Mae Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol (EGM) Undeb Rygbi Cymru, a alwyd gan glybiau sy’n aelodau o’r Undeb fis diwethaf, wedi’i gadarnhau ar gyfer 6pm ddydd Llun 13 Ebrill.
Cynhelir y cyfarfod yn Stadiwm Principality, ac am y tro cyntaf o dan y fframwaith llywodraethiant newydd gyflwynwyd yn 2023, bydd modd mynychu’r Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol yn bersonol neu’n rhithiol er mwyn gwneud y cyfarfod yn fwy hygyrch ac agored i’r holl aelodau.
Mae modd o hyd hefyd i daro pleidlais trwy ddirpwry yn ôl yr arfer, gan gynnig y cyfle gorau posib i lais pob clwb, aelod a sefydliad gael ei glywed.
Cafodd yr hysbysiad i wneud cais am y Cyfarfod Eithriadol hwn ei lofnodi gan 50 o’r 284 o glybiau, rhanbarthau/ardaloedd a chymdeithasau sy’n aelodau o’r Undeb. Bydd tri chynnig yn mynd i bleidlais (Dyma grynodeb):
1)Etholiadau newydd ar gyfer 4 aelod Cyngor sydd ar Fwrdd yr Undeb o fewn 14 diwrnod.
2)Diwygio Erthyglau Cymdeithasu’r Cwmni fel y gall unrhyw 4 aelod o’r Cyngor fod ar y Bwrdd yn hytrach na dau Aelod Rhanbarth neu a dau aelod o’r Cyngor Cenedlaethol.
3)Pleidlais o ddiffyg hyder yn Richard Collier-Keywood, cadeirydd annibynnol presennol y Cwmni. (Rydym hefyd yn dehognli y bydd hyn yn berthnasol hefyd yng nghyd-destun ei rôl fel cyfarwyddwr). Ni fydd pleidlais o ddiffyg hyder yng Nghadeirydd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol yn cael ei hystyried gan bod ei gyfnod eisoes wedi dod i ben.
Mae Cynnig 2 uchod yn ‘Benderfyniad Arbennig’ fydd angen 75% o fwayfrif er mwyn newid Erthyglau Cymdeithasu Undeb Rygbi Cymru tra o bo cynigion 1 a 3 yn ‘Benderfyniadau Cyffredin’ fydd angen 50% o fwyafrif i’w pasio a’u cadarnhau.
Mae Bwrdd Undeb Rygbi Cymru’n argymell nad yw aelodau’r pleidleisio o blaid y Penderfyniad Arbennig na’r ddau Benderfyniad Cyffredin – ac mae nodiadau esboniadol wedi eu cynnwys i egluro rhesymeg yr argymhelliad hwnnw. Yma here
