfer Gŵyl y Chwe Gwlad, ddydd Gwener 3 Ebrill gyda gêm yn erbyn Yr Alban. Bydd Cymru hefyd yn wynebu’r tîm cartref Ffrainc (ddydd Mawrth 7 Ebrill) a Sbaen (ddydd Sadwrn 11 Ebrill).
Dywedodd Richie Pugh: “Ro’n ni wastad yn mynd i ddefnyddio’r ddwy gêm gyntaf yma i weld faint o ddyfnder oedd ganddon ni yn y garfan. Yn amlwg ry’n ni eisiau cryfhau ein perfformiad yr wythnos yma ond mae’n rhaid inni gofio bod y bechgyn yma ar daith yng nghyd-destun eu datblygiad. Cyn ein curo ni yn Ystrad Mynach, roedd Yr Eidal eisoes wedi chwarae dwy gêm y tymor hwn – tra mai honno oedd ein gornest gyntaf ni, ac i fod yn onest roedd hynny’n amlwg ar adegau.
“Mae’n rhaid i’r bechgyn ddysgu i reoli’r gêm, a rheoli eu nerfau ambell waith hefyd – ond fe ddaw hynny gydag amser a phrofiad. Dyna pam ry’n ni’n profi’r bois ar y lefel yma a bydd y gêm yn erbyn Iwerddon yn her enfawr iddyn nhw ddydd Sul.
“Er na aeth y canlyniad (yn erbyn Yr Eidal) o’n plaid ni, roedd llawer iawn o bethau positif iawn i’w cymryd o’r gêm.
“Roedd y ffaith i ni fethu â manteisio ar ddau gyfle clir i sgorio ceisiau a’r ffaith iddyn nhw gymryd eu dau gyfle hwyr nhw’n wersi caled i’w dysgu.
“Ro’n i’n hapus gyda’n hamddiffyn yn yr hanner cyntaf – ond yn hwyrach yn ystod y gêm fe roddon ni bwysau arnon ni’n hunain yn ddi-angen. Felly fe ddylai’r holl garfan fod wedi dysgu llawer o’r penwythnos diwethaf wrth edrych ymlaen at her y penwythnos yma.”
Cymru Dan 18 v Iwerddon Dan 18
Dydd Sul 22 Mawrth, Clwb Rygbi Clontarf, 1pm
15 Sam Morgan (Ysgol St Cenydd, Coleg Gwent, Dreigiau)
14 Ryley Fussell (Coleg y Cymoedd, Dreigiau)
13 Ethan Bolch (Gweilch)
12 Will Adams (Ysgol Glantaf, Caerdydd)
11 Jac Williams (Coleg Llandrillo, Rygbi Gogledd Cymru)
10 Will Ford (Ysgol St Cenydd, Dreigiau)
9 Alfie Luger (Coleg Llanymddyfri, Scarlets)
1 Bryan Kamanga (Coleg Llanymddyfri, Caerdydd)
2 Tiaan Hall (Coleg Gwent, Dreigiau)
3 Isaac Jones (Ysgol Glantaf, Caerdydd)
4 William Carroll (Coleg Pen-y-bont, Gweilch)
5 Harri Lewis (Coleg Llanymddyfri, Caerdydd)
6 Rhys Owen (Coleg Sir Gâr, Scarlets)
7 Alfie Prygodzicz (Ysgol Glantaf, Caerdydd)
8 Ioan Dacey (Coleg y Cymoedd, Caerdydd)
Eilyddion
16 Cole Lacey (Coleg Sir Gâr, Scarlets)
17 Logan Goodluck (Coleg Dewi Sant, Coleg Llandrillo, Rygbi Gogledd Cymru)
18 Ollie Tucker (Coleg Llanymddyfri, Scarlets)
19 Hefin Hughes (Coleg Sir Gâr, Scarlets)
20 Elis Cox (Ystalyfera, Gweilch)
21 George Thomas (Coleg y Cymoedd, Caerdydd)
22 Madoc Evans (Ysgol y Preseli, Coleg Sir Gâr, Scarlets)
23 Owen Lewis (Coleg y Cymoedd, Caerdydd)
24 Harvey Bryant (Coleg Caerdydd a’r Fro, Caerdydd)
25 Dylan Quin (Coleg Gŵyr, Gweilch)
26 Mosese Tuliakiono (Coleg Radley, Caerloyw)
