News

Cyhoeddi carfan Ffrainc i wynebu Cymru

France v Wales
Fabien Galthié

Mae Prif Hyfforddwr Ffrainc, Fabien Galthié, wedi enwi naw chwaraewr sydd eto’i ennill cap yn ei garfan o 42 i baratoi i wynebu Cymru yn ail rownd o gemau Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2026 yn Stadiwm Principality ddydd Sul.

Nid oes lle o hyd i’r maswr Romain Ntamack, yr asgellwr Damian Penaud na’r wythwr Gregory Alldritt. Mae Ntamack, oedd eisoes yn dioddef o broblem gyda’i aren, wedi cyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol ei fod bellach hefyd wedi dioddef anaf i’w gyhyr hefyd.

Mae disgwyl i Matthieu Jalibert gadw’r crys Rhif 10 ar ei gefn am yr ail gêm yn olynol ar ôl ei berfformiad gwych yn y fuddugoliaeth o 36–14 dros Iwerddon ddydd Iau. Yn ystod y gêm honno fe sgoriodd yr asgellwr Louis Bielle-Biarrey ddau gais sy’n golygu ei fod bellach wedi croesi 23 o weithiau mewn 23 o gemau dros ei wlad.

Mae’r canolwr Kalvin Gourgues, enillodd ei ail gap yr wythnos ddiwethaf, wedi colli ei le’n y garfan i Emilien Gailleton. Mae’r clo Thibaud Flament a’r chwaraewr rheng ôl Paul Boudehent yn ôl yn y garfan ar ôl colli penwythnos agoriadol y Chwe Gwlad.

Ymhlith y naw chwaraewr sydd heb gap hyd yn hyn, mae’r maswr Axel Desperes – sydd wedi ei alw i’r garfan am y tro cyntaf.

Carfan Ffrainc v Cymru

Blaenwyr: Dorian Aldegheri (Toulouse), Hugo Auradou (Pau), Cyril Baille (Toulouse), Paul Boudehent (La Rochelle), Joshua Brennan (Toulouse), Georges-Henri Colombe (Toulouse), François Cros (Toulouse), Alexandre Fischer (Bayonne), Thibaud Flament (Toulouse), Jean-Baptiste Gros (RC Toulon), Mickaël Guillard (Lyon), Oscar Jegou (La Rochelle), Anthony Jelonch (Toulouse), Maxime Lamothe (Bordeaux Bègles), Julien Marchand (Toulouse), Temo Matiu (Bordeaux Bègles), Peato Mauvaka (Toulouse), Emmanuel Meafou (Toulouse), Régis Montagne (Clermont Auvergne), Rodrigue Neti (Toulouse), Lenni Nouchi (Montpellier), Charles Ollivon (RC Toulon), Thomas Staniforth (Castres Olympique), Tevita Tatafu (Bayonne)

Olwyr: Grégoire Arfeuil (Pau), Théo Attissogbe (Pau), Louis Bielle-Biarrey (Bordeaux Bègles), Fabien Brau-Boirie (Pau), Romain Buros (Bordeaux Bègles), Thibault Daubagna (Pau), Nicolas Depoortere (Bordeaux Bègles), Axel Desperes (Pau), Gaël Dréan (RC Toulon), Antoine Dupont (Toulouse), Émilien Gailleton (Pau), Aaron Grandidier Nkanang (Pau), Matthieu Jalibert (Bordeaux Bègles), Yoram Moefana (Bordeaux Bègles), Noah Nene (Stade Français Paris), Thomas Ramos (Toulouse), Baptiste Serin (RC Toulon), Cheikh Tiberghien (Bayonne)

Related Topics