News

Cyhoeddi tîm dan 20 Cymru i wynebu’r Alban

Y Prif Hyfforddwr Richard Whiffin

Mae Richard Whiffin wedi enwi ei dîm i wynebu’r Alban ar Barc yr Arfau nos Wener yn nhrydedd rownd o gemau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad dan 20. (7.15pm).

Mae Whiffin wedi gwneud pedwar newid gan gynnwys un newid o ran safle i’r pymtheg ddechreuodd yn erbyn Ffrainc yn y Brifddinas nos Sadwrn diwethaf, gyda dau newid yr un yn y pac ac ymhlith yr olwyr.

Mae prop pen rhydd y Gweilch, Dylan James, yn cymryd lle George Tuckley sy’n symud i’r fainc, tra bydd cyd-gapten Cymru, Deian Gwynne, yn dechrau’n flaenasgellwr ochr dywyll, sy’n caniatáu i Evan Minto ddechrau yn safle’r wythwr.

Y tu ôl i’r sgrym, bydd Bailey Cutts yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf, gan gamu i’r canol i lenwi esgidiau ei gyd-chwaraewr gyda Rygbi Caerdydd, Osian Darwin-Lewis, gafodd anaf y penwythnos diwethaf. Bydd asgellwr Met Caerdydd, Dylan Scott, hefyd yn ennill ei gap cyntaf ar y lefel hon wrth iddo gymryd lle Evan Morris o glwb Bryste.

Mae’n bosib y bydd y prop Yestyn Cook, y clo Oscar Rees a’r canolwr Luc Anfield yn ennill eu capiau cyntaf os y cawn nhw eu galw o’r fainc, wrth i Gymru geisio sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf o’r ymgyrch, wedi colledion main yn erbyn Lloegr a Ffrainc.

Dywedodd Prif Hyfforddwr D20 Cymru, Richard Whiffin: “Ry’n ni wedi gorfod newid ambell un o’r olwyr o ganlyniad i anafiadau gafodd rhai o’r bechgyn yn erbyn Ffrainc. O ran y pac, ry’n ni wedi penderfynu dewis Dylan James yn brop ben rhydd ac Evan Minto yn wythwr gan ein bod ni’n teimlo y byddan nhw’n cynnig rhywbeth ychydig yn fwy deinamig i’n gêm.

“Ry’n ni wedi chwarae’n dda iawn yn ein dwy gêm gyntaf a hynny’n erbyn dau o dimau gorau’r gystadleuaeth. Oni bai am fanion bychan, fe allen ni fod wedi ennill y ddwy gêm honno.

“R’yn ni’n falch o’r perfformiadau hyd yma ond yn siomedig gyda’r canlyniadau. Dy’n ni ddim yn edrych gormod ar dabl y Bencampwriaeth gan ein bod yn canolbwyntio’n llwyr ar ein gwrthwynebwyr nesaf.

“Ry’n ni’n gwybod bod yr Alban wedi cael cwpl o berfformiadau da eu hunain, gan eu bod wedi ennill yn Yr Eidal a chynnig gwir her i Loegr nos Wener ddiwethaf.

“Ry’n ni’n gwybod y bydd yr Albanwyr yn cynnig dipyn o her i ni’r penwythnos yma yng Nghaerdydd, ond os y gwnawn ni berfformio fel y gwnaethon ni nos Wener ddiwethaf, byddwn ni mewn sefyllfa gref i ennill y gêm.”

Cymru dan 20 v Yr Alban dan 20, Parc yr Arfau Caerdydd, Dydd Gwener 20 Chwefror, 7.15pm

1 Dylan James (Gweilch)
2 Tom Howe (Rygbi Caerdydd)
3 Jac Pritchard (Scarlets)
4 Luke Evans (Caerwysg)
5 Osian Williams (Bryste)
6 Deian Gwynne (Caerloyw – cyd-gapten)
7 Caio James (Caerloyw)
8 Evan Minto (Dreigiau)
9 Siôn Davies (Rygbi Caerdydd)
10 Carwyn Leggatt-Jones (Scarlets)
11 Tom Bowen (Rygbi Caerdydd)
12 Steff Emanuel (Rygbi Caerdydd – cyd-gapten)
13 Bailey Cutts (Rygbi Caerdydd)
14 Dylan Scott (Met Caerdydd)
15 Rhys Cummings (Rygbi Caerdydd)

Eilyddion

16 James Talamai (Dreigiau)
17 George Tuckley (Dreigiau)
18 Yestyn Cook (Scarlets)
19 Oscar Rees (Caerloyw)
20 Alex Ridgway (Caerfaddon)
21 Luca Woodyatt (Caerloyw)
22 Lloyd Lucas (Rygbi Caerdydd)
23 Luc Anfield (Prifysgol Caerfaddon)

Related Topics