Bydd Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2027 yn dechrau ddydd Gwener 5 Chwefror 2027 ac yn dod i ben gyda thair gêm gofiadwy ddydd Sadwrn 13 Mawrth.
Bydd Cymru’n dechrau eu hymgyrch gyda gêm oddi cartref yn erbyn Ffrainc ddydd Sadwrn 6 Chwefror, cyn teithio i wynebu’r Alban y penwythnos canlynol.
Bydd gêm gartref gyntaf Cymru’n y Bencampwriaeth yn nhrydedd rownd y cystadlu’n gweld y Gwyddelod yn teithio i Stadiwm Principality.
Gyda chalendr gemau rygbi rhyngwladol ledled y byd yn cael ei gysoni, mae’r Chwe Gwlad bellach yn gweld wythnos o saib o’r cystadlu yn ystod y Bencampwriaeth – wedi i bob gwlad chwarae tair gêm. Mae’r drefn honno’n caniatáu mwy o fomentwm rhwng y rowndiau unigol.
Wedi’r egwyl yn 2027 bydd Cymru’n croesawu Lloegr i Stadiwm Principality ym mhedwaredd rownd y cystadlu, cyn teithio i Rufain wythnos yn ddiweddarach i wynebu’r Eidal yn rownd olaf yr ymgyrch.
Trefn Gemau Cymru

Bydd cefnogwyr yn gallu dilyn Pencampwriaeth 2027 ar y BBC ac ITV, sy’n parhau i rannu’r darllediadau yn y Deyrnas Unedig. Bydd darllediadau Cymraeg ar gael drwy S4C yn ôl yr arfer.
Mae Calendr Rygbi Cymru ar gael yma. Gall cefnogwyr gydlynu eu calendrau personol gan wneud yn siwr na fyddant fyth yn colli gêm.
Rhestr lawn gemau Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2027

Gwybodaeth am docynnau
Bydd gwybodaeth am docynnau ar gael yn fuan. Fodd bynnag, gall cefnogwyr gofrestru eu diddordeb yma er mwyn bod ymhlith y cyntaf i glywed pan fydd tocynnau ar werth drwy glybiau Undeb Rygbi Cymru ac hefyd am fanylion y gwerthiant cyhoeddus cyffredinol.
Mae amrywiaeth o becynnau lletygarwch swyddogol Undeb Rygbi Cymru ar werth nawr ar gyfer gemau cartref Cymru. Gall cefnogwyr brynu’r pecynnau hynny yma.
Mae pecynnau teithio ar gael hefyd drwy bartneriaid teithio swyddogol cefnogwyr Undeb Rygbi Cymru sef Gullivers Sports Travel. Gall y cwmni gynnig amrywiaeth o drefniadau ar gyfer gemau oddi cartref Cymru. Dylai cefnogwyr sy’n dymuno sicrhau eu lle ar y teithiau hyn ymweld â gwefan cwmni Gullivers Sports.
