Wedi iddo anafu ei ysgwydd wrth sgorio cais yn erbyn Ariannin yng Nghyfres yr Hydref, bydd Jac Morgan yn dychwelyd i’r maes chwarae yn Treviso heddiw wrth i’r Gweilch geisio cadw’u gobeithion o gyrraedd yr wyth uchaf yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn fyw.
Ar hyn o bryd mae’r Gweilch yn y 10fed safle, ond er bod Capten Jac yn symud i Gaeloyw dros yr haf, bydd cefnogwyr y rhanbarth Cymreig yn gobeithio y gall Morgan helpu’r Gweilch i gyrraedd yr wyth uchaf cyn iddo groesi Pont Hafren.
Bydd gweld y Llew 26 oed yn ôl yn chwarae yn hwb i Steve Tandy hefyd wrth i Brif Hyfforddwr Cymru baratoi ar gyfer gemau oddi cartref Pencampwriaeth y Cenhedloedd ym mis Gorffennaf.
Yn naturiol, mae Prif Hyfforddwr y Gweilch, Mark Jones yn falch o allu galw ar wasanaeth ei flaen-asgellwr dylanwadol unwaith eto ar gyfer y daith bwysgig hon i’r Eidal heddiw (3pm): “Mae’r bois sydd wedi bod yn chwarae tra bod Jac wedi’i anafu wedi gwneud gwaith arbennig, ond mae bob amser yn wych gallu galw ar rywun o’i safon ef i gryfhau’r tîm ymhellach.
“Mae ei gael yn ymarfer gyda ni wedi dod â rhyw egni ychwanegodd sydd wedi bod yn wych.
“Mae Jac wastad wedi rhoi popeth dros yr achos yng nghrys y Gweilch ac felly byddai’n wych ei weld yn dod â’i gyfnod gyda ni i ben wrth gael diweddglo da i’n tymor.”
