Er i Gwalia Lightning golli’n erbyn y Wolfhounds o 52-7 y prynhawn yma – gan bod Glasgow wedi colli’n erbyn Brython Thunder, mae carfan Catrina Nicholas-McLaughlin wedi hawlio’u lle yng ngemau ail-gyfle’r Her Geltaidd.
Gydag un gêm o’r tymor arferol ar ôl, mae Gwalia Lightning yn gwybod mai gorffen yn y trydydd safle fydd eu tynged – ac felly byddant yn wynebu gêm oddi-cartref yn erbyn un o’r ddau dîm Gwyddelig yn y rownd gynd-derfynol.
Yn dilyn eu colled gyntaf o’r tymor yn erbyn Brython Thunder ar Barc y Scarlets wythnos ynghynt, fe ddechreuodd y Pencampwyr presennol ar dân gan hawlio’u pwynt bonws o fewn yr hanner awr agoriadol.
Y blaen-asgellwr Erin King groesoedd am gais cyntaf o bump yr ymwelwyr yn ystod y cyfnod cyntaf, wedi 12 munud yn unig o chwarae.
Gwaith hawdd oedd gan Dannah O’Brien i drosi’n union o flaen y pyst.
Yn heulwen prin diweddar Sir Caerffili – chwe munud wedi’r sgôr agoriadol – roedd y Wolfhounds wedi dyblu eu mantais yn dilyn cais yr asgellwr Katy Corrigan ac ail drosiad O’Brien.
Y prop nerthol Linda Djougang hawliodd y trydydd o 8 cais ei thîm, cyn i’r canolwr Eve Higgins bocedu’r pwynt bonws wedi 28 o funudau.
Roedd gan Corrigan ddigon o amser i groesi am ei hail gais o’r cyfnod cyntaf cyn i record drosi berffaith O’Brien barhau o’r ystlys.
O’r herwydd roedd mantais tîm Neill Acorn yn 35 pwynt ar yr egwyl.
Ychwanegodd India Daley gais pellach i’r Wolfhounds wedi troi, ond fe gafodd y dorf gais cartref i’w ddathlu gyda chwarter awr ar ôl.
Ar ei hymddangosiad cyntaf erioed yn yr Her Geltaidd fe groesodd Bethan Lewis am sgôr haeddiannol i Gwalia Lightning, wnaeth trosiad Carys Hughes yn syml o’r herwydd.
Yn ystod 9 munud olaf y chwarae, llwyddodd y Wolfhounds i sgorio dau gais pellach.
Yr eilydd Amy Larn hawliodd y cyntaf o’r rheiny cyn i Stacey Flood ryng-gipio cyn tirio wythfed cais ei thîm a chroesi’r hanner can pwynt yn y broses. Cododd O’Brien ei chyfrif cicio personol i 12 pwynt o flaen y pyst.
Er y canlyniad heriol hwn, bydd Gwalia Lightning yn ddiolchgar iawn i Brython Thunder am guro Glasgow – gan bod lle carfan Catrina Nicholas-McLaughlin yn y gemau ail-gyfle wedi ei gadarnhau o’r herwydd.
Bydd y ddau dîm Cymreig yn cyfarfod ar Barc y Scarlets ddydd Sul yr 8fed o Fawrth, pan fydd Brython Thunder yn gobeithio ymuno gyda’u cyd-Gymry yn y gemau ail-gyfle hynny.
Canlyniad: Gwalia Lightning 7 Wolfhounds 52
