News

Ffrainc yn arddangos eu doniau wrth guro'r Cymry

Fe sgoriodd Theo Attissogbe ddau gais.

O dan do Stadiwm Principality, llwyddodd Ffrainc i ennill eu hail gêm o Bencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2026 wrth guro Cymru o 54-12.

Gosodwyd seiliau i seithfed buddugoliaeth y Ffrancod o’r bron yn erbyn y Crysau Cochion yn y Chwe Gwlad yn bennaf gan iddyn nhw sgorio 19 o bwyntiau heb ymateb o fewn y chwarter awr agoriadol.

Wedi iddyn nhw gael y gorau ar Iwerddon ar benwythnos cynta’r cystadlu, llwyddodd tîm Fabien Galthié i groesi am gyfanswm o wyth cais yn erbyn bechgyn Steve Tandy o’i gymharu â dau gais y tîm cartref.

Fe gafodd yr ymwelwyr y dechrau delfrydol i’r ornest wrth i’r canolwr Emilien Gailleton groesi wedi 88 eiliad yn unig – yn dilyn pas wrthol Antoine Dupont a rhediad nerthol y clo Charles Ollivon.

Trosodd Thomas Ramos yn gyfforddus i gadarnhau’r dechrau perffaith i Les Bleus.

Ddeng munud yn ddiweddarach fe hawliodd y Ffrancod eu hail gais – wedi i Louis Bielle-Biarrey gasglu cic letraws berffaith Mattieu Jalibert i sgorio cais rhif 23 dros ei wlad ar ei bedwerydd ymddangosiad ar hugain.

Parhau wnaeth gorfoledd a rheolaeth yr ymwelwyr yn ystod y chwarter awr cyntaf pan goronodd Fabien Brau-Biorie ymosodiad llyfn arall i dirio trydydd cais ei dîm o’r prynhawn. Wedi trosiad Ramos – roedd mantais Ffrainc yn 19 pwynt.

Er i ail gais rhyngwladol Rhys Carré a deubwynt Dan Edwards gau’r bwlch hwnnw rhywfaint hanner ffordd drwy’r hanner cyntaf – roedd dadlwytho’r Ffrancod o’r dacl a’u dawn i gadw’r bêl yn fyw i’w edmygu’n fawr.

Serch hynny, manteisio ar ymdrech Adam Beard i gicio’r bêl yn ddiogel o ardal y dacl arweiniodd at bedwerydd cais yr ymwelwyr, a hynny funud yn unig cyn troi. Casglodd Matthieu Jalibert y briwsion ac roedd  pwynt bonws yr ymwelwyr yn ddiogel a haeddiannol erbyn yr egwyl. Yn dilyn trydydd trosiad Ramos roedd y bwlch rhwng y timau’n 19 pwynt ar yr hanner.

Er y byddai Cymru wedi dymuno am ddechrau cadarnhaol i’r ail gyfnod, fe lwyddodd Ffrainc i ymestyn eu mantais ddau funud wedi’r ail-ddechrau. Nid yr olwyr grëodd eu pumed cais ond yn hytrach eu sgarmes symudol grymus. Y bachwr Julien Marchand gododd o waelod y pentwr cyrff wrth hawlio’i bumed cais dros ei wlad ar achlysur ei hanner canfed cap.

Bum munud wedi hynny fe arddangosodd olwyr Ffrainc eu doniau disglair unwaith yn rhagor. Wedi i Bielle-Biarrey garlamu i lawr yr ystlys, roedd yr asgellwr arall, Theo Attissogbe ar ei ysgwydd i godi cefnogwyr Ffrainc i’w traed am y chweched tro. Wedi pumed trosiad cywir Ramos, roedd y Ffrancod wedi cyrraedd y deugain pwynt.

Manteisio ar ddawn Jalibert i osod ei gic letraws ar bishyn chwech wnaeth Attissogbe wedi bron i awr o chwarae. Ail gais i’r asgellwr, seithfed cais Ffrainc a chweched trosiad Ramos.

Doedd dim yn rhaid i gefnogwyr Les Bleus aros yn hir i dystio wythfed cais eu tîm. Charles Ollivon yw’r blaenwr sydd wedi sgorio’r nifer fwyaf o geisiau yn hanes rygbi Ffrainc – ac fe olygodd ei hyrddiad effeithiol o ddwy fetr ei fod wedi codi ei gyfanswm pwyntiau dros ei wlad i 95.

Er i’r eilydd Mason Grady sgorio ail gais Cymru’n y ddau funud olaf, roedd heddiw’n ddiwrnod llwyddiannus i Ffrainc wrth iddyn nhw gymryd ail gam sylweddol tuag at y Gamp Lawn eleni.

Fe sicrhaodd y fuddugoliaeth hon eu bod bellach wedi ennill 52 o gemau’n erbyn Cymru, o gymharu â 51 llwyddiant Cymru’n eu herbyn.

Er bod carfan Steve Tandy wedi colli eu dwy gêm gyntaf o’r Bencampwriaeth eleni, bydd ganddynt gyfle buan i geisio hawlio eu buddugoliaeth gyntaf o’u hymgyrch pan fyddant yn croesawu’r Alban i Stadiwm Principality ymhen chwe niwrnod.

Canlyniad: Cymru 12 Ffrainc 54

Dewi Lake – Capten Cymru

Wedi’r chwiban olaf, dywedodd Capten Cymru Dewi Lake: “Ry’n ni’n siomedig o golli ond mae’r sgorfwrdd yn siomedig hefyd gan ein bod wedi chwarae’n llawer gwell yr wythnos hon o’i gymharu â Twickenham.

“Roedd ein chwarae gosod yn gryfach ond fe gostiodd rhai camgymeriadau bach yn ddrud i ni. Mae’r bechgyn i gyd yn gwybod bod yn rhaid i ni wella eto – ond mae gan y bois yr hyder y byddwn ni’n dangos y gwelliant hwnnw’n fuan.

“Mae’n cefnogwyr ni yn rhoi gymaint o egni i’r chwaraewyr ar y cae – ac felly os all pobl ddod i’n gwylio’n erbyn Yr Alban ddydd Sadwrn, byddai hynny’n wych.”

Ychwanegodd Eddie James: “Roedden ni wedi siarad am ddawn Ffrainc i gadw’r bêl yn fyw yn ystod yr wythnos – ac roedden nhw’n dda iawn am wneud hynny yn ystod y gêm heddiw. Fe wnaethon ni’n dda am gyfnodau ond mae’r Ffrancwyr yn un o dimau gorau’r byd ac mae’n rhaid i ni ddysgu o brofiad heddiw.”

 

 

 

Related Topics