News

Amddiffyn dewr yn sicrhau buddugoliaeth D19 i Gymru'n erbyn y Gwyddelod

The Wales U19 team at the end of the match
Carfan hapus D19 Cymru

Roedd yn rhaid i dîm D19 Cymru wrthsefyll ymosodiad cyson hwyr Iwerddon i sicrhau buddugoliaeth o 24-20 mewn gwynt cryf ar Barc yr Arfau.

Roedd y ddau dîm yn gwbl gyfartal ar 17-17 ar yr egwyl, ond wedi i faswr yr ymwelwyr Owen O’Kane lwyddo gyda chic gosb gynnar yn yr ail hanner, aeth Iwerddon ar y blaen.

Wedi hynny, er bod y ddau dîm yn ei chael hi’n anodd yn yr amodau heriol, fe darodd y Cymry’n ôl yn ddewr wrth i’r asgellwr Noah Morgan ddawnsio ei ffordd i’r gornel hanner ffordd drwy’r ail hanner.

Llwyddodd yr eilydd o faswr Steff Jac Jones gyda throsiad ardderchog i roi mantais o bedwar pwynt i Gymru.

Fe wnaeth y tîm cartref ddefnydd da o’r gwynt yn ystod chwarter olaf yr ornest gan orfodi Iwerddon i wrth-ymosod o’u hanner eu hunain. Er eu holl ymdrechion ac o ganlyniad i amddiffyn trefnus a di-gyfaddawd y Cymry, sicrhawyd y fuddugoliaeth i’r crysau duon cartref.

Yn gynharach yn y gêm, croesodd Rhys Cole a Bailey Cutts am geisiau hanner cyntaf i Gymru, gyda’r maswr Lloyd Lucas yn ychwanegu trosiad a chic gosb. Atebodd Iwerddon gyda cheisiau’r asgellwyr Daniel O’Connell a Ronan Kelly cyn i Fergus Callington dirio hefyd. Ychwanegodd O’Kane drosiad i’w gwneud hi’n gyfartal wrth droi.

Roedd Prif Hyfforddwr Cymru, Richard Whiffin, yn arbennig o falch o’r fuddugoliaeth gan mai dim ond ers wythnos roedd ei dîm wedi bod yn ymarfer gyda’i gilydd, tra bo’r Gwyddelod wedi bod yn ymarfer fel uned ers dechrau’r tymor:

“Roedd ymdrech a safon chwarae’r bois yn arbennig ac maen nhw’n haeddu canmoliaeth arbennig am hynny. Fe weithion nhw’n ddi-flino dros ei gilydd ac fe sgorion ni rai ceisiau hyfryd hefyd wrth ledu’r bêl.

“Roedd agwedd a safon amddiffyn y bechgyn yn ystod y chwarter awr yn wirioneddol gampus a dyna pam enillon ni yn y pendraw.”

Related Topics