Gall Undeb Rygbi Cymru gadarnhau bod cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, Ashley Beck, wedi’i benodi’n hyfforddwr ymosod dros dro ar gyfer ymgyrch Menywod Cymru’n y Chwe Gwlad eleni.
Bydd Beck, enillodd saith o gapiau dros ei wlad, yn ymuno â thîm hyfforddi Sean Lynn ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness y Menywod 2026.
Mae cyn-ganolwr Cymru wedi bod yn Brif Hyfforddwr ar Brython Thunder yn yr Her Geltaidd ers tri thymor bellach.
Cyn hynny, bu Beck yn hyfforddwr ymosod tîm menywod Caerwrangon, cyn i’r clwb ddod i ben ym mis Tachwedd 2023.
Yno bu’n gweithio am gyfnod gyda chyn-hyfforddwr y Wallaroos, Jo Yapp.
Penodwyd Ashley Beck yn Brif Hyfforddwr Brython Thunder yn 2023 ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi cyd-weithio gyda chwaraewyr rhyngwladol megis Alex Callender, Kate Williams, Natalia John, Gwen Crabb, Lisa Neumann, Hannah Bluck, Seren Lockwood a Branwen Metcalfe.
Dywedodd Ashley Beck, Hyfforddwr Ymosod dros dro Cymru: “Chwarae dros Gymru yw’r anrhydedd fwyaf y gallwch ei gael fel chwaraewr, ac mae’r un peth yn wir fel hyfforddwr hefyd.
“Mae cael fy ngwahodd gan Sean i ymuno â’r garfan ar gyfer y Chwe Gwlad yn fraint enfawr i mi, a dwi’n hynod gyffrous am yr her o hyfforddi ar y lefel rhyngwladol.
“Ar ôl gweithio gyda nifer o’r chwaraewyr yn yr Her Geltaidd dros y blynyddoedd diwethaf, dwi’n gwybod faint o dalent sydd ganddo ni yma yng Nghymru. Yr her nesaf i’r chwaraewyr hynny yw credu yn eu gallu eu hunain eu bod nhw’n gallu cystadlu ar y lefel hon.”
Dywedodd Sean Lynn, Prif Hyfforddwr Cymru: “Mae gan Ash gefndir cryf yng nghamp y menywod, ac mae’r chwaraewyr yn gallu uniaethu gydag ef. Dwi’n gwybod yn iawn bod Alex Callender er enghraifft â meddwl mawr ohono fel hyfforddwr.
“Dwi wedi magu perthynas dda gydag ef fy hun wrth drafod datblygiad chwaraewyr ifanc ac addawol Brython Thunder, ac mae ei ddulliau hyfforddi a’i syniadau am y gêm wedi creu argraff arna’i.
“Mae Ash yn llawn syniadau newydd am sut i ymosod, ac dwi’n edrych ymlaen yn fawr at weld beth y gall ei gyfrannu at ein tîm hyfforddi a’r garfan.”
Dywedodd Dave Reddin, Cyfarwyddwr Rygbi a Pherfformiad Elît Undeb Rygbi Cymru: “Mae Ashley Beck yn hyfforddwr ifanc cyffrous ac mae ganddo brofiad hynod werthfawr yng ngêm y menywod. Ry’n ni’n falch iawn ei fod wedi cytuno i ofalu am yr ymosod ar gyfer ein hymgyrch yn y Chwe Gwlad.
“Mae’r gwaith y mae wedi’i wneud gyda thîm ifanc Brython Thunder, sy’n llawn chwaraewyr ifanc Cymreig, yn dangos bod buddsoddiad Undeb Rygbi Cymru yng nghamp y menywod yn dechrau dwyn ffrwyth.”
Gall Undeb Rygbi Cymru hefyd gadarnhau bod Shaun Connor, hyfforddwr ymosod Cymru, wedi penderfynu symud ymlaen at bennod nesaf ei yrfa. Hoffai’r Undeb ddiolch i Shaun am ei waith gyda charfan y menywod dros y blynyddoedd diwethaf gan ddymuno pob llwyddiant iddo’n y dyfodol.
