Penodi Holmes yn Hyfforddwr Amddiffyn Menywod Cymru cyn y Chwe Gwlad
Mae Undeb Rygbi Cymru yn falch o gyhoeddi bod Tyrone Holmes wedi’i benodi’n hyfforddwr amddiffyn newydd Cymru cyn Pencampwriaeth Chwe Gwlad Menywod Guinness 2026.
Mae Holmes yn dod â môr o brofiad o gamp y menywod ar lefel gemau prawf gydag ef, gan iddo wneud yr un gwaith gyda thîm menywod Yr Alban am dair blynedd.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, llwyddodd Yr Alban i gamu ymlaen o’u gemau grŵp yn ystod Cwpan y Byd 2025 gynhaliwyd yn Lloegr.
Cafodd Tyrone Holmes ei eni yn Ne Affrica – ond fe gynrychiolodd y blaen-asgellwr Yr Alban ar y llwyfan rhyngwladol. Bu hefyd yn aelod o garfan Glasgow pan enillon nhw Bencampwriaeth y Pro12 yn 2015.
Chwaraeodd Holmes, sydd bellach yn 39 oed, dros Western Province, y Stormers, Toulon, Northampton, Petrarca a Newcastle yn ystod ei yrfa hefyd.
Wedi iddo ymddeol o chwarae yn 2016, fe ddechreuodd ei yrfa hyfforddi gyda Stade Nicois yn Ffrainc.
Bydd Holmes yn dechrau ar ei waith yn swyddogol gyda Chymru ar Fawrth yr 2il.

Dywedodd Tyrone Holmes, Hyfforddwr Amddiffyn Menywod Cymru: “Mae’r cyfle i hyfforddi Cymru ar lefel ryngwladol gyda Phencampwriaeth y Chwe Gwlad ar y gorwel yn un sy’n fy nghyffroi’n fawr.
“Roedd cwrdd â Sean Lynn, Prif Hyfforddwr Cymru, a gweld ei awydd i greu gwir hunaniaeth gan hefyd feithrin meddylfryd buddugol o fewn y garfan, yn rhywbeth grëodd argraff fawr arnaf.
“Mae pawb yn ymwybodol o’i enw da yng ngêm y merched a’r menywod – yn enwedig ei lwyddiannau gyda Hartputy/Caerloyw, ac mae’n amlwg bod tân yn ei fol i greu llwyddiant gwirioneddol gyda Chymru hefyd.”
Dywedodd Sean Lynn, Prif Hyfforddwr Cymru: “Gwnaeth Tyrone argraff fawr drwy gydol y broses gyfweld ac roedd ei wybodaeth o gamp y menywod yn allweddol i’w benodiad.
“Fe wnaethon ni gydnabod yr angen am hyfforddwr amddiffyn penodol yn ein hadolygiad trylwyr wedi Cwpan y Byd. Gan ein bod eisoes wedi ei wynebu fel aelod o dîm hyfforddi’r Alban yn y Chwe Gwlad a Chwpan y Byd, ry’n ni’n gwybod bod ganddo feddylfryd ac agwedd fydd yn gymorth mawr i ni gryfhau ymhellach fel carfan.
“Mae’n mynnu gaith caled a chadernid cymeriad ac felly mae’n rhannu’r un gwerthoedd â’n chwaraewyr, hyfforddwyr a staff.
“Bydd Tyrone yn cynnig ambell agwedd wahanol a llais newydd wrth i ni baratoi ar gyfer ein gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Yr Alban yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn, 11 Ebrill.”
Dywedodd Dave Reddin, Cyfarwyddwr Elît Undeb Rygbi Cymru: “Fe wnaethon ni gynnal proses gyfweld a phenodi drylwyr iawn i lenwi’r rôl hon ac roedd Tyrone yn ymgeisydd amlwg iawn wnaeth sefyll allan.
“Mae nifer yr hyfforddwyr hynod safonol wnaeth gais am y swydd hon yn adlewyrchu twf cyflym gêm y merched a’r menywod – a’r fraint sy’n perthyn i hyfforddi timau cenedlaethol Cymru.
“Mae Tyrone yn dod â phrofiad gwirioneddol o’r gêm broffesiynol ac o rygbi menywod ar y llwyfan rhyngwladol atom ni, ac mae’n ychwanegiad gwerthfawr at dîm hyfforddi Sean.”
