Er gwaethaf perfformiad dewr a chystadleuol, colli o 27-17 fu hanes Cymru’n erbyn Iwerddon yn Stadiwm Aviva ym mhedwaredd rownd o gemau ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2026 heno.
O dan oleuadau dinas Dulyn, fe gymrodd y Gwyddelod eu hail gam tuag at gipio’r Goron Driphlyg am yr eildro mewn dau dymor, wrth sgorio pedwar cais yn erbyn Dewi Lake a’i dîm.
Er mwyn cynorthwyo pobl sy’n dioddef o ddallineb lliw, roedd y Cymry’n gwisgo eu crysau gwynion anghyfarwydd yn ystod yr ornest hon – ond crys gwyrdd cyfarwydd Jacob Stockdale agorodd y sgorio wedi 5 munud o chwarae wrth i’r asgellwr goroni 13 chymal effeithiol o feddiant. Hon oedd ei 20fed cais ar y llwyfan rhyngwladol a throswyd hwnnw’n gywir gan Jack Crowley.
Bum munud wedi hynny roedd Jack Conan yn meddwl ei fod wedi sgorio ail gais ei wlad o’r ornest – ond fe sylwodd y dyfarnwr teledu Andrew Jackson bod y prop Tom O’Toole wedi taro’r bêl ymlaen cyn pasio at y blaen-asgellwr.
Wedi ychydig dros chwarter awr o chwarae, pedwar pwynt oedd yn gwahanu’r timau wedi i Dan Edwards hollti pyst y Gwyddelod gyda’i gynnig cyntaf o’r noson.
Bu ond y dim i Gymru sgorio cais ar ddechrau ail chwarter y gêm ond llwyddodd amddiffyn Iwerddon i atal Rhys Carré rhag tirio ei drydydd cais o’r Bencampwriaeth, er bod y prop wedi croesi’r llinell. Serch hynny, nid dyna oedd cyfraniad olaf Carré o’r cyfnod cyntaf o bell ffordd.
Yn dilyn eu buddugoliaeth hanesyddol yn Twickenham bythefnos ynghynt, roedd hyder carfan Andy Farrell yn amlwg ac fe lwyddon nhw i sgorio ail gais cyn yr egwyl.
Y maswr Jack Crowley fanteisiodd ar hyrddiadau cyson ei flaenwyr i ddod o hyd i fwlch prin yn amddiffyn styfnig Cymru – ond er gwaethaf dathliadau mwyafrif y dorf yn Stadiwm Aviva – y Cymry gafodd y gair olaf cyn troi a hynny mewn modd rhyfeddol.
Wedi i’r cloc droi’n goch fe ffugiodd Rhys Carré bas 30 metr o linell gais Iwerddon cyn carlamu fel ebol blwydd i sgorio pedwerydd cais ei yrfa ryngwladol a’i sgôr mwyaf cofiadwy heb os.
Wedi ail drosiad Edwards – dim ond deubwynt oedd yn gwahanu’r ddwy wlad ar yr egwyl.
Hanner Amser: Iwerddon 12 Cymru 10

Roedd y Gwyddelod wedi ennill y pedair gornest ddiwethaf yn erbyn y Cymry a dim ond 3 munud wedi troi, fe aeth penderfyniad allweddol o blaid y tîm cartref mewn ail gyfnod hynod dynn.
Fe gymrodd y tîm dyfarnu gryn amser cyn penderfynu bod Jack Conan wedi tirio’r bêl yn gyfreithlon. Cais i Conan, ail drosiad i Crowley, trydydd cais i’r tîm cartref a dwy sgôr yn gwahanu’r timau oherwydd hynny.
Er i Iwerddon fwynhau cyfnodau hir o feddiant ac ymosod am weddill trydydd chwarter yr ornest – roedd amddiffyn Cymru’n ddi-flino o ddewr.
Ar ymweliad cymharol brin i ddwy ar hugain y Gwyddelod yn ystod yr ail hanner, llwyddodd James Botham i sgorio ail gais Cymru o’r noson o dan y pyst. Wedi i Dan Edwards barhau gyda’i record gicio berffaith roedd Cymru’n ôl o fewn deubwynt ac yn bendant yn hela’r fuddugoliaeth.
Ond noson Iwerddon oedd hon i fod.
Gydag 13 munud yn weddill – fe hawliodd y Gwyddelod bwynt bonws wrth i Jamie Osbourne sgorio pedwerydd cais ei dîm, er na sylwodd y dyfarnwyr bod pas ynghynt yn y symudiad wedi mynd ymlaen. Halen pellach ym mriwiau’r Cymry oedd y ffaith i Tomos Williams dderbyn cerdyn melyn am drosedd yn ystod y symudiad hwnnw hefyd.
Er bo’r fuddugoliaeth y tu hwnt i holl ymdrechion y Cymry wedi hynny, bydd Louie Hennessey yn cofio gweddill yr ornest am weddill ei ddyddiau gan iddo gamu o’r fainc i ennill ei gap cyntaf dros ei wlad.
Er i Gymru berfformio’n llawn cymeriad yn erbyn trydydd detholion y byd – gadael Dulyn yn waglaw wnaeth tîm Steve Tandy gan i Jack Crowley ymestyn y bwlch rhwng y timau i 10 pwynt gyda’i gic gosb hwyr.
Bydd gan garfan Cymru wyth niwrnod cyn wynebu’r Eidal yn Stadiwm Principality ar gyfer eu gêm olaf ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guiness 2026. Bydd y gic gyntaf yn erbyn yr Azzurri am 4.40pm ddydd Sadwrn y 14eg o Fawrth.
Canlyniad: Iwerddon 27 Cymru 17
Wedi i’r gêm ddod i ben, dywedodd Capten Cymru Dewi Lake: “Ry’n ni’n naturiol yn siomedig ein bod wedi colli heno – ond mae datblygiad y garfan yma mewn amser mor fyr ers rownd gyntaf y gystadleuaeth wedi bod yn wych.
“Ry’n ni’n siarad llawer fel carfan am y siwrnai ry’n ni arni – ac mae pawb yn gallu gweld y gwelliant yn ein perfformiadau ni. Iwerddon yw un o dimau gorau’r byd – yn enwedig wrth ymosod – ac fe roddon ni bopeth wrth amddiffyn heno.
“Mae’r ffaith ein bod o fewn dau bwynt i Iwerddon yn hwyr yn y gêm yn dangos ein bod ni’n gwella.”
Ychwanegodd maswr Cymru Dan Edwards: “Beth ry’n ni eisiau ei wneud yw ennill gemau ac mae colli heno’n anodd i’w gymryd. Fe wnaethon ni gamgymeriadau’n hwyr heno gostiodd yn ddrud i ni.
“Wedi dweud hynny, fe gymron ni gam arall ymlaen o ran ein perfformiad ac mae hynny’n rhoi hyder i ni cyn wynebu’r Eidal yr wythnos nesaf mewn gêm sydd yn rhaid i ni ei hennill.”
Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru Steve Tandy: “Er mod i’n siomedig ein bod yn mynd adref heb unrhyw bwyntiau – ro’n ni’n hynod o falch o ba mor gorfforol oedden ni heno.
“Mae na falchder ac angerdd amlwg iawn yn y garfan ac mae pob un o’r chwaraewyr mor falch eu bod yn cynrychioli eu gwlad. Dyw’r fuddugoliaeth ry’n ni’n chwilio amdani ddim yn bell i ffwrdd os y gwnawn ni barhau i weithio’n galed a dangos yr un agwedd di-flino.”
