Ddydd Sul yng Nghasnewydd, bydd yr asgellwr amryddawn Tom Bowen yn cynrychioli tîm D20 am y tro diwethaf.
Wedi iddo sgorio dau gais yn erbyn Iwerddon y penwythnos diwethaf, bydd Bowen yn gobeithio dod â’i yrfa ryngwladol o dan 20 i ben ar nodyn uchel yn Rodney Parade wrth guro’r Eidal.
Ar ôl colli 48–33 yn erbyn y Gwyddelod mewn gêm welodd 12 cais yn cael eu sgorio, mae’r asgellwr o Gaerdydd yn edrych ymlaen at ddychwelyd i Rodney Parade, gan i Gymru guro Iwerddon yno’r tymor diwethaf.
Dywedodd Tom Bowen: “Mae ganddon ni atgofion melys o chwarae yng Nghasnewydd y llynedd. Gan mai hwn fydd y tro olaf i lawer ohonon ni chwarae ym Mhencampwriaeth o dan 20 y Chwe Gwlad, gobeithio y gallwn ni ei wneud yn achlysur i’w gofio.
“Ry’n ni’n falch iawn o’n hymdrech y penwythnos diwethaf, ond er ein bod wedi perfformio’n dda trwy gydol y Bencampwriaeth eleni dy’n ni heb gael y canlyniadau ry’n ni wedi eu haeddu ar y cyfan.
“Fe adlamodd y bêl yn garedig i’r Gwyddelod ar fwy nac un achlysur yr wythnos ddiwethaf ac fe allai’r canlyniad fod wedi bod yn wahanol iawn – er eu record gartref wych nhw dros y blynyddoedd diwethaf.
“Wrth edrych ymlaen at herio’r Eidal, mae’n rhaid i ni wella’n chwarae yn ardal y dacl ac mae’n rhaid i ni gyfaddef nad oedden ni ar ei gorau yn yr agwedd honno o’r gêm.”
Cafodd rheng ôl Iwerddon noson arbennig ym Mharc Virgin Media gan iddyn nhw gipio’r meddiant gan y Cymry yno 14 o weithiau yn ystod y noson. Fe newidiodd rhyng-gipiad Dan Ryan, yng nghysgod pyst ei hun, fomentwm yr ornest ar eiliad allweddol hefyd yn ôl y Prif Hyfforddwr Richard Whiffin:
“Pe bydden ni wedi sgorio yn hytrach na gweld Dan yn rhedeg 80 metr i sgorio ym mhen arall y maes – fe allai pethau fod wedi bod yn hynod o wahanol.
“Fe ddechreuon ni’r gêm yn arbennig o dda, fel ry’n ni wedi gwneud drwy gydol y Bencampwriaeth. Fe reolon ni’r ail hanner yn dda iawn hefyd tan yr eiliad allweddol pan gipio’n nhw’r bêl a sgorio ym mhen arall y maes.
“Roedd hynny’n siomedig iawn gan ein bod wedi gweithio mor galed i gynnig gwir her i’r Gwyddelod.
“Fe wnaethon ni ganiatáu iddyn nhw sgorio’n rhy hawdd ac roedd angen mwy o gywirdeb yn ein chwarae. Gwersi amlwg i’w dysgu cyn wynebu’r Eidal y penwythnos yma.
“Ry’n ni i gyd yn gyffrous i fynd yn ôl i Rodney Parade a byddai’n braf gweld torf sylweddol yno unwaith eto i’n cefnogi ar Sul y Mamau!
“Mae’r Eidal wedi bod yn weddol gryf ar y lefel dan 20 yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae nhw’n dîm arbennig o gorfforol ar hyn o bryd. Bydd angen i ni gryfhau’n hamddiffyn a pherfformio’n dda unwaith eto er mwyn cael cyfle i ennill y gêm.”
