Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Sean Lynn, wedi enwi carfan estynedig o 45 o chwaraewyr ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2026.
Bydd y garfan yn dod at ei gilydd i ymarfer am ddeuddydd yng Nghanolfan Ragoriaeth Genedlaethol Undeb Rygbi Cymru ddiwedd mis Chwefror.
Mae’r garfan yn cynnwys tri chwaraewr sydd eto i ennill cap, sy’n gymwys i chwarae i Gymru – ond sydd wedi’u lleoli yn Lloegr, sef Kendall Waudby (bachwr/rheng ôl), Meg Davey (mewnwr) a Nikita Prothero (asgellwr/cefnwr).
Ymhlith y chwaraewyr sydd heb gap eto, sy’n chwarae eu rygbi yng Nghymru, mae’r propiau Stella Orrin ac Elan Jones, y canolwyr Kelsie Webster, Savannah Picton-Powell a Jenna De Vera, yr asgellwr Seren Singleton a’r chwaraewyr rheng ôl Jorja Aiono ac Anwen Owen.
Mae 24 o’r chwaraewyr sydd wedi eu dewis, wedi cynrychioli Brython Thunder neu Gwalia Lightning yn yr Her Geltaidd y tymor hwn.
Dywedodd Sean Lynn, Prif Hyfforddwr Cymru: “Dyma’r 44 o chwaraewyr sydd wedi creu’r argraff fwyaf arnaf wrth iddyn nhw gynrychioli eu gwahanol glybiau yn yr Her Geltaidd ac Uwch Gynghrair Lloegr. Roedd perfformiadau a chanlyniadau’r profion ffitrwydd wnaethon ni yn ein gwersyll fis diwethaf hefyd wedi eu hystyried.
“Bwriad y gwersyll ymarfer hwnnw oedd cynnig y cyfle i 55 o chwaraewyr profiadol y garfan genedlaethol, merched o dan 21 Cymru, chwaraewyr oedd wedi creu argraff yn yr Her Geltaidd ac ambell unigolyn addawol arall i gydweithio gyda’n tîm hyfforddi a’n staff a dod i ddeall ein gilydd yn well.
“Bydd y gwersyll hwn ddiwedd y mis yn canolbwyntio’n bendant ar yr elfennau rygbi, ac mae’r holl chwaraewyr sydd wedi eu dewis yn cael eu hystyried gennym ar gyfer ein garfan derfynol ar gyfer y Chwe Gwlad.
“Mae’r chwaraewyr yn gwybod y byddan nhw’n cystadlu am y llefydd hynny’n y garfan ar gyfer y Bencampwriaeth, fydd yn dod at ei gilydd ddiwedd mis Mawrth, i baratoi ar gyfer ein gêm gyntaf yn y gystadleuaeth yn erbyn Yr Alban yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn Ebrill 11.
“Ry’n ni wedi pwysleisio’r ffaith ein bod yn credu ei bod hi’n bwysig bod y merched yn chwarae rygbi’n rheolaidd er mwyn cael eu hystyried ar gyfer y garfan genedlaethol, ac mae’r ffaith bod 24 o chwaraewyr wedi chwarae’n yr Her Geltaidd y tymor yma’n cadarnhau pwysigrwydd hynny.”
Carfan Hyfforddi Estynedig Cymru ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2026:
Blaenwyr:
Gwenllian Pyrs (Sale), Maisie Davies (Gwalia Lightning/Bryste), Katherine Baverstock (Caerlŷr), Stella Orrin (Brython Thunder), Kelsey Jones (Hartpury/Caerloyw), Molly Reardon (Gwalia Lightning), Carys Phillips (Harlequins), Kendall Waudby (Loughborough), Sisilia Tuipulotu (Hartpury/Caerloyw a Brython Thunder), Jenni Scoble (Gwalia Lightning), Donna Rose (Saraseniaid), Elan Jones (Brython Thunder), Abbie Fleming (Harlequins), Gwen Crabb (Brython Thunder), Tilly Vucaj (Gwalia Lightning), Alaw Pyrs (Gwalia Lightning), Natalia John (Brython Thunder), Kate Williams (Hartpury/Caerloyw), Bethan Lewis (Hartpury/Caerloyw), Alex Callender (Harlequins), Bryonie King (Gwalia Lightning), Jorja Aiono (Brython Thunder), Branwen Metcalfe (Brython Thunder), Georgia Evans (Saraseniaid), Alisha Butchers (Bryste), Anwen Owen (Gwalia Lightning)
Olwyr:
Keira Bevan (Bryste), Meg Davey (Loughborough), Seren Lockwood (Brython Thunder), Sian Jones (Gwalia Lightning/ Hartpury/Caerloyw), Lleucu George (Hartpury/Caerloyw), Kayleigh Powell (Harlequins), Courtney Keight (Sale/Brython Thunder), Carys Cox (Ealing), Hannah Bluck (Brython Thunder), Hannah Dallavalle (Hartpury/Caerloyw), Kelsie Webster (Gwalia Lightning), Savannah Picton-Powell (Brython Thunder/Bryste), Nikita Prothero (Gwalia Lightning), Nel Metcalfe (Hartpury/Caerloyw), Lisa Neumann (Harlequins/Brython Thunder), Catherine Richards (Gwalia Lightning), Jasmine Joyce (Bryste), Seren Singleton (Brython Thunder), Jenna De Vera (Bryste).
