Mae Richard Whiffin wedi cyhoeddi tîm o Dan 20 Cymru i wynebu Lloegr yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Bydd yr ornest rhwng y ddwy wlad yn cael ei chynnal yng Ngerddi Franklin, Northampton, nos Wener yma gyda’r gic gyntaf am 7.45pm.
Mae pymtheg cychwynnol y Cymry ifanc yn cynnwys naw chwaraewr sydd eisoes wedi cynrychioli eu gwlad ar y lefel Dan 20, gyda dau arall ar y fainc, sef Tom Cottle o Gaerdydd ac Evan Minto o’r Dreigiau.
Y blaen-asgellwr Deian Gwynne a’r canolwr Steffan Emanuel fydd y capteiniaid ar y cyd ar gyfer y Bencampwriaeth.
Mae Whiffin wedi dewis 6 o flaenwyr a 2 olwr ar y fainc, ac mae’r Prif Hyfforddwr wedi cyfaddef y bu’n rhaid iddo wneud rhai penderfyniadau anodd ar gyfer y gêm gyntaf hon o’r ymgyrch.
“Roedd y broses o ddewis y tîm ar gyfer yr ornest agoriadol hon yn hynod o anodd. Fe dreulion ni gryn dipyn o amser fel tîm hyfforddi yn trafod manteision ac anfanteision y garfan ry’n ni wedi’i dewis ar gyfer nos Wener.
“Ry’n ni’n hyderus ein bod wedi dewis 23 o chwaraewyr fydd yn ein galluogi i greu perfformiad 80 munud, a bydd angen hynny’n bendant yn erbyn Lloegr.
“Wrth ddewis chwech o flaenwyr ar y fainc ry’n ni’n ceisio gwneud yn siwr y bydd gennym wir opsiynau all ddylanwadu’n gadarnhaol ar y gêm yn hwyrach ymlaen.”
Mae Whiffin yn gobeithio y bydd y ffaith bod gan gymaint o aelodau o’i garfan brofiad o chwarae’n y Bencampwriaeth yn barod yn werthfawr eleni, gan hefyd gynnig cysur a sicrwydd i’w wynebau newydd.
“Mae’r gystadleuaeth yma’n heriol ac anodd, ac mae’n gam sylweddol i’r bechgyn llai profiadol.
“Bydd y dorf, y sŵn a safon y chwarae yn rhywbeth anghyfarwydd iddyn nhw – ond bydd profiad yr 11 sydd wedi bod yma o’r blaen, yn help a chysur mawr iddyn nhw.
“Mae gennym reng ôl hynod o gryf, tri ôl cyffrous iawn a gwir safon a dawn ym mhob safle i ddweud y gwir. Wrth ystyried hynny, mae dewis y tîm wastad yn anodd – ond mae’r ffaith bod gennym wir ddyfnder yn y garfan yn golygu mai dyna’r math o sgyrsiau yr ydym eu heisiau fel tîm hyfforddi.”
Wedi i Gymru atal Lloegr rhag ennill y Gamp Lawn yng Nghaerdydd y tymor diwethaf, bydd y Saeson yn awyddus i dalu’r pwyth am hynny. Serch hynny mae Richard Whiffin yn hyderus y bydd ei dîm yn barod am yr her yn Northampton nos Wener:
“Mae Lloegr yn dîm mawr a chorfforol ac mae ganddyn nhw rai chwaraewyr dylanwadol sy’n dychwelyd o chwarae’n yr Uwch Gynghrair. Mae rhai o’n bechgyn ni hefyd yn chwarae ar y lefel honno dros y bont ac mae’n rhaid i ni gymryd hyder o hynny.
“Ry’n ni’n disgwyl gêm gicio dactegol a bwriadol gan Loegr ac felly mae’n rhaid i ni ymdopi’n effeithiol gyda hynny. Mae un peth yn sicr, mae’n bechgyn ni yn barod am yr her ac yn edrych ymlaen ati.”
Cymru Dan 20 v Lloegr Dan 20, Gerddi Franklin, Northampton
Dydd Gwener 6 Chwefror, 19:45
1. George Tuckley (Dreigiau)
2. Tom Howe (Rygbi Caerdydd)
3. Jac Pritchard (Scarlets)
4. Luke Evans (Caerwysg)
5. Osian J Williams (Bryste)
6. Osian Williams (Scarlets)
7. Caio James (Caerloyw)
8. Deian Gwynne (Caerloyw – Cyd-gapten)
9. Siôn Davies (Rygbi Caerdydd)
10. Carwyn Leggatt-Jones (Scarlets)
11. Tom Bowen (Rygbi Caerdydd)
12. Steffan Emanuel (Rygbi Caerdydd – Cyd-gapten)
13. Osian Darwin-Lewis (Rygbi Caerdydd)
14. Rhys Cummings (Rygbi Caerdydd)
15. Jack Woods (Caerfaddon)
Eilyddion:
16. Oscar Thomas (Caerfaddon)
17. Dylan James (Gweilch)
18. Isaac Godfrey (Caerwysg)
19. Tom Cottle (Rygbi Caerdydd)
20. Evan Minto (Dreigiau)
21. Dom Kossuth (Scarlets)
22. Luca Woodyatt (Caerloyw)
23. Lloyd Lucas (Rygbi Caerdydd)
