News

Murchie i ymuno â Chymru’n hyfforddwr amddiffyn

Pete Murchie

Bydd Pete Murchie yn ymuno’n llawn amser gyda thîm hyfforddi Steve Tandy fel hyfforddwr amddiffyn y garfan genedlaethol.

Ar hyn o bryd mae Murchie’n gofalu am amddiffyn y Kobelco Kobe Steelers, a bydd yn dechrau ei waith gyda Chymru unwaith i dymor Adran Gyntaf Japan ddod i ben. Bydd hynny’n ei alluogi i ddechrau ei ddyletswyddau yng Nghymru cyn gemau Pencampwriaeth newydd y Cenhedloedd.

Bu Murchie’n chwaraewr proffesiynol gyda Glasgow ac fe gynrychiolodd Yr Alban ar y llwyfan rhyngwladol hefyd. Fe ddechreuodd ei daith fel hyfforddwr yn 2017 yn academi cenedlaethol Yr Alban a bu’n aelod o dîm hyfforddi D20 yr Albanwyr yn ystod y cyfnod hwnnw hefyd.

Cyn ymuno â’r Kobelco Kobe Steelers, bu’n gweithio fel hyfforddwr sgiliau ac yna fel hyfforddwr amddiffyn Glasgow am gyfanswm o bum mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, llwyddodd y tîm i ennill y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn 2024.

Bu Pete Murchie’n gyfrifol am amddiffyn tîm cenedlaethol Yr Alban ar eu taith haf i Georgia a Rwmania yn 2021 ac ef oedd prif hyfforddwr tîm ‘A’ yr Albanwyr yn erbyn Chile ym mis Tachwedd 2024.

Dywedodd Steve Tandy: “Mae’n wych gallu croesawu Pete i’n tîm hyfforddi. Mae’n alluog iawn o safbwynt arddull chwarae a’r cyflwr meddyliol sydd ei angen ar chwaraewyr. Bydd yn gaffaeliad mawr i ni fel carfan ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ei gael gyda ni dros yr haf. Bydd yn bendant yn help mawr wrth i ni lywio datblygiad ein carfan wrth baratoi ar gyfer Cyfres y Cenhedloedd.”

Wrth sôn am ei benodiad, dywedodd Pete Murchie: “Rwyf wedi mwynhau’r profiad o fyw a hyfforddi yn Kobe’n fawr iawn gan fy mod wedi cael y cyfle i weithio gyda chwaraewyr a hyfforddwyr o’r radd flaenaf.

“Mae derbyn y cyfle yma gyda Chymru – gyda chymaint o gemau a chystadlaethau cyffrous sy’n tynnu dŵr i’r dannedd ar y gorwel, yn gyffrous iawn i fi a fy nheulu.

“Roedd y ffaith mai Steve sydd wrth y llyw yn ffactor bwysig iawn yn fy mhenderfyniad. Mae’n hyfforddwr sy’n haeddu ei le ar lwyfan y byd ac ry’n ni wedi gweithio gyda’n gilydd o’r blaen. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymuno gyda’r garfan a bwrw at y gwaith dros fisoedd yr haf.”

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Perfformiad Elît Undeb Rygbi Cymru, Dave Reddin: “Rydym yn arbennig o hapus ein bod yn gallu ychwanegu Pete yn aelod llawn amser arall at ein tîm hyfforddi. Bydd yn cydweithio’n agos gyda Steve, Matt a Danny a bydd yn deall athroniaeth amddiffyn Steve i’r dim. Rwy’n hyderus iawn y caiff ddylanwad cadarnhaol a chyflym ar y garfan wrth i ni adeiladu tuag at Gwpan y Byd yn 2027.”

Related Topics