Mae Richard Whiffin, Prif Hyfforddwr tîm D20 Cymru eisiau i’w chwaraewyr sianelu’r siom o golli’n hwyr yn y glaw yn erbyn Lloegr yr wythnos ddiwethaf, i mewn i berfformiad egnïol a threfnus yn erbyn Ffrainc ar Barc yr Arfau am 8pm nos Sadwrn, yn ail rownd gemau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Wedi iddyn nhw fod ar ei hôl hi o 16 o bwyntiau ar yr egwyl yn Northampton, llwyddodd Lloegr i lusgo eu hunain yn ôl i mewn i’r gêm, cyn cipio’r fuddugoliaeth o 19-16 yn ystod y pum munud diwethaf.
Bydd Ffrainc yn cynnig her sylweddol arall i’r Cymry ifanc heno, gan mai nhw yw Pencampwyr presennol y gystadleuaeth a gan iddyn nhw hefyd guro Iwerddon o 50-21 yn eu gêm gyntaf o’u hymgyrch i amddiffyn eu coron.
Serch hynny, mae Richard Whiffin yn credu y gall y fantais o chwarae gartref o flaen torf angerddol a hynny ar faes fydd ddim yn ymdebygu i Gantre’r Gwaelod, fod yn ffactor bwysig wrth herio’r Ffrancwyr:
“Bydd y gêm yma’n erbyn Ffrainc yn sicr o fod yn gyffrous, a bydd y ffaith ein bod yn gwybod y bydd y maes mewn cyflwr da, yn caniatáu i ni chwarae ychydig mwy o rygbi.
“Fe wnaethon ni lawer o bethau da iawn yn erbyn Lloegr ac ro’n i’n wirioneddol falch o ymdrechion y bechgyn – ond mae’n drueni am y canlyniad.
“Fe wnaethon nhw weithredu’n cynllun chwarae yn wych yn yr hanner cyntaf ond roedd angen i ni gael ychydig mwy o reolaeth ar y chwarae wedi troi. Yn anffodus wnaethon ni ddim llwyddo i wneud hynny a sicrhau’r fuddugoliaeth oedd o fewn ein gafael.
“Mae’n rhaid rhoi clod i Loegr, fe roddodd eu cicio tactegol ni dan bwysau cyson, olygodd ein bod yn chwarae’r ail hanner yn ein tir ni’n rhy aml.
“Byddai un eiliad neu ddigwyddiad cadarnhaol arall wedi’n harwain at fuddugoliaeth. Roedd bylchiad Isaac Godfrey ac yna ymdrech Osian Darwin-Lewis bron â gwneud hynny – ond nid ein noson ni oedd hi fod yn y pendraw.”
Wedi iddo sgorio’n erbyn Lloegr y llynedd ym muddugoliaeth Cymru o 23-13, amddifadodd y Saeson o’r Gamp Lawn bryd hynny, fe sgoriodd y cyd-gapten Steff Emanuel unwaith eto’n Northampton yr wythnos ddiwethaf. Cicio cywir y maswr Carwyn Leggatt-Jones fu’n gyfrifol am weddill pwyntiau Cymru ar Erddi Franklin.
Ychwanegodd Richard Whiffin: “O ystyried holl ymdrechion y bechgyn, rwy’n teimlo’n fawr drosdyn nhw, gan eu bod yn haeddu ychydig mwy na gaethon nhw o’r gêm nos Wener ddiwethaf.
“Roedden ni’n ddewr ac yn effeithiol yn ystod yr hanner cyntaf ac fe allen ni fod wedi bod ymhellach ar y blaen ar yr egwyl i fod yn onest.
“O ystyried gymaint oedd ein rheolaeth o’r ornest yn y deugain munud cyntaf, doedd dod adref gyda phwynt bonws yn unig yn fawr o gysur. Fe aethon ni i Northampton i ennill a wnaethon ni ddim gwneud hynny.
“Alla’i ddim beirniadu agwedd dim un o’r bechgyn, boed ganddyn nhw 15 cap neu’n gwneud eu hymddangosiad cyntaf.
“Mae’n rhaid i ni lyfu ein clwyfau a gwneud popeth y gallwn ni i berfformio ar ein gorau yn erbyn Ffrainc.”
