Er ei fod wedi derbyn nifer o gyfleoedd a chynigion eraill i adael Caerdydd, mae chwaraewr rheng ôl rhyngwladol Cymru James Botham wedi ymestyn ei gytundeb gyda chlwb y Brifddinas.
Daw’r cyhoeddiad yn hwb pellach a buan i glwb Parc yr Arfau wedi i Alex Mann benderfynu ymrwymo ei hun i Rygbi Caerdydd hefyd.
Arwyddodd James Botham, sydd bellach yn 28 oed, ei gytundeb proffesiynol cyntaf gyda Chaerdydd ym mis Mawrth 2019.
Cafodd ei eni yng Nghaerdydd pan oedd ei dad, Liam, yn chwarae i’r clwb. Fe gynrychiolodd James Botham dîm D18 Cymru pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Sedbergh, yng Ngogledd Lloegr ac aeth ymlaen wedi hynny i chwarae dros dimau D20 a saith bob ochr Cymru wedi iddo ymuno ag academi Caerdydd yn 2016.
Fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros brif dîm Caerdydd pan gamodd o’r fainc yng nghystadleeth y Cwpan Eingl-Gymreig yn erbyn y Gweilch ar 18 Tachwedd 2016, ac erbyn hyn mae wedi cynrychioli Caerdydd 78 o weithiau.
Dywedodd James Botham: “Dwi’n falch iawn fy mod am aros yng Nghaerdydd. Dyma fy nghartref ac mae hi bob amser yn fraint enfawr gwisgo’r crys Glas a Du, yn enwedig o flaen ein cefnogwyr ein hunain ym Mharc yr Arfau.
“Ry’n ni wedi cael tymor da hyd yn hyn, ac mae llawer i chwarae amdano o hyd y tymor hwn. Mae’r grŵp yma o chwaraewyr yn bendant yn symud i’r cyfeiriad cywir – ac mae llawer mwy i ddod gennym ni gyd fel chwaraewyr a hyfforddwyr yn y dyfodol agos.
“Mae yna dalent enfawr o fewn y garfan, sy’n creu awyrgych hynod gystadleuol – all ond fod yn beth da.
“Ar lefel bersonol, dwi’n hapus iawn fy mod wedi cael cyfnod heb anafiadau o’r diwedd. Mae hynny wedi fy ngalluogi i ddangos beth dwi’n gallu ei wneud i Gaerdydd ac i Gymru.”
Mae Prif Hyfforddwr Caerdydd Corniel van Zyl yn hapus iawn hefyd fod Botham, sydd bellach wedi ennill 21 o gapiau rhyngwladol, yn aros ar Barc yr Arfau:
“Mae’n wych cadw ‘Jim’ gyda ni yma yng Nghaerdydd. Fe wnaeth argraff fawr ar bawb yn ystod y Chwe Gwlad, gyda’i berfformiadau ac rwy’n credu i’r seiliau a’r partymau ry’n ni wedi eu gosod yma yng Nghaerdydd ei helpu gyda hynny.
“Mae’n athletwr eithriadol ac mae bob amser yn mwynhau’r brwydrau corfforol. Mae ganddo galon a ffitwydd eithriadol, mae ei sgiliau’n amlwg hefyd ac felly ‘dyw hi’n fawr o syndod ei fod yn effeithiol wrth chwarae.
“Mae’n bresenoldeb pwysig a chadarnhaol iawn o fewn ein clwb ac mae pawb yma ar Barc yr Arfau’n hynod falch ei fod am aros gyda ni.”
