Mae Richard Whiffin wedi enwi ei dîm i wynebu Iwerddon ym Mharc Virgin Media yn ninas Corc nos Sadwrn yn rownd olaf ond un Pencampwriaeth y Chwe Gwlad o Dan 20. (7.45pm).
Mae tri newid i’r pymtheg cychwynnol gyda phrop pen rhydd y Dreigiau, George Tuckley, yn cymryd lle Dylan James, tra bo canolwr Caerdydd Osian Darwin-Lewis yn dychwelyd i ganol cae yn lle Bailey Cutts, sy’n symud i’r fainc ar ôl sgorio cais ar ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Yr Alban.
Yn safle’r maswr bydd Lloyd Lucas o glwb Caerdydd yn dechrau ei gêm gyntaf o’r Bencampwriaeth ac felly dechrau ar y fainc fydd Carwyn Leggatt-Jones.
Ar y fainc hefyd mae bachwr Caerfaddon, Oscar Thomas, yn cymryd lle James Talamai, tra bod Dom Kossuth o’r Scarlets yn hawlio’i le yno yn lle Alex Ridgway. Carter Pritchard o’r Dreigiau sydd wedi ei enwi’n eilydd o fewnwr yn hytrach na Luca Woodyatt ar gyfer yr ornest hon. Os y caiff Pritchard ei alw i’r maes – dyma fydd ei ymddangosiad cyntaf i’w wlad ar y lefel yma.
Dywedodd Prif Hyfforddwr Tîm D20 Cymru, Richard Whiffin: “Mae’r Bencampwriaeth yma’n arbennig o galed ac mae llawer iawn o’r bechgyn wedi ymarfer yn gampus. Dwi eisiau rhoi’r cyfle i ambell un wneud eu marc wrth ddechrau, neu wrth gamu o’r fainc er mwyn gweld beth allan nhw ei gynnig.”
Llwyddodd y Gwyddelod i guro Lloegr yng Nghaerfaddon eu gêm ddiwethaf ac mae eu record ddiweddar ym Mharc Virgin Media’n ardderchog. Ers iddyn nhw sefydlu Corc fel eu cartref ar gyfer eu gemau D20 yn 2019 mae Iwerddon wedi ennill 13 o’u 15 gêm yno. Dim ond Lloegr a Ffrainc sydd wedi dychwelyd adref oddi yno gyda buddugoliaethau. Profodd Iwerddon y ddwy golled honno yn ystod ymgyrch 2025.
Ychwanegodd Richard Whiffin: “Mae Iwerddon wastad yn dîm trefnus iawn. Mae eu chwarae gosod yn gryf iawn ac maen nhw’n dda am gadw’r meddiant am gyfnodau hir – sy’n creu tipyn o gyfleoedd iddyn nhw’n y pendraw. Felly bydd yn rhaid i ni fod ar ein gorau a chadw’r ffydd yn ein systemau a’n patrymau amddiffynnol.
“Mae gan y Gwyddelod hefyd lawer o gyflymdra ar gael iddyn nhw wrth ymosod ac wrth geisio atal ymosodiadau eu gwrthwynebwyr. Bydd ein gallu ni i symud y bêl yn gyflym drwy’r dwylo a hynny o dan bwysau yn bwysig iawn.
“Ry’n ni wedi perfformio’n dda yn ein tair gêm gyntaf o’r Bencampwriaeth – ac fe ddylai’r canlyniadau wedi bod ychydig yn fwy caredig wedi’r perfformiadau addawol hynny.
“Ry’n ni’n gryf ac yn agos fel grŵp, ac mae pawb o fewn y garfan yn gwybod bod mwy i ddod ganddon ni. Ry’n ni wedi bod yn siarad am y ffaith y bydd ceisio ennill y penwythnos yma ar dir Iwerddon yn her gwirioneddol – ond dyna’r her dwi wedi ei gosod i’r bois – ac ry’n ni’n gyffrous i weld sut y bydd y garfan yn ymateb i hynny.”
Cymru Dan 20 v Iwerddon Dan 20
Parc Virgin Media, Sadwrn 7 Mawrth, 7.45pm
1 George Tuckley (Dreigiau)
2 Tom Howe (Caerdydd)
3 Jac Pritchard (Scarlets)
4 Luke Evans (Caerwysg)
5 Osian Williams (Bryste)
6 Deian Gwynne (Caerloyw – cyd-gapten)
7 Caio James (Caerloyw)
8 Evan Minto (Dreigiau)
9 Siôn Davies (Caerdydd)
10 Lloyd Lucas (Caerdydd)
11 Tom Bowen (Caerdydd)
12 Steffan Emanuel (Caerdydd – cyd-gapten)
13 Osian Darwin-Lewis (Caerdydd)
14 Dylan Scott (Met Caerdydd)
15 Rhys Cummings (Caerdydd)
Eilyddion
16 Oscar Thomas (Caerfaddon)
17 George Leyland (Bryste)
18 Yestyn Cook (Scarlets)
19 Oscar Rees (Caerloyw)
20 Dom Kossuth (Scarlets)
21 Carter Pritchard (Dreigiau)
22 Carwyn Leggatt-Jones (Scarlets)
23 Bailey Cutts (Caerdydd)
