News

Lleoliadau wedi’u cadarnhau ar gyfer gemau Cymru ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd ym mis Gorffennaf

Bydd Cymru’n chwarae gêm oddi cartref yn erbyn Fiji yn Stadiwm Dinas Caerdydd

Mae’r lleoliadau ar gyfer tair gêm gyntaf Cymru ym Mhencampwriaeth gyntaf erioed y Cenhedloedd, sy’n dechrau ym mis Gorffennaf 2026, bellach wedi’u cadarnhau.

Bydd carfan Steve Tandy yn wynebu Fiji, Ariannin a De Affrica ar benwythnosau olynol dros gyfnod yr haf.

Yn gyntaf, bydd Cymru’n chwarae gêm oddi cartref yn erbyn Fiji yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn 4 Gorffennaf, wrth i Undeb Rygbi Fiji gyhoeddi heddiw y byddant yn cynnal eu tair gêm gartref yn y gystadleuaeth, yn Hemisffer y Gogledd.

Bydd cynnal eu gêm gartref gyntaf erioed ar dir Cymru’n eiliad hanesyddol i Undeb Rygbi Fiji ac yn gyfle i gefnogwyr rygbi Cymru gael blas ar ddiwylliant a threftadaeth Fiji ar garreg eu drws eu hunain.

Bydd ardaloedd penodol fydd yn cynnwys cerddoriaeth draddodiadol, adloniant a bwyd Fijïaidd ar gael i’r cefnogwyr ar ddiwrnod y gêm.
Bydd tocynnau ar gyfer Fiji v Cymru yn mynd ar werth i’r cyhoedd ddydd Iau 5 Mawrth. Cofrestrwch yma i gael blaenoriaeth wrth brynu: (ar gael o ddydd Mawrth 3 Mawrth) Fiji Rugby Union

Yn dilyn y gêm gyntaf, bydd Cymru’n teithio i Ariannin i wynebu Los Pumas yn Estadio San Juan del Bicentenario yn San Juan, ddydd Sadwrn 11 Gorffennaf.

Dyma fydd y tro cyntaf i Gymru ymweld â San Juan ers 2018, pan chwaraewyd y gyntaf o ddwy gêm brawf yn erbyn Ariannin yno. Y diwrnod hwnnw y gwnaeth Aaron Wainwright ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf wrth i Gymru ennill o 23-10.

Ar gyfer trydedd rownd gemau’r Bencampwriaeth ym mis Gorffennaf, bydd Cymru’n teithio o Ariannin i Dde Affrica, pan fyddant yn wynebu’r Springboks ym Mharc Hollywoodbets Kings yn Durban ddydd Sadwrn 18 Gorffennaf.

Dywedodd Steve Tandy: “Ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at Bencampwriaeth y Cenhedloedd a’r fformat newydd ar gyfer ein gemau ni’n ystod yr haf a’r hydref.

“Bydd dechrau ein hymgyrch gyda gêm oddi cartref yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn erbyn Fiji yn anhygoel. Ry’n ni’n gwybod eu bod nhw’n hoffi gêm gyflym ac agored, ac rwy’n siwr y bydd hi’n gêm gyffrous i’w gwylio.

“Wedi hynny, ry’n ni’n teithio i Ariannin ac wythnos yn ddiweddarach i Dde Affrica. Dau le anodd iawn i fynd iddyn nhw wrth gwrs, ond bydd y ddwy gêm honno’n cynnig cyfle gwych i herio’n hunain ac i adeiladu ar ein perfformiadau diweddar yn eu herbyn yng Nghyfres yr Hydref y llynedd.”

Fel Partner Teithio Swyddogol Cefnogwyr Undeb Rygbi Cymru, mae Gullivers Sports Travel yn cynnig pecynnau unigryw ar gyfer gemau Cymru yn erbyn Ariannin a De Affrica.

Dylai cefnogwyr sydd am sicrhau eu lle ar gyfer y gemau hynny ymweld â’r wefan hon: Wales Nations Championship packages – 2026

 

Gemau Cymru ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd

Gorffennaf 2026
Y gemau i gyd yn fyw ar ITV. Amseroedd y ciciau cyntaf i’w cadarnhau maes o law.

  • Rownd 1af: 4 Gorffennaf 2026 – Fiji v Cymru, Stadiwm Dinas Caerdydd
  • 2il Rownd: 11 Gorffennaf 2026 – Ariannin v Cymru, Estadio San Juan del Bicentenario, San Juan
  • 3edd Rownd: 18 Gorffennaf 2026 – De Affrica v Cymru, Parc Hollywoodbets Kings, Durban

Tachwedd 2026
Holl gemau Cymru i’w cynnal yn Stadiwm Principality ac i’w darlledu’n fyw ar ITV. Dyddiadau ac amseroedd y ciciau cyntaf i’w cadarnhau maes o law.

  • 4edd Rownd: I’w gadarnhau Tachwedd 2026 – Cymru v Japan
  • 5ed Rownd: I’w gadarnhau Tachwedd 2026 – Cymru v Seland Newydd
  • 6ed Rownd: 21 Tachwedd 2026 – Cymru v Awstralia

Cofrestrwch yma i fod y cyntaf i glywed am docynnau ar gyfer ein gemau cartref ym mis Tachwedd.

Related Topics