Ar ddiwedd ei dymor fel Cadeirydd Annibynnol Undeb Rygbi Cymru ym mis Gorffennaf 2026 ni fydd Richard Collier-Keywood yn parhau yn ei rôl wedi hynny.
Bydd olynydd yn cael ei benodi drwy broses agored a thrylwyr.
Cyhoeddodd Richard Collier-Keywood heddiw na fydd yn sefyll am ail dymor fel Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, fydd yn golygu y bydd ei gyfnod a’i dymor o dair blynedd yn y swydd yn dod i ben ar 16 Gorffennaf 2026.
Dywedodd Richard Collier-Keywood: “Mae wedi bod yn fraint aruthrol gwasanaethu fel Cadeirydd Annibynnol cyntaf erioed Undeb Rygbi Cymru. Daw fy nhymor fel Cadeirydd i ben ym mis Gorffennaf 2026 ac rwyf eisoes wedi bod yn trafod camau nesaf y broses gyda’r Bwrdd.
“Roeddem am wneud y cyhoeddiad hwn er mwyn galluogi’r broses o ddod o hyd i fy olynydd i ddechrau cyn i’r Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol gael ei gynnal ar 13 Ebrill 2026, fel bod pawb yn mynd i’r cyfarfod hwnnw gan wybod yr holl fanylion perthnasol am y sefyllfa.
“Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r Bwrdd newydd wedi gwneud penderfyniadau anodd ac allweddol – gan wneud hynny gydag undod ac unfrydedd. Rwyf wedi ymrymo’n llwyr i gwblhau fy nhymor yn y swydd – ond mae hynny’n ddibynol ar y penderfyniadau caiff eu cymryd yn yn Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol wrth gwrs.
“Mae hi wedi bod yn fraint cael cydweithio gyda phobl o fewn a thu allan i’r Undeb ac mae’r angerdd amlwg sydd gan bawb tuag at rygbi Cymru wedi bod yn ffynhonnell o ysbrydoliaeth barhaus i mi. Rwy’n falch y byddaf yn gadael gyda dau brif hyfforddwr ein gwlad yn Gymry, sef Steve Tandy a Sean Lynn, ac rwy’n edrych ymlaen at wylio’r gemau fel gweddill cefnogwyr Cymru wrth i’n timau cenedlaethol fynd o nerth i nerth.”
Penodwyd Richard Collier-Keywood yn 2023, wedi i 97 y cant o’r clybiau sy’n aelodau o Undeb Rygbi Cymru bleidleisio o blaid strwythur y Bwrdd annibynnol newydd. Fe arweiniodd y penderfyniad hwnnw at raglen o ddiwygio llywodraethiant yr Undeb, sydd wedi cael ei monitro a’i chymeradwyo drwy gydol y cyfnod gan archwiliwr annibynnol Undeb Rygbi Cymru.
Dywedodd Alison Thorne, Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol ac aelod o Fwrdd Undeb Rygbi Cymru: “Ar ran y Bwrdd, hoffwn ddiolch i Richard am ei waith caled a’i ymroddiad anhygoel dros y tair blynedd ddiwethaf. Dylai gymryd balchder mawr o’r ffaith ei fod wedi arwain a phlethu bwrdd newydd o aelodau etholedig a chyfarwyddwyr anweithredol annibynnol, i greu strategaeth a chyfeiriad newydd ar gyfer dyfodol cynaliadwy i rygbi yng Nghymru.
“Etifeddodd Richard sefyllfa ariannol anodd iawn a sefydliad oedd â phroblemau diwylliannol mewnol. Mae wedi bod ar flaen y gad wrth newid y diwylliant hwnnw ac mae hefyd wedi gwella ein sefyllfa ariannol yn sylweddol. Wrth arwain y broses o ad-drefnu trefniadau ariannol yr Undeb ym mis Ionawr 2026 – mae wedi gosod seiliau ariannol cadarn ar gyfer sefydlogrwydd a thwf yn y dyfodol.
“Mae Richard wedi adeiladu Bwrdd gwirioneddol amrywiol sydd ag arbenigedd o bob agwedd o rygbi Cymru yn ogystal â dealltwriaeth gref o’r byd busnes a’r holl gymunedau y mae Undeb Rygbi Cymru yn eu cynrychioli a’u gwasanaethu.”
