Mae Prif Hyfforddwr dan 19 Cymru, Richard Whiffin, wedi enwi ei dîm i wynebu Iwerddon ym Mharc yr Arfau Caerdydd ddydd Sul (1pm).
Mae blaenasgellwr y Dreigiau, Cerrig Smith, wedi’i enwi’n gapten ar dîm sy’n cynnwys chwe aelod o’r garfan fu’n rhan o ymgyrch Chwe Gwlad dan 20 Cymru eleni, ac mae’n cynnig cyfle i’r chwaraewyr godi eu dwylo’n amlwg cyn Pencampwriaeth y Byd yr haf hwn.
Dywedodd Richard Whiffin: “Arweiniodd Cerrig y tîm dan 19 yn dda iawn cyn y Nadolig, ac ef oedd capten y tîm dan 18 llynedd yng ngŵyl y Chwe Gwlad hefyd wrth gwrs. Ry’n ni’n hollol ymwybodol o’i rinweddau fel chwaraewr ac arweinydd.”
Mae rhai wynebau newydd yn y garfan, ac mae Whiffin yn awyddus i weld sut y byddan nhw’n ymdopi â gofynion rygbi rhyngwladol.
“Rydw i’n gyffrous gan fod ganddon ni gwpl o fechgyn yn y garfan nad y’n ni wedi’u gweld o’r blaen – mae Cai Gealy a Nick Jones yn ddau faswr ifanc sy’n cael eu cyfle i greu argraff bellach arnon ni. Mae hefyd yn braf gweld rhywun fel Noah Williams, gafodd dymor da iawn gyda’r tîm dan 18 y llynedd, ac sydd bellach wedi gwella’n llwyr o’i anaf, fel y gallwn ei ystyried ef, fel gweddill y bois ar gyfer y garfan ar gyfer Pencampwriaeth y Byd.”
Cymru dan 19 v Iwerddon dan 19
Parc yr Arfau Caerdydd, Sul 29 Mawrth, 1pm
15 Harry Turner (Caerdydd)
14 Noah Morgan (Dreigiau)
13 Bailey Cutts (Caerdydd)
12 Jack Hoskins (Gweilch)
11 Rhys Cole (Dreigiau)
10 Lloyd Lucas (Caerdydd)
9 Cai Gealy (Bryste)
1 George Leyland (Bryste)
2 James Talamai (Dreigiau)
3 Nathan Davies (Dreigiau)
4 Sonny McCabe (Caerdydd)
5 Gabe Williams (Caerdydd)
6 Cerrig Smith (capten) (Dreigiau)
7 Sam Morgan (Gweilch)
8 Noah Williams (Bryste)
Eilyddion
16 Keanu Evans (Scarlets)
17 Hudson Nevin (Scarlets)
18 Dylan James (Gweilch)
19 Cody Rae David (Gweilch)
20 Kai Jones (Scarlets)
21 Nick Jones (Gweilch)
22 Steff Jac Jones (Scarlets)
23 Ioan Leyshan (Caerdydd)
24 Morgan Carter (Dreigiau)
25 Brogan Leary (Dreigiau)
26 Tomos Evans (Caerloyw)
