News

Prynhawn poenus i Gymru yn Twickenham

Prynhawn anodd i Dewi Lake a'i gyd-chwaraewyr

Yn ei gêm gyntaf wrth y llyw ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, colli fu hanes Steve Tandy a’i dîm yn Stadiwm Allianz, Twickenham o 48-7 y prynhawn yma wedi i Loegr lwyr reoli’r hanner cyntaf.

Roedd y bwlch rhwng y ddwy wlad yn y 5 gêm ddiwethaf yn y Bencampwriaeth ar dir Lloegr yn ddau, pedwar, tri a chwephwynt – ond yn anffodus i’r Crysau Cochion fe enillodd y Saeson o 41 pwynt heddiw gan sgorio saith cais yn y broses.

Ildio ciciau cosb cynnar fu’n bennaf gyfrifol am ganiatáu i Loegr osod y sylfeini ar gyfer eu 12fed buddugoliaeth o’r bron ar y llwyfan rhyngwladol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Fe agorodd y tîm cartref eu cyfrif am y prynhawn wedi dim ond 2 funud o chwarae wrth i George Ford hollti’r pyst yn gyfforddus gyda chic gosb syml.

Wedi i Gymru gael eu cosbi deirgwaith am wahanol droseddau o fewn cyfnod o 3 munud wedi hynny, roedd blaenwyr Lloegr yn synhwyro bod cais cynta’r prynhawn o fewn cyrraedd – a Henry Arundell hawliodd y cyntaf o’i dri chais yn yr hanner agoriadol, wedi gwaith caib a rhaw ei wyth blaen.

Gan i Ford drosi’n gywir roedd Cymru ar ei hôl hi o 10 pwynt.

Aeth copa’r mynydd ymhellach o gyrraedd y Cymry wedi chwarter awr o chwarae gan i Nicky Smith dderbyn cerdyn melyn am 8fed trosedd y Crysau Cochion o’r gêm a munud yn ddiweddarach fe ymunodd ei gapten Dewi Lake gydag ef yn y cell cosb am ildio 9fed cic gosb ei dîm.

Tra bo Cymru i lawr i dri dyn ar ddeg – fe lwyddodd Lloegr i sgorio 12 pwynt – o ganlyniad i ail gais Arundell, sgôr Ben Earl a throsiad Ford – ac roedd y Saeson wedi sicrhau’r fuddugoliaeth i bob pwrpas o fewn y 25 munud cyntaf.

Bum munud cyn yr egwyl, fe gafodd y Cymry gyfle prin i ymosod – ond wedi i bas Ben Thomas fynd i’r tir yng nghanol y cae – roedd Arundell yno’n y pendraw i fanteiso ar y briwsion i groesi’n orfoleddus am y trydydd tro, gan gynnig tasg hawdd i Ford gicio ei 9fed pwynt o’r deugain munud agoriadol.

Hanner cyntaf arbennig i Loegr a phwynt bonws yn eu meddiant yn annisgwyl o gynnar.

Hanner Amser: Lloegr 29 Cymru 0

Doedd Cymru heb fod ar ei hôl hi o 29-0 ar yr egwyl ers yr ornest yn erbyn Ffrainc ym 1999 a dim ond bedwar munud wedi troi fe ychwanegodd y tîm cartref at eu cyfrif pan sgoriodd Tom Roebuck y cyntaf o dri chais ail hanner ei wlad.

Wedi hanner can munud fe ddaeth capten y Llewod ac arweinydd arferol Lloegr, Maro Itoje i’r maes. Ei weithred gyntaf oedd ildio cic gosb, a gan bod Lloegr wedi eu rhybuddio am droseddu cyson cyn hynny, bu’n rhaid iddo droi ar ei sawdl a dychwelyd i’r fainc am 10 munud.

Cyn i Itoje gyrraedd ei sedd hyd yn oed roedd Dan Edwards wedi gosod ei gic letraws yn berffaith i gôl Josh Adams ac roedd y Cymry wedi croesi. Ychwanegodd Edwards ei hun y trosiad o’r ystlys.

Gyda chwarter awr yn weddill fe ail-adroddwyd hanes pan ddangoswyd dau gerdyn melyn i chwaraewyr Cymru o fewn dau funud i’w gilydd.

Yn gyntaf penderfynodd Pierre Brousset bod Ben Thomas wedi rhwygo’r bêl yn anghyfreithlon ac yna fe ddanfonodd Taine Plumtree i’r cell callio am dacl uchel ar yr eilydd Henry Pollock wrth iddo groesi’r llinell gais. Cais cosb oedd y penderfyniad ac roedd Cymru i lawr i dri dyn ar ddeg am yr eildro.

Fe ddangosodd y Saeson eu dannedd unwaith eto cyn y chwiban olaf wrth i Tommy Freeman groesi am 7fed cais y Saeson er mwyn coroni prynhawn cofiadwy i Loegr.

Wrth deithio’n ôl dros Bont Hafren bydd gan Steve Tandy a’r garfan 8 niwrnod i baratoi cyn ymweliad Ffrainc â Stadiwm Principality – wedi i’r Ffrancod guro Iwerddon o 36-14 yn y Stade de France nos Iau.

Canlyniad: Lloegr 48 Cymru 7

Josh Adams yn croesi am gais Cymru

Wedi i’r gêm ddod i ben, dywedodd sgoriwr cais Cymru Josh Adams: “Ry’n ni’n siomedig iawn oherwydd doedden ni ddim yn ddigon da gyda’r bêl heddiw ac roedd Lloegr yn well na ni, yn enwedig yn ardal y dacl.

“Fel mae Lloegr yn chwarae ar hyn o bryd, mae’n mynd i fod yn anodd chwarae’n eu herbyn gyda 15 dyn – ac wedi i ni weld y cerdiau melyn roedd hi’n galed iawn i ni aros yn y gêm.

“Mae chwarae i Gymru’n golygu lot fawr i fi ac mae dod fan hyn a cholli’n anodd i fi – ond ry’n ni nôl adre’r wythnos nesaf – ac mae’n rhaid i ni wella’n perfformiad bryd hynny.”

Ychwanegodd Capten Cymru, Dewi Lake: “Ni wedi gadael ein hunain i lawr heddiw a phawb adre hefyd. Fe wnaethon ni siarad am ein disgyblaeth yn ystod yr wythnos a doedd e ddim yn ddigon da heddiw, yn enwedig yn ystod yr ugain munud cyntaf.”

Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Steve Tandy: “Roedd yr hanner cyntaf yn rhwystredig iawn ac wrth fynd lawr i 13 dyn oddi cartref yn Lloegr – mae’n mynd i fod yn anodd iawn.

“Mae’n rhaid i ni dderbyn nad ydyn ni’n cau’r bwlch ar brif dimau’r byd mor gyflym â beth fydden ni’n ei hoffi – ond mae’n rhaid i ni weithio’n galed ar wella’r pethau sydd o fewn ein gallu er mwyn i’r gwelliant hwnnw ddigwydd.”

Related Topics