News

Cyhoeddi tîm D20 Cymru i wynebu Ffrainc ar Barc yr Arfau

Deian Gwynne of Wales breaks against England
Deian Gwynne of Wales breaks against England

Mae Prif Hyfforddwr tîm D20 Cymru, Richard Whiffin, wedi gwneud un newid i’r tîm fydd yn wynebu Ffrainc nos Sadwrn (8pm) o’i gymharu â’r pymtheg ddechreuodd yn erbyn Lloegr yng ngêm gyntaf y Bencampwriaeth yr wythnos ddiwethaf.

Mae’r newid hwnnw yn safle’r cefnwr yn orfodol o ganlyniad i anaf i goes cefnwr Caerfaddon, Jack Woods. O’r herwydd bydd Rhys Cummings yn symud o’r asgell i lenwi esgidiau Woods, tra bydd yr asgellwr Evan Morris o glwb Bryste yn dechrau ei gêm gyntaf ar y lefel hon.

Mae Whiffin hefyd wedi gwneud dau newid ymhlith yr eilyddion, gyda James Talamai o’r Dreigiau’n cymryd lle bachwr Caerfaddon Oscar Thomas, tra bo chwaraewr rheng ôl Caerfaddon, Alex Ridgway, yn cael ei gyfle i gamu o’r fainc yn lle Dom Kossuth o’r Scarlets.

Dywedodd Richard Whiffin: “Roedd y bechgyn yn amlwg yn siomedig ar ôl y gêm [yn erbyn Lloegr] gan eu bod yn gwybod bod buddugoliaeth werthfawr wedi llithro o’u gafael .

“Mae’n rhaid i mi ganmol agwedd yr holl garfan, oherwydd erbyn i ni ddod yn ôl at ein gilydd ddydd Llun – yn hytrach na pharhau’n benisel ar ôl y golled greulon o hwyr yn erbyn y Saeson, roedd pawb yn canolbwyntio ar fod yn gwbl barod i wynebu Ffrainc y penwythnos yma.

“Mae pob gêm yn wahanol a bydd dydd Sadwrn yn cynnig nifer o heriau gwahanol iawn i ni, ond ry’n ni wedi profi dros y blynyddoedd diwethaf ein bod yn gallu bod yn gystadleuol iawn yn erbyn y prif dimau ar y lefel yma.

“Ein bwriad yw ennill y gêm ar Barc yr Arfau nos Sadwrn ac mae’n paratoadau’r wythnos hon wedi bod yn dda iawn ac wedi gosod seiliau cadarn yn eu lle ar gyfer perfformiad da gennym o flaen ein torf ein hunain.

“Roedd yr awyrgylch y tro diwethaf i ni chwarae ar Barc yr Arfau’n wefreiddiol. Roedd hynny’n help mawr wrth ein harwain at fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr fis Mawrth diwethaf.

“Gobeithio wir y gall rhywbeth tebyg ddigwydd nos Sadwrn yma hefyd!”

Tîm D20 Cymru v Tîm D20 Ffrainc, Parc yr Arfau, Sad 14 Chwefror, 8pm
1. George Tuckley (Dreigiau)
2. Tom Howe (Caerdydd)
3. Jac Pritchard (Scarlets)
4. Luke Evans (Caerwysg)
5. Osian J Williams (Bryste)
6. Osian Williams (Scarlets)
7. Caio James (Caerloyw)
8. Deian Gwynne (Caerloyw – Cyd-gapten)
9. Siôn Davies (Caerdydd)
10. Carwyn Leggatt-Jones (Scarlets)
11. Tom Bowen (Caerdydd)
12. Steffan Emanuel (Caerdydd – Cyd-gapten)
13. Osian Darwin-Lewis (Caerdydd)
14. Evan Morris (Bryste)
15. Rhys Cummings (Caerdydd)

Eilyddion:
16. James Talamai (Dreigiau)
17. Dylan James (Gweilch)
18. Isaac Godfrey (Caerwysg)
19. Tom Cottle (Caerdydd)
20. Evan Minto (Dreigiau)
21. Alex Ridgway (Caerfaddon)
22. Luca Woodyatt (Caerloyw)
23. Lloyd Lucas (Caerdydd)

Related Topics