Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau bod eu cytundeb enwi o safbwynt y Stadiwm gyda Chymdeithas Adeiladu’r Principality wedi ei ymestyn tan 2030.
Bydd y buddsoddiad newydd hwn yn cefnogi rygbi ar lawr gwlad ac ar lefel uchaf y gamp yn uniongyrchol.
Mae’r Maes Cenedlaethol wedi ei adnabod fel Stadiwm Principality’n ffurfiol ers Ionawr 2016 ac yn ystod y cyfnod hwnnw, yn ogystal â gemau rygbi rhyngwladol Cymru, mae nifer o sêr mwyaf y byd pop a nifer o ddigwyddiadau cofiadwy eraill y byd chwaraeon wedi eu cynnal yn y Stadiwm hefyd.
Dywedodd Iain Mansfield, Prif Weithredwr Cymdeithas Adeiladu’r Principality: “Rwy’n falch iawn i gyhoeddi ein bod wedi ymestyn cytundeb enwi Stadiwm Principality tan ddiwedd y ddegawd hon hyd at 2030.
“Fel Prif Weithredwr un o gwmnïau mwyaf Cymru sydd wedi ei berchnogi gan ein haelodau, rydym yn hynod o falch o’n treftadaeth Gymreig ac hefyd o’r ffaith mai ni yw chweched Cymdeithas Adeiladu mwyaf y Deyrnas Unedig.
“Mae’r ffaith bod ein henw’n cael ei osod uwchben un o leoliadau chwaraeon ac adloniant mwyaf eiconig y byd yn ddatganiad clir gan ein cwmni i’r miliynau o ymwelwyr sy’n dod i Gaerdydd bob blwyddyn. Mae hefyd yn ychwanegu gwir werth pwrpasol i’n brand ni fel cwmni ac i economi Cymru hefyd.”
Sefydlwyd Cymdeithas Adeiladu’r Principality ym 1860 – ac fel arwydd o ewyllys da – fe estynnodd yr Undeb y cytundeb gwreiddiol am flwyddyn ychwanegol yn wirfoddol yn dilyn y cyfnod clo yn 2022. Bellach mae’r ddau sefydliad Cymreig pwysig hwn wedi cytuno i barhau i gydweithio tan o leiaf 2030.
Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney: “Mae’r cytundeb newydd yma’n mynd i sicrhau cefnogaeth allweddol i’r gêm gymunedol ar draws ein gwlad. Bydd hefyd yn cael effaith uniongyrchol a chadarnhaol ar welliannau o safbwynt ein gêm broffesiynol.
“Cymdeithas Adeiladu’r Principality yw un o’n cefnogwyr mwyaf ffyddlon a thryw. Mae eu henw bellach yn cael ei gysylltu’n gryf gyda llu o ddigwyddiadau o’r radd flaenaf sy’n cael eu cynnal yng nghalon ein Prifddinas, yn ogystal â’u cefnogaeth sylweddol i’r gêm gymunedol.
“Rydym fel Undeb, yn edrych ymlaen yn fawr at barhau i gydweithio gyda Chymdeithas Adeiladu’r Principality ac i greu atgofion oes newydd gyda’n gilydd.”
