Mae Undeb Rygbi Cymru wedi derbyn cais gan glybiau cymunedol i alw Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol .
O’r herwydd bydd yr Undeb nawr yn dilyn y broses lywodraethu sydd eisoes yn ei lle ar gyfer materion o’r fath.
Y camau nesaf fydd:
- Bydd yn rhaid i Undeb Rygbi Cymru wirio’r cais i sicrhau ei fod yn cydymffurfio’n llawn â’r broses, yn unol â Chyfansoddiad ac Erthyglau yr Undeb yng nghyd-destun ein Haelodau a’n Cymdeithasau.
- O fewn 21 diwrnod i dderbyn cais gan nifer digonol o glybiau sy’n aelodau, bydd yn rhaid i Undeb Rygbi Cymru roi rhybudd o’r dyddiad y bwriedir cynnal y Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol.
- Unwaith i’r rhybudd hwnnw am y dyddiad gael ei gyhoeddi, bydd yn rhaid cynnal y Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol ei hun o fewn 28 diwrnod wedi hynny.
Cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru ein cynlluniau ar gyfer Dyfodol y Gêm Elît yng Nghymru ddiwedd mis Hydref 2025, yn dilyn proses ymgynghori helaeth.
Rydym bellach yn canolbwyntio ar weithredu’r cynllun hwnnw ac rydym wedi bod yn gweithio’n ddiflino gyda’n rhanddeiliaid allweddol yn ystod y misoedd diwethaf i gytuno ar gonsensws o safbwynt y gweithrediad hwnnw.
Mae’r gwaith manwl hwn wedi’i wneud gyda’r clybiau proffesiynol, y Bencampwriaeth Rygbi Unedig (URC) a chynrychiolwyr y chwaraewyr, ac rydym yn parhau’n ymrwymedig i sicrhau consensws ar gyfer camau nesaf y broses.
Gofynnwn i bob rhanddeiliad barhau i weithio gyda ni. Rydym yn cydnabod bod newid yn heriol, ond mae’n hanfodol ar gyfer lles hirdymor y gêm yma yng Nghymru.
