News

Gwynne yn edrych ymlaen at wynebu'r Gwynion D20

Deian Gwynne
Deian Gwynne yn erbyn Lloegr y llynedd

Mae cyd-gapten tîm o dan 20 Cymru, Deian Gwynne yn disgwyl gweld ambell wyneb cyfarwydd yn nhîm Lloegr pan fydd y ddwy wlad yn herio’i gilydd yn Northampton nos Wener yng ngornest agoriadol y Bencampwriaeth eleni.

Mae’r blaen-asgellwr, sy’n wreiddiol o Aberystwyth, yn gobeithio ail-adrodd llwyddiant y Cymry’n erbyn yr Hen Elyn – yn dilyn eu buddugoliaeth o 23-13 dros Loegr ar Barc yr Arfau’r llynedd.

Methiant o’r herwydd fu ymdrechion Lloegr i ennill y Gamp Lawn y tymor diwethaf ac fe fyddant yn benderfynol o dalu’r pwyth am hynny pan fydd Deian Gwynne a’i gyd-Gymry’n ymweld â Gerddi Franklin nos Wener.

Mae Gwynne yn chwarae ei rygbi yng Nghaerloyw gyda Caio James ac mae pump o’u cyd-chwaraewyr yno yng ngharfan Lloegr ar gyfer gornest y penwythnos hwn – Will Knight, Freddie Ogden-Metherel, Kealan Freeman-Price, Olly Allport a Harry Wright.

Dywedodd Deian Gwynne: “Mae’n hynod gyffrous i ni chwarae yn erbyn Lloegr yn y gêm gyntaf o’r Bencampwriaeth. Ry’n ni’n gwybod beth lwyddon ni ei wneud yn eu herbyn yng Nghaerdydd y llynedd ac fe fyddwn ni’n mynd i mewn i’r gêm nos Wener yn dawel hyderus.

“Does dim gemau mwy na’r rheiny yn erbyn Lloegr, ac roedd hi’n emosiynol iawn y llynedd gyda’r dorf y tu ôl i ni ym Mharc yr Arfau. Roedd y cefnogwyr yn arbennig iawn y noson honno – ac roedden nhw fel chwaraewr ychwanegol i ddweud y gwir.

“Dwi’n gobeithio y bydd cefnogwyr o Gymru’n teithio i Northampton nos Wener oherwydd bydd y bois yn gwerthfawrogi hynny ac fe allan nhw wneud gwahaniaeth mawr.”

Bu asgellwr Cymru, Josh Hathaway, yn ysbrydoliaeth i Gwynne a James gan iddo adael Aberystwyth am Hartpury ddwy flynedd cyn iddyn nhw ddilyn yr un llwybr ag ef. Aeth Hathaway ymlaen i chwarae i dîm o dan 20 Lloegr cyn iddo ennill ei gap llawn dros Gymru, tra’n chwarae dros glwb Caerloyw.

Mae’r cysylltiadau Cymreig presennol yng Nghaerloyw’n amlwg iawn – gan bo mewnwr Cymru a’r Llewod Tomos Williams yn gapten ar y clwb, ac mae’r canolwr Max Llewellyn a’r clo Freddie Thomas yn ennill eu bara menyn yno ar hyn o bryd hefyd.

Ychwanegodd Deian Gwynne:

“Mae’n wych cael grŵp mor gryf o Gymry yn y clwb – ac er y bydd Tomos yn symud at y Saraseniaid y tymor nesaf, bydd Jac Morgan a Dewi Lake yn ymuno gyda ni wrth gwrs!

“Mae Josh a Tomos wedi dysgu gymaint i mi ers i mi gyrraedd y clwb a dwi’n hynod o ddiolchgar iddyn nhw am hynny.”

Ar ôl gwneud ei ymddangosiad cyntaf i dîm Caerloyw yng Nghwpan Uwch Gynghrair Lloegr yn 18 oed, a chwarae yng Nghwpan Her Ewrop y tymor diwethaf, fe chwaraeodd Deian Gwynne ei gêm Bencampwriaeth gyntaf dros Gaerloyw’r tymor hwn pan gurwyd yr Harlequins.

Er ei fod yn ennill ei blwyf gyda’r clwb, mae ei wreiddiau dwfn yng ngorllewin Cymru’n arbennig o bwysig i Gwynne o hyd, yn enwedig gan bod ei dad Dewi wedi bod yn gapten ar Glwb Rygbi Aberystwyth a’i daid yn Llywydd yno:

“Dechreuais fynd i glwb Aber pan o’n i tua chwech oed, a chwaraeais yno hyd at lefel Dan 16. Wedyn roedd rhaid i mi wneud penderfyniad mawr yn fy mywyd ac o safbwynt fy ngyrfa.

“Ro’n i wedi chwarae i Ysgolion Ceredigion a thimau Dan 16 y Scarlets yn y Gorllewin, ac fe gefais y cyfle i symud i Goleg Hartpury ar gyfer y chweched dosbarth. Roedd yn benderfyniad enfawr i adael cartref mor ifanc.

“Fe wnes i fentro a phenderfynu symud bant o Aberystwyth.

“Roedd hi’n anodd, ond dwi ddim yn difaru gwneud yr hyn wnes i gan fy mod wedi tyfu fel chwaraewr ac fel person ers gadael cartref.

“Ro’n i’n dal i gael chwarae dros dîm dan ddeunaw y Scarlets a phan gefais gynnig cytundeb gydag academi Caerloyw – doeddwn i ddim yn gallu ei wrthod – yn enwedig gan fy mod wedi bod yn byw yn yr ardal am ddwy flynedd erbyn hynny.”

Mae Gwynne yn gyd-gapten ar garfan Cymru Dan 20 ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad 2026, a bydd yn rhannu’r dyletswydd a’r fraint honno gyda chanolwr Caerdydd, Steff Emanuel.

Related Topics